Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr
Beth yw Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr?
Balot y mae holl aelodau Undeb Aberystwyth yn cael bwrw pleidlais ynddo yw ‘Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr’.
Yn unol â’r Cyfansoddiad, bydd angen 500 o Aelodau i wneud Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr yn gworwm a mwyafrif syml o’r aelodau sy’n pleidleisio.
NODER: Nid yw Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr (12-20 Rhagfyr) ar newid ‘y cyfnod hiraf i ymddiriedolwyr allanol yn y swydd’ wedi gwneud y cworwm roedd ei angen. Caiff myfyrwyr y cyfle i ddweud eu dweud ar y mater hwn yn ein Cyfarfod Cyffredinol ddydd Llun 10fed Mawrth.
NODER: Mae’r bleidlais ynglŷn â dyfodol swyddi’r swyddogion wedi’i gohirio er mwyn egluro disgrifiad y swyddi. Daeth y Bwrdd ynghyd a chytuno ar ystod o opsiynau i’r myfyrwyr eu hystyried; fodd bynnag, mae angen mwy o amser i sicrhau bod yr opsiynau hyn yn cael eu cyflwyno yn glir cyn gwahodd y myfyrwyr i benderfynu pa opsiwn sydd orau ganddynt.