Fforwm

Mae’r Fforymau yn ofodau agored sy’n cael eu cynnal gan eich swyddogion llawn amser, maent yn bodoli fel bod gan fyfyrwyr y cyfle i drafod unrhyw syniadau sydd ganddynt ac i ddal eu swyddogion i gyfrif.

Llefydd anffurfiol, hamddenol ydynt – does dim angen unrhyw wybodaeth o’r UM a’n prosesau arnoch i’w mynychu, mae croeso i bawb i bob Fforwm!

Gosodir thema’r Fforwm gan flaenoriaethau’r swyddogion a’i chefnogi gan aelodau o staff yr UM.

Beth yw diben y Fforymau

 

Bydd Fforwm llwyddiannus yn caniatáu i fyfyrwyr dynnu sylw at y materion sy'n fwyaf perthnasol iddynt mewn sefyllfa lawer mwy personol gydag amryw fynychwyr sy’n gallu:

  • Rhoi’r diweddaraf i bawb ar eu cynlluniau a'u digwyddiadau
  • Annog y swyddog llawn amser i weithredu ar fater
  • Rhoi adborth ar syniadau rydych chi am eu cyflwyno i'r Cyngor
  • Awgrymu geiriad a gwelliannau ar gyfer syniadau neu ymgyrchoedd
  • Helpu i ddarparu ffeithiau a phrofiadau personol sy'n berthnasol i'r testun
  • Canfod sut gallai gweithio ar syniad neu destun gael effaith gadarnhaol
  • Dod o hyd i gyfleoedd i gydweithio ar broblemau ar y cyd
  • Ateb cwestiynau

 

Beth sy’n cael ei drafod?

 

Mae pob Fforwm yn dilyn ffurf sylfaenol:

  • Cyflwyniadau – eich croeso arferol, ymddiheuriadau a chyfle i dorri’r iâ;
  • Adroddiad y swyddog - cewch wrando ar adroddiad swyddogol y swyddog llawn amser perthnasol a'i ddal i gyfrif
  • Testunau trafod a gyflwynwyd – gall myfyrwyr gyflwyno testunau i’w trafod cyn pob Fforwm er mwyn sicrhau lle iddo ar yr agenda. Gall hyn fod yn unrhyw beth sy'n berthnasol i'r Fforwm!
  • Unrhyw fater arall – cyfle i godi unrhyw beth, o destunau ychwanegol i ddiweddariadau neu gyhoeddiadau

O bryd i'w gilydd, byddwn ni’n gosod thema i’r Fforwm o gwmpas digwyddiad presennol neu fater pwysig neu’n defnyddio'r cyfarfod i wahodd siaradwyr ar gyfer sgyrsiau byr a sesiynau holi ac ateb.

 

Sut mae cyflwyno testun i'w drafod?

 

Gallwch e-bostio'ch pwnc at y Cydlynydd Llais Myfyrwyr: llaisum@aber.ac.uk, neu gyflwyno syniad trwy ein ffurflen ar-lein yma.

 

Atebolrwydd

 

Mae’r Fforymau yn arf pwysig mewn atebolrwydd ac anogir myfyrwyr i ofyn cwestiynau Swyddogion Llawn Amser am eu blaenoriaethau. Yn debyg i AS, mae eich Swyddogion wedi’u hethol i’ch cynrychioli chi ac felly mae arnynt gyfrifoldeb i sicrhau bod yr UM yn gweithio ar faterion o bwys i chi. Y Fforymau yw un o’r llefydd i hyrwyddo’r drafodaeth hon, ac mae myfyrwyr yn gallu dylanwadu’n uniongyrchol ar benderfyniadau a helpu i ffurfio prosiectau.

Mae atebolrwydd yn gydgyfrifoldeb, sydd ar ei fwyaf effeithiol pan fo’r Swyddogion Llawn Amser a’r myfyrwyr yn cymryd rhan yn y broses.

 

 

Cyfarfodydd 2024-2025

Tachwedd

Enw Pryd Cofnodion
Cyf Cyff a Parth Diwylliant Cymreig 11/11/2024 @ 18:00-19:00 Lolfa Fach, Pantycelyn  

Materion Academaidd

05/11/2024 @ 18:00-19:00 SU Picturehouse  
Llesiant a Rhyddid 06/11/2024 @ 18:00-19:00 SU Picturehouse  

Fforwm Chwaraeon, Cymdeithas

a Gwirfoddoli

07/11/2024 @ 18:00-19:00 SU Picturehouse  
   

 

Chwefror

Enw Pryd Cofnodion
Materion Academaidd 26/02/2025 @ 12:00-13:00 Undeb Picturehouse  
Llesiant a Rhyddid 27/02/2025 @ 12:00-13:00 Undeb Picturehouse  

Fforwm Chwaraeon, Cymdeithas

a Gwirfoddoli

25/02/2025 @ 12:00-13:00 Undeb Picturehouse  
   

 

Mawrth

Enw Pryd Cofnodion
Cyf Cyff a Parth Diwylliant Cymreig 24/03/2025 @ 19:00-20:00 Yr Hen Lew Du   
Materion Academaidd 25/03/2025 @ 18:00-19:00  Picturehouse UM  
Llesiant a Rhyddid 26/03/2025 @ 18:00-19:00  Picturehouse UM  

Fforwm Chwaraeon, Cymdeitha

 a Gwirfoddoli

27/03/2025 @ 18:00-19:00  Picturehouse UM  
   

 

Mwy o wybodaeth am bob fforwm

Y Fforwm Cyf Cyff a Parth Diwylliant Cymreig

 

Cadeirydd: Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA

Staff cynorthwyol:Cymorth a Chynrychiolaeth / Marchnata a Chyfathrebu

Mynychwyr arferol: Swyddog yr Iaith Gymraeg, Pwyllgor Gwaith UMCA

Daw unrhyw un sydd â diddordeb yn niwylliant Cymru ynghyd i drafod materion sy’n ymwneud â’r canlynol:

  • Y Gymraeg, dwyieithrwydd a dysgu Cymraeg yn Aber
  • Darpariaeth addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Digwyddiadau, dathliadau a gweithgareddau gwyliau yn Gymraeg
  • Cymorth ac adnoddau cymunedol i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a'u grwpiau fel UMCA

Mae’r Fforwm hwn ar gael yn ddwyieithog, os ydych chi’n dymuno cyfathrebu yn Gymraeg neu yn Saesneg mae croeso i chi ei fynychu.

 

Y Fforwm Academaidd

 

Cadeirydd: Swyddog Materion Academaidd

Staff cynorthwyol: Cymorth a Chynrychiolaeth

Mynychwyr arferol: Cynrychiolwyr Athrofa, Cynrychiolwyr Academaidd, Pwyllgorau Cymdeithasau Academaidd

Mae'r Fforwm hwn yn ymwneud ag addysg gan gynnwys:

  • Y system gynrychiolaeth academaidd
  • Materion penodol sy'n ymwneud ag unrhyw beth o ddarlithoedd, cyrsiau, modiwlau neu hyd yn oed gynlluniau gradd
  • Materion sy'n ymwneud â gwasanaethau fel llyfrgelloedd, gwasanaethau gwybodaeth neu offer ar-lein
  • Newidiadau yn strwythurau, staff neu weithgareddau'r Brifysgol

 

Y Fforwm Llesiant a Rhyddid

 

Cadeirydd: Swyddog Llesiant

Staff cynorthwyol: Cymorth a Chynrychiolaeth

Mynychwyr arferol: Swyddogion Rhyddhad, Swyddogion Llesiant Clybiau/Cymdeithasau, Pwyllgorau Cymdeithasau Elusennol neu Lesiant

Mae'r Fforwm hwn yn ymdrin â phopeth sy’n ymwneud â llesiant gan gynnwys:

  • Y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr trwy'r Undeb, y Brifysgol a darpariaeth iechyd lleol
  • Problemau sy'n effeithio ar hygyrchedd ac iechyd corfforol ac iechyd meddwl myfyrwyr
  • Ymgyrchoedd a chymorth i ddathlu a hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant

 

Y Fforwm Fforwm Chwaraeon, Cymdeithas a Gwirfoddoli

 

Cadeirydd: Swyddog Cyfleoedd

Staff cynorthwyol: Cyfleoedd

Mynychwyr arferol: Pwyllgorau Clybiau Chwaraeon a Chymdeithasau

Mae’r Parth hwn yn cael ei rannu’n ddau (awr yr un i’r clybiau a’r cymdeithasau) a phan fo'n berthnasol mae'n trafod:

  • Cymryd rhan mewn clwb neu gymdeithas a'r holl bethau sydd ynghlwm
  • Grantiau, cyllid, hyfforddiant a chynrychiolaeth
  • Materion sy’n ymwneud â chyfleusterau
  • Digwyddiadau mawr fel y Rhyngolgampau, Superteams a Gwobrau
  • Codi arian a gwirfoddoli

 

 

 


Mae’r Parthau’n gyfle gwych i sbarduno’r trafodaethau rydych chi am i ni eu cael, a'r gwaith hoffech chi i ni ei wneud.

Gallwch gyflwyno syniad trwy ein ffurflen ar-lein yma.

 Ash - Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth
  llaisum@aber.ac.uk 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576