Ymgeiswyr

 

Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r ymgeiswyr ar gyfer Etholiadau Swyddogion 2025, a dymunwn bob lwc iddynt gyda’u hymgyrchoedd. Mae’r pleidleisio’n agor 10am ddydd Llun 17ed Mawrth tan 12pm ddydd Gwener 21fed Mawrth 2025. 


Ymddiriedolwyr Ôl-raddedig 

Tristan Wood
Rwy'n credu bod fy sgiliau cyfathrebu cryf, fy ngallu i ddatrys problemau a’m hempathi yn fy ngwneud yn addas iawn ar gyfer swydd yr ymddiriedolwr ôl-raddedig. Gan fy mod wedi profi graddau ÔR a addysgir ac ymchwil, rwy'n gyfarwydd â'r heriau y mae myfyrwyr yn eu hwynebu, boed yn ariannol, yn gysylltiedig â lles, neu'n academaidd. Mae gweithio o fewn yr Undeb fel swyddog gwirfoddol academaidd a swyddog rhyddid yn golygu fy mod wedi ennill dealltwriaeth ddofn o'r materion sy'n effeithio ar fyfyrwyr ac rwy'n awyddus i sicrhau bod myfyrwyr ôl-raddedig yn cael eu cynrychioli'n dda i staff y brifysgol. Yn ogystal, bydd fy sgiliau datrys problemau a’m meddwl strategol yn helpu i greu atebion sydd o fudd i'r gymuned ôl-raddedig gyfan, gan sicrhau bod myfyrwyr doethuriaeth yn cael y profiad gorau posibl. Rwy’n awyddus iawn i ddadlau dros y gymuned ôl-raddedig, gan weithio'n agos gyda'r brifysgol i fynd i'r afael â'u hanghenion a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Rwy' wedi ymrwymo i gael effaith gadarnhaol a meithrin amgylchedd cefnogol i fyfyrwyr ôl-raddedig yn y brifysgol.

 

Iechyd meddwl a lles - Rwy’ am sicrhau bod myfyrwyr ÔR yn teimlo ein bod yn cael ein cefnogi'n ddigonol gan wasanaethau lles yn y brifysgol a bod staff yn deall pwysigrwydd sicrhau bod myfyrwyr yn gallu manteisio ar y gwasanaethau a'r adnoddau hyn yn hawdd.

Pryderon ariannol - drud yw bod yn fyfyriwr/wraig ÔR Credaf y dylem wybod sut i gael gafael ar gymorth ariannol hanfodol, cynnal gweithdai a gwybodaeth ar sut mae sicrhau yr arian perthnasol, a sicrhau bod staff yn gwybod sut i fynd at fyfyrwyr ac awgrymu’r adnoddau angenrheidiol pan fyddant yn wynebu rhent uchel, incwm isel, a’r costau posibl ynghlwm â’u cyrsiau.

Cynhwysiant ôl-raddedig - gall myfyrwyr ôl-raddedig deimlo fel nad oes fawr o ystyriaeth ohonynt yn narlun gwariant, cynllunio a chynhwysiant ehangach y Brifysgol, a chredaf fod angen i staff ystyried goblygiadau penderfyniadau ar bob grŵp o fyfyrwyr, yn enwedig o cofio sefyllfa ariannol bresennol Prifysgolion y DU.

 

Rhowch eich ymddiriedaeth yn nwylo Tristan am gynrychiolaeth ÔR weithgar a brwdfrydig fel Ymddiriedolwr ÔR!

                                                                                                                                   

RON  

Llywydd 

John Crisis
Ni allaf i ond gynnig fy ngwaed, fy llafur, fy nagrau a’m chwys.

 

Mae’r Undeb yn methu â chydnabod aberthau a wnaed gan 35ain Llywydd yr UDA, John F. Kennedy. Os caf fy ethol, rwy’n addo i ymrwymo mis Tachwedd 22ain yn ddiwrnod cofio Kennedy, a gorfodi’r Brifysgol i ostwng pob baner ar ei hanner y diwrnod hwnnw.

Diffyg cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Fel y gwelaf, gellir a dylid gwneud mwy i ddenu mwy o fyfyrwyr i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ym materion Undeb y Myfyrwyr. (A ellir dweud yn gwbl onest bod unrhyw un o’r ymgeiswyr eraill wedi gwneud ymdrech i wahodd Barack H. Obama i ddod a siarad am gymryd rhan mewn democratiaeth? a hynny oedd y peth CYNTAF i’m taro i.)

CADW’R LLYFRGELL AR AGOR AR BOB CYFRIF.

 

Yn eich calon, rydych chi’n gwybod fy mod i’n iawn.

                                                                                                                                  

Millie Hackett
Un agos-atoch ‘dwi a bydda’ i’n taro sgwrs gyda phawb rwy’n cwrdd â nhw, yn gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu clywed ac y gallant fynegi unrhyw bryderon sydd ganddynt. Rwy’n empathetig ac yn un sy’n dda am ddatrys problemau felly pan fydd angen help ar bobl fe fyddaf yn gefn bob tro i geisio datrys y sefyllfa neu eu cyfeirio at y person iawn i’w helpu. Rwy’ eisoes yn chwarae rhan fawr yn yr Undeb trwy wirfoddoli a chlybiau felly creda’ i mai’r dewis iawn i fi yw’r dewis i fod yn Llywydd fel y gallaf i gynrychioli myfyrwyr Aberystwyth.

 

Gwella Ymwybyddiaeth a Chymorth i Fyfyrwyr i helpu trechu rhwystrau y mae myfyrwyr yn eu hwynebu yn eu cyfnod yn y Brifysgol. Gwella Cyflogadwyedd Myfyrwyr trwy annog Cymdeithasau a Chlybiau Chwaraeon i feithrin sgiliau personol a theimlad o gymuned yn y Brifysgol. Cryfhau Llais y Myfyrwyr i sicrhau y clywir llais pob myfyriwr/wraig.

 

Hackett can hack it / Gall Hackett ei hacio

 

Will Parker
Rwy’n gwasanaethu fel y Swyddog Materion Academaidd ers Gorffennaf 2024. Yn ystod chyfnod yn y swydd, rwy’ wedi adnabod sawl her sy’n effeithio ar y boblogaeth fyfyriwr yn gyffredinol. Rwy’n bwriadu manteisio ar y sgiliau, ac yn bwysicach fyth, y wybodaeth rwy’ wedi’u hennill yn fy mlwyddyn gyntaf i ddadlau dros hawliau myfyrwyr. Rwy’n barod iawn i ymroi i’r cyfrifoldebau a ddaw â swydd Swyddog Sabothol, gan fod gennyf i afael gadarn ar sut mae’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn gweithredu. Bydd y profiad hwn yn fy ngalluogi i arwain newid effeithiol yn fwy llwyddiannus nag unigolion sydd â llai o adnabyddiaeth. Gan fy mod i’n byw yn Aberystwyth ers pum mlynedd, mae gennyf i ddealltwriaeth ddofn o’r heriau sy’n effeithio ar fyfyrwyr. Rwy’n hyderus yn fy ngallu i annerch cynulleidfaoedd mawr, fel y dangosais mewn fforymau a digwyddiadau Wythnos y Croeso. Rwy’ wedi ymrwymo i wneud y newidiadau rydych chi eisiau eu gweld.

 

Dro ar ôl tro, rhoddir llety o ansawdd gwael i fyfyrwyr ond nhwythau sy’n cael eu beio am y diffyg ansawdd. Llwydni yn rhemp yn y tŷ? Agorwch ffenestr! Tŷ oer a drafftiog? Gwisgwch yn dwymach! Ddylem ni ddim fod yn gorfod dioddef yr amgylchiadau hyn dim mwy! Rwy’ am ddwyn landlordiaid yn atebol am y budreddi y maent yn ei orfodi arnom. Os nad yw’n amlwg, mae colled ariannol yn rhemp ar draws y sector addysg uwch. Mae hyn wedi dwyn sylw yn sgil y toriadau diweddar ar oriau agor y llyfrgell, colli swyddi, a chyhoeddi adroddiad ariannol y Brifysgol. Mae newidiadau ar y gweill, waeth a ydyn ni’n cytuno neu beidio, byddaf yn ymdrechu i sicrhau bod y Brifysgol yn onest a chlir yn ei phenderfyniadau. Lle unigryw gyda myfyrwyr unigryw yw Aberystwyth. Mae rhaid i ni sicrhau bod y Brifysgol yn cadw ar ben anghenion diweddaraf ei myfyrwyr, yn nhermau addysg ac yn gyffredinol.

 

Tra bo Will, bydd ewyllys.

 

RON  

 

Swyddog Llesiant 

Alex Molotska
Fel y Swyddog Llesiant, fe fyddaf i’n rhoi cyfathrebu clir, caredigrwydd, ac atebolrwydd ar arfer. Dof â brwdfrydedd gref dros gynrychiolaeth a thryloywder. Rwy'n berson didwyll ac agored sy'n gwerthfawrogi atebion realistig y mae modd gweithredu arnynt i'r problemau go iawn y mae'r rheiny o'm cwmpas yn eu hwynebu. Rwy'n addo cyfuno fy sgiliau rhyngbersonol â’m hegni i drefnu a datrys problemau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’ch profiad yn y brifysgol.

 

1. Nid yw myfyrwyr yn elwa o botensial llawn gwasanaethau’r Brifysgol. Byddaf yn hyrwyddo perthynas gydweithredol buddiol rhwng Undeb Aber, y Gwasanaethau Myfyrwyr a BywydPres i feithrin rhwydwaith cymorth mwy datblygedig i fyfyrwyr. 2. Mae grwpiau rhyddid a Swyddogion Gwirfoddol yn wynebu rhwystrau rhag cyfathrebu a chymorth gan yr UM. Byddaf yn cefnogi Swyddogion Gwirfoddol a grwpiau rhyddhad yn well i gymryd rhan yn nigwyddiadau Undeb Aber a gwasanaethau. 3. Nid yw rhai heriau myfyrwyr unigryw ac amrywiol yn cael eu cynrychioli yn ddigonol mewn hyfforddiant ac arweiniad staff. Ni fanteisir ar yr hyfforddiant a’r arweiniad hyn neu mae wedi dyddio. Byddaf yn sicrhau bod adrannau prifysgol yn fwy amrywiol, gan gynnwys ymwybyddiaeth o drawma, iechyd meddwl, ac anabledd.

 

Pleidleisiwch dros Alex am les mwy cytbwys!

                                                                                                                                  

Kasia Pochylska
Byddaf yn dod â didwylledd, dealltwriaeth a phositifrwydd. Roeddwn i'n hoffi gwrando ar straeon pobl a dod o hyd i atebion i broblemau erioed. Rwy’ wedi dysgu, er bod llawer o bethau'n dibynnu ar ein cysondeb, ein penderfyniad a'n dewisiadau - nad yw’n dda nac chwaith yn ddrwg - ni allwn gyflawni llawer heb bobl eraill. Byddaf yn tynnu ar fy nodweddion personol, fy mhrofiadau a’r amgylchedd y cefais fy magu ynddo, i ddod â rheoli amser da a chreadigrwydd.

 

O'm profiad a gwrando ar straeon pobl eraill, y tri phrif fater sy'n effeithio ar fyfyrwyr yw: - ddim yn gwybod sut i ymdopi â straen a gorfeddwl; teimlo diffyg cyfleoedd i ddod ynghyd a dysgu sgiliau bywyd bob dydd - diffyg sgiliau cyllidebu ac arbed arian yn gyffredinol - tai a theimlo'n gyfforddus a bod yn hyderus wrth godi problemau gyda landlordiaid a heb wybod yr hawliau (tenantiaid a landlordiaid)

 

Mae'n bwysig i mi wneud pethau gydag angerdd ac mae'n well gen i broffesiynoldeb yn hytrach na pherffeithrwydd.

 

Livvy Haggett
Fi yw swyddog y menywod ers y flwyddyn ddiwethaf ac mae hyn wedi fy nysgu i am sut mae'r Undeb yn gweithio yn ogystal â pha mor bwysig yw'r gwaith a wneir yno yn nhermau digwyddiadau yn ogystal â'r adnoddau y mae’n eu cynnig. Byddwn yn tynnu ar fy nghefndir fel myfyriwr Marchnata yn Aberystwyth i sicrhau y rhoddir y sylw y maent yn ei haeddu iddynt gan obeithio denu mwy o ddiddordeb. Rwyf hefyd yn credu bod gen i'r sgiliau rhyngbersonol i allu wynebu heriau unigryw y swydd hon o ganlyniad i'm hamser yn gwirfoddoli o fewn yr Undeb mewn digwyddiadau fel Superteams

 

Rwy'n credu bod ystod o heriau y mae myfyrwyr yn eu hwynebu ond un sy’n hollbwysig i’w lles yn fy marn i yw'r diffyg gwybodaeth sydd ar gael ynghylch bwyta'n iach a sut i fwydo eu hunain pan fyddant ar eu pennau eu hunain am y tro cyntaf yn eu bywyd. Ochr yn ochr â hyn, rwy'n credu bod myfyrwyr yn llai ymwybodol o'r pethau sydd ar gael iddynt ac mae hyn yn arwain at beidio â manteisio ar y pethau a allai fod o les iddynt. Yn olaf, rwy'n credu bod angen i fyfyrwyr o gymunedau a ymyleiddiwyd gael mwy o gyfleoedd i feithrin cymunedau trwy ddigwyddiadau yn debyg i’r rheiny a gynhelir trwy gydol mis hanes LDHT.

 

Byw i’r Eithaf, Pleidleisiwch dros Liv - os caf fy ethol i'r swydd hon gennych fe wna’ i fy ngorau glas i sicrhau bod lles myfyrwyr yn cael ei flaenoriaethu yn y brifysgol

 

Miya Davies
Dof i â dealltwriaeth gref o sut mae Undeb Myfyrwyr y Brifysgol yn gweithredu, ers ennill profiad gwaith yn Adran Llais Myfyrwyr Undeb Aber. Trwy'r profiad hwn, rwyf wedi meithrin perthnasoedd cryf â staff, cymdeithasau a sefydliadau allanol. Nid wyf yn ofni codi fy llais, ond rwyf hefyd yn gwrando'n astud ar anghenion a syniadau pobl eraill. Mae fy natur gyfeillgar ac agos-atoch yn fy ngalluogi i gysylltu ag ystod eang o bobl, a’r awch am wirfoddoli sydd gennyf i yn dangos fy ymrwymiad i roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned. Rwy’ bob tro yn fodlon helpu, ac rwy’ wedi ymrwymo i fod yn ddylanwad cadarnhaol a meithrin awyrgylch mwy cynhwysol a chydweithredol i’r holl fyfyrwyr.

 

Cymuned gryfach, fwy cynhwysol Byddaf yn sicrhau cyfathrebu agored rhwng yr UM, y Swyddogion Gwirfoddol a chymdeithasau, gan roi llais i bawb a dilyn adborth yn dryloyw. Fy nod yw cyflwyno cynllun 'Ail Farn' i sicrhau bod eich ceisiadau'n cael eu hystyried o ddifri. Byddaf yn pwyso am ddigwyddiadau fel Super Teams, Varsity, a Sialens Aber i hyrwyddo cymdeithasu, lles a diddordebau newydd. Bydd cydweithio rhwng cymdeithasau yn cryfhau ein cymuned! Lles Amgylcheddol Byddaf yn gweithio gydag ymgyrchwyr a chymdeithasau amgylcheddol i drefnu mentrau fel gwestai gwenyn, uwchgylchu, a gwirfoddoli i roi rhywbeth yn ôl i'n hamgylchedd. Byddaf yn dadlau dros ddiweddaru polisïau amgylcheddol a sicrhau bod gan fyfyrwyr fodd o leisio eu pryderon. Trwy gryfhau cysylltiadau â sefydliadau allanol, gallwn greu newid parhaol i Aberystwyth wyrddach, iachach! Cyflogadwyedd a Grymuso Economaidd Byddaf yn ymdrechu dros fwy o gyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol, gan gynnwys Dysgu Gydol Oes, hyfforddiant cymorth cyntaf, interniaethau taledig, a thystysgrifau Gwobr Aber. Hefyd fel myfyriwr anabl, byddaf yn brwydro dros well fynediad at gymorth yn y gweithle a chyfle teg i bawb ffynnu!

 

Pleidleisiwch dros Miya Davies a Byddwch y Newid Rydych Chi Eisiau ei Weld: Dewn at ein gilydd ar gyfer Cymuned Gryfach, Grymuso Cyflogadwyedd, ac Aberystwyth Gwyrddach!

 

Tanaka Chikomo
Trwy fy sgiliau gwrando, sgwrsio a chydweithredol, byddaf yn gallu rhwydweithio â gwahanol grwpiau o fyfyrwyr ac aelodau staff, wrth ddysgu sut i gyfathrebu'n effeithiol â phobl o wahanol gefndiroedd academaidd, ethnig ac economaidd. Er enghraifft, trwy fy swydd flaenorol fel Cynorthwyydd Adrannol i Gymheiriaid ar gyfer Ieithoedd Modern, wnes i gwblhau hyfforddiant gan fy ngalluogi i gefnogi myfyrwyr gyda'u pryderon ynghylch eu perfformiad academaidd a'u cymdeithasu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Bydd fy sgiliau trefnu hefyd yn fy ngalluogi i gynnal sesiynau unigol gyda myfyrwyr ac aelodau’r gymuned lle trafodir atebion arfaethedig, yn enwedig o ran lles cyffredinol myfyrwyr. Rwy'n ddysgwr brwd, a byddai hyn yn fy ngalluogi i gael fy ysbrydoli gan aelodau eraill o'r gymuned ar ffyrdd ymarferol o gyfoethogi bywyd a lles myfyrwyr yn Aber, yn enwedig i fyfyrwyr sydd angen cymorth a gwasanaethau ychwanegol i wella eu profiad yn Aber.

 

Mae'r argyfwng costau byw yn parhau i fod yn un o'r rhwystrau anoddaf mewn Addysg Uwch. Yn aml mae'n rhaid i fyfyrwyr gadw ar ben gofynion talu rhent, cyllidebu effeithiol a bwyta a phrynu dillad ochr yn ochr â'u baich gwaith academaidd sydd eisoes yn heriol. Gall y pwysau beri i’w haseiniadau/asesiadau ddioddef oherwydd bod goroesi yn llyncu eu holl egni.

Mae diogelu iechyd meddwl yn fater arall sy'n ymddangos i effeithio ar ryngweithiadau dyddiol myfyriwr gyda'i gyfoedion a'i ddarlithwyr oherwydd gall methu â chadw ar ben ffioedd dysgu (yn enwedig i fyfyrwyr a ariennir eu hunain) effeithio ar eu cymhelliant a'u gallu i gydweithio ag eraill ar brosiectau grŵp a chymdeithasu â grwpiau newydd o fyfyrwyr trwy gymdeithasau, gweithgareddau chwaraeon a gwirfoddoli.

Mae cefnogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol a'u hintegreiddio â chymdeithasau a chwaraeon y brifysgol yn parhau i fod yn her. Mae'r gymuned myfyrwyr ryngwladol yn tyfu bob blwyddyn sy'n golygu mwy o sgyrsiau ar sut i wella integreiddio diwylliannau o fewn y brifysgol.

 

Rwyf wedi ymrwymo i chwyddo llais y myfyrwyr drwy 'basio'r meic', fel bod myfyrwyr yn teimlo, ac yn cael eu gweld a'u clywed.

 

RON  

 

Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr 

Dewi Price
Rwy'n fyfyriwr angerddol iawn sydd bob amser yn barod i wrando ar leisiau'r myfyrwyr a beth bynnag y mae'r myfyrwyr ei eisiau, byddaf yn ymladd drostynt ni waeth pa mor fawr fo'r broblem Rwy’ hefyd yn barod i helpu a chefnogi myfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth. Rwy’ hefyd yn berson agos-atoch hefyd sy'n parchu pawb a fydda’ i byth yn diystyru myfyriwr/wraig a byddaf bob amser yn gwrando arnynt. Rwy’ hefyd yn fyfyriwr sy'n gefn i bawb ni waeth eu rhywedd, eu crefydd, eu rhywioldeb neu’u hethnigrwydd a byddaf yn barod i ymladd dros y myfyrwyr hynny i roi mwy o gyfleoedd iddynt o amgylch y brifysgol. Rwy’ hefyd yn berson sydd ag wedd deg iawn a chyfartal tuag at bob myfyriwr/wraig a dof i ag egni cariadus llawn hwyl i swydd y swyddog cyfleoedd ond byddaf hefyd yn dod â llawer iawn o wybodaeth phrofiad o fod yn Llysgennad dros yr ysgol Gelf, cynrychiolydd cynadleddau UCM a hefyd Swyddog Gwirfoddol yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

 

Her sylweddol sy’n effeithio ar fyfyrwyr yw problemau iechyd meddwl Roedd 7.8% o fyfyrwyr y DU yn teimlo'n unig yn 2024 ac roedd 69%, canran syfrdanol, hefyd yn dioddef o iechyd meddwl gwael wrth ddysgu'r ystadegau hyn roeddwn i'n gwybod y byddai'r swydd hon yn berffaith i mi helpu annog mwy o fyfyrwyr i ymrwymo amser i gyfleoedd o gwmpas y brifysgol.

Mater pwysig arall yn fy marn i y mae myfyrwyr yn ei wynebu yw peidio â gwneud ffrindiau a chuddio. Mae 21% o fyfyrwyr yn ei gweld hi’n anodd gwneud ffrindiau ond trwy wneud mwy o gyfleoedd i'r myfyrwyr hyn deimlo'n fwy rhydd a chyfforddus, efallai y gallwn helpu myfyrwyr hyn i wneud ffrindiau oes.

Y mater olaf sydd, yn fy marn i, yn gwneud bywyd myfyrwyr yn anodd yw pwysau academaidd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig canolbwyntio ar wneud gwaith ond hefyd meithrin diddordeb ac rwy'n credu efallai nad oes digon o gyfleoedd i fyfyrwyr feithrin yr hobïau hyn mewn prifysgolion felly drwy’r diffyg cyfleoedd hyn mewn prifysgolion mae myfyrwyr yn gorweithio felly trwy ychwanegu a chreu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr bydd yn helpu lleihau'r teimlad hwnnw o bwysau academaidd.

 

dylai myfyrwyr bleidleisio drosta’ i oherwydd byddaf bob amser yn brwydro i roi cyfle teg a chyfartal i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth

                                                                                                                               

Ffion Johns
Rwy'n berson croesawgar ac allblyg iawn a fydd yn caniatáu i'r myfyrwyr deimlo’n esmwyth wrth gyfathrebu â mi. Rwy’ hefyd yn drefnus iawn, sy’n hollbwysig wrth gynnal digwyddiadau fel Superteams, Sialens Aber a Rugby 7s. Mae gen i sgiliau arwain gwych hefyd, ac rwy'n croesawu rheolaeth ac amgylcheddau prysur. Mae gen i sgiliau siarad cyhoeddus gwych hefyd.

 

Cyfathrebu rhwng yr Undeb a chymdeithasau/clybiau

Argaeledd adnoddau a'r argyfwng chwyddiant sydd ohoni

Cefnogaeth i gymdeithasau â lles a chydbwysedd gwaith a diddordebau

 

Dylai myfyrwyr bleidleisio drosta i gan mai llais drostynt nhw ydw’i. Byddaf o’u plaid nhw, yn dadlau er eu budd nhw.

 

Henry Howe

Arwain

Yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol, rwyf wedi cyflawni sawl swydd fel pwyllgor. Y llynedd, cefais y fraint o wasanaethu fel llywydd cymdeithas a chlwb chwaraeon—dau gylch gwahanol iawn i’w gilydd sy'n gofyn am sgiliau arwain penodol. Yn y ddwy swydd, rwy’ wedi bod yn rhan annatod o drefnu digwyddiadau fel stondinau Ffair y Glas, digwyddiadau cymdeithasol, a chyngherddau. Mae'r cyfrifoldebau hyn yn gofyn am weledigaeth glir a'r gallu i arwain eraill i gyflawni eu potensial llawn.

Cyfathrebu

Mae cyfathrebu yn hollbwysig i swydd felly. Mae fy nghyfnod fel aelod pwyllgor wedi profi i mi bwysigrwydd nid yn unig siarad ond gwrando gweithredol. Mae cyfathrebu go iawn yn gofyn am feistroli'r ddau sgiliau hyn.

Angerdd

Rwy'n angerddol dros gynrychioli buddion myfyrwyr. Gweithio er eich budd chi fyddai’n fy arwain i fel y Swyddog Cyfleoedd. Fy nod yw cynrychioli buddiannau cymdeithasau a chlybiau chwaraeon. Gyda'n gilydd, ewn ni i’r afael â’r problemau sy'n ein hwynebu!

 

Cyfathrebu Rhwng Cymdeithasau Mae ein digwyddiadau ni ar eu gorau pan fyddwn ni’n gweithio ar y cyd! Trwy hyrwyddo trafodaethau rhwng cymdeithasau, gallwn greu mwy o ddigwyddiadau a chyfleoedd hwyliog i bawb, gan annog pobl i roi cynnig ar bethau newydd a chwrdd â mwy o bobl anhygoel yn ein Prifysgol!

Cyfleusterau Chwaraeon Mae swyddogion cynt yr Undeb wedi cyflawni cynnydd da o ran gwella cyfleusterau chwaraeon, ond mae'n rhaid i ni barhau â’r pwysau yma. Byddaf yn cyflawni hyn drwy weithio i ysgogi deialog gyda'r rhanddeiliaid amrywiol i sicrhau buddugoliaeth gyffredin sydd nid yn unig o fudd i fyfyrwyr, ond hefyd i bobl leol!

Cyfleusterau cerddoriaeth Mae cerddoriaeth yn rhan annatod o iechyd meddwl llawer o bobl. Fel Swyddog Cyfleoedd, byddwn yn ceisio ehangu ar argaeledd offer ac ystafelloedd ymarfer i helpu Cerddoriaeth i ffynnu yn Aberystwyth.

 

Sut gallwn ni wneud gwahaniaeth? Gyda’n gilydd!

 

Mallika Kumar
Fel Swyddog Cyfleoedd i Fyfyrwyr, byddwn yn dod â chyfuniad o empathi, arweinyddiaeth, ac ymrwymiad cryf i wneud gwahaniaeth yng nghymuned y myfyrwyr. Mae fy nghefndir mewn gwaith cymdeithasol a phrofiad helaeth mewn swyddi allgymorth wedi rhoi i fi rhyngbersonol eithriadol a'r gallu i ymgysylltu'n ystyrlon â grwpiau amrywiol. Rwy'n unigolyn gweithgar a threfnus sy'n ffynnu mewn lleoliadau cydweithredol, gan sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed. Bydd fy ngallu i addasu a datrys problemau, rwy’ wedi’i fireinio trwy brofiadau fel arwain ymgyrchoedd codi arian a mentrau paratoi adnoddau, yn fy ngalluogi i fynd i'r afael â phryderon myfyrwyr yn effeithiol a chreu cyfleoedd sy'n wirioneddol apelio.

 

Y tri phrif fater y mae myfyrwyr yn eu hwynebu yn aml yw:

Brwydrau iechyd meddwl: Gall cadw’r ddysgl yn wastad rhwng gwaith academaidd, bywyd personol, a phryderon am y dyfodol lethu person, gan beri straen, pryder, ac weithiau arwain at fyfyrwyr yn chwythu eu plwc.

Pryderon ariannol: Gyda chostau byw cynyddol a ffioedd dysgu, mae llawer o fyfyrwyr yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd, gyda’u ffocws a'u profiad cyffredinol yn dioddef yn ganlyniad.

Pwysau Academaidd: Gall cadw ar ben baich gwaith trwm, terfynau amser tynn, ac weithiau swyddi rhan-amser beri i fyfyrwyr deimlo dan bwysau a’u blino’n lân.

 

Pleidleisiwch drostaf i godi eich llais! Rwy’n angerddol, agos-atoch, gyda’r ysgogiad i fynd i’r afael ag iechyd meddwl, cyllid a phwysau academaidd — eich anghenion chi sydd bwysicaf:)

 

Mott Grigg

Gan fy mod yn frwd dros gysylltu myfyrwyr â'u diddordebau, byddaf yn eiriolwr cryf dros fyfyrwyr sy'n teimlo nad ydyn nhw'n cael eu gweld. Hoffwn i gyfrannu at y profiad myfyrwyr cyffredinol. Rwy’ am i bawb fwynhau Aber gymaint â fi yn y tair blynedd ddiwethaf. Bod yn llais dros bobl sy'n meddwl eu bod heb lais.

Rwy'n unigolyn eclectig sy'n dal i ddysgu bod yn nhw eu hunain, ond rwy'n ymfalchïo yn pwy ydw’i. Mae swydd fel Swyddog Cyfleoedd yn gofyn am rywun sy'n gyfforddus ac yn angerddol, rhywun fel fi.

 

Mater o bwys mawr i fyfyrwyr ar hyn o bryd yw eu bod yn teimlo'n unig. Mae iechyd meddwl yn effeithio ar bob un ohonom, mae codi llais yn beth anodd i'w wneud. Rhaid i fyfyrwyr gael eu clywed a’u gweld - a gwybod hynny. Mae angen i ni drafod Llais y Myfyrwyr, iechyd meddwl ac amrywiaeth.

Mae angen llais ar gymdeithasau cerddoriaeth a chelfyddydau yn ogystal â'r cymdeithasau llai ond tra’n sicrhau bod chwaraeon a chymdeithasau â llais. Ar ddiwedd y dydd rydyn ni i gyd yn gyfartal, ond hefyd yn unigol. Felly, rwy’ am wella profiad pob aelod o’r brifysgol o fod mewn cymdeithas.

Mae rhai myfyrwyr yn teimlo nad ydynt yn cael eu cynrychioli yn y ffordd y maent ei angen ar gyfer eu bywyd yn y brifysgol. Gweithio ochr yn ochr â’r swyddog materion academaidd er mwyn sicrhau bod profiad y myfyriwr cyfan yn deg ac yn hygyrch i bawb, y carfannau heb gynrychiolaeth ddigonol.

 

Dylech bleidleisio dros rywun sy'n hyderus gyda'i hun a rhywun sydd eisiau'r gorau i bawb. Y gorau i bob myfyriwr/wraig Mott am Fwy o Les.

 

RON  

Swyddog Materion Academaidd 

Abi Shipman
A finnau yn gynrychiolydd myfyrwyr ers 4 mlynedd bellach, mae gen i ddigon o brofiad o gasglu a chyflwyno adborth. Ar hyn o bryd fi yw cadeirydd myfyriwr PCSM fy adran, felly rwy'n gwybod sut i fod yn effeithiol mewn cyfarfodydd. Rwy'n greadigol - y ffordd rwy’ wedi bwrw arni i ddatrys problemau y mae myfyrwyr wedi’u codi, y mae’r adran wedyn, yn ei thro, wedi rhoi hyn ar waith, gan gynnwys cynnydd mewn cymorth academaidd ar gyfer y blynyddoedd cyntaf a'r blynyddoedd sylfaen. Rwy'n hyderus o flaen grwpiau - rwy’ wedi cyflwyno sawl sgwrs groesawu i fyfyrwyr newydd y tymor diwethaf. Rwy'n brydlon ac dydw’i erioed wedi colli’r un cyfarfod PCSM, ac rwy'n gweithio'n dda gydag eraill, a finnau wedi gweithio ar y cyd gyda chynrychiolwyr eraill ers blynyddoedd. Rwy’ wedi ymrwymo i sicrhau bod pob myfyriwr yn cael ei gynrychioli, p'un a ydynt yn niwroamrywiol, yn gwiar, yn anabl, DALlE neu unrhyw beth arall. Rwy'n gwiar ac yn niwroamrywiol, ac mae gen i angerdd gwirioneddol dros wneud eich bywyd yn y brifysgol y gorau posib.

 

Ar draws y brifysgol, rwy'n teimlo y byddai myfyrwyr yn elwa o fwy o gyfleoedd i ddatblygu; modd o ddarganfod ar beth hoffent arbenigo ar ôl graddio, fel darlithoedd gwadd, tripiau ac ymarferion nad ydynt yn gysylltiedig ag asesiadau. Nid ennill gradd yn unig yw’r pwrpas mynd i’r brifysgol, mae'n ymwneud â dysgu, a chymryd rhan yn y byd academaidd oherwydd ei fod yn ddiddorol, nid dim ond oherwydd bod yn rhaid i chi wneud hynny. Fel cynrychiolydd myfyrwyr ers tipyn, rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun sut mae'r system yn cael trafferth cynrychioli myfyrwyr yn iawn. Mae angen denu mwy o ddiddordeb gan fyfyrwyr wrth ddod yn gynrychiolwyr, ond hefyd o ran nifer y myfyrwyr sy'n rhoi adborth. Gellir gwella hyfforddiant i baratoi cynrychiolwyr yn well ar gyfer hyn. Mae cyfathrebu yn fater parhaus gyda'r Brifysgol. P'un ai dyma broblem oriau agor y llyfrgell yn ddiweddar, neu bethau fel amgylchiadau arbennig, mae'r mater yn parhau. Rwy’ am i’r brifysgol fod yn eglur ac yn uniongyrchol o ran yr hyn sydd ar droed, a chyfathrebu'n glir.

 

Bydd Abi yn dadlau drosoch chi fel swyddog materion academaidd!

                                                                                                                             

Esperanza Bizama Monnier
Rwy'n frwdfrydig, yn ymroddgar ac yn gyfrifol. Mae fy mhrofiad fel cynrychiolydd academaidd am ddwy flynedd wedi fy helpu i ddeall yn well sut i bontio'r bwlch rhwng myfyrwyr a staff. Rwy'n angerddol am ein prifysgol a'n materion academaidd. Rwy'n ymdrechu bob amser i weithio gyda meddylfryd cadarnhaol a phenderfyniad. Credaf ei bod yn bwysig i leisiau myfyrwyr gael eu clywed a bod eu pryderon yn cael eu hateb gyda newid go iawn.

 

Cyfathrebu gyda chynrychiolwyr academaidd: Gall Cynrychiolwyr Academaidd fod o fudd mawr ond weithiau, mae’n anodd eu hysgogi i weithredu. Fel rhywun sydd wedi bod ar y ddwy ochr, fel myfyriwr mae’n anodd cael gafael ar eich cynrychiolydd academaidd ar brydiau ac fel cynrychiolydd academaidd gall denu eich cyd-fyfyrwyr i gyfrannu fod yr un mor anodd. Sylfeini’r Brifysgol: Fel myfyriwr rhyngwladol ac er gwaethaf y ffaith i fi wneud cryn ymchwil cyn symud i’r DU, fe’i gwelais i hi’n anodd i ddeall sut mae Prifysgolion Prydain yn gweithredu. Er enghraifft, y system sgorio a pha raddau y dylid ymdrechu i’w hennill. Ar ben heriau megis hiraethu am gartref tra’n llywio gwahaniaethau diwylliannol, mae’n peri straen ychwanegol. Cymorth Astudio: Gall arfer i’r agwedd academaidd ar fywyd Prifysgol fod yn her. Ar ddechrau eu taith academaidd, mae pob myfyriwr/wraig yn profi cyfnod o ymaddasu, a gall fod yn un unig a digalon.

 

Byddaf yn gweithio'n galed i sicrhau bod profiad pob myfyriwr yn Aberystwyth yr un mor anhygoel â mi.

 

Lorraine McConnell
Myfyriwr tair blynedd o Anchorage, Alaska, yr UDA. Fel myfyriwr rhyngwladol, gallaf i ddeall heriau myfyrwyr rhyngwladol.

 

Fy nhair prif flaenoriaeth

Cynyddu cefnogaeth niwroamrywiol a’i gwneud hi’n haws i’r rheini sydd heb ddiagnosis i fanteisio ar gymorth oddi wrth y Brifysgol.

Dod ag oriau llyfrgell 24/7 yn ôl

Dadlau dros lais y myfyrwyr rhyngwladol a sicrhau eich bod chi’n teimlo eu bod yn cael eu clywed.

 

Pleidlais dros bawb yw pleidlais dros Lorraine!

 

Rowenna Gibson
Pleidleisiwch dros Rowenna Gibson ar gyfer Materion Academaidd:

 

Ymroddgar, gweithgar ac wedi rwymo i wella eich profiad academaidd!

Fel y Swyddog Materion Academaidd, hoffwn i wella’r hyfforddiant i gynrychiolwyr academaidd gan ei adolygu i wella ein cynllun sydd eisoes yn wych yn y Brifysgol hon. – Helpu Cynrychiolwyr Academaidd i ddeall y pŵer sydd ganddynt, gwneud newid gwirioneddol ac ennill hyder.

Hoffwn weithio ochr yn ochr â myfyrwyr anabl a darlithwyr i helpu sefydlu system presenoldeb tecach fel na fydd cosb am troi at panopto i fynychu eu gwersi yn lle mynd mewn person pan aiff hi’n anodd arnynt.

Byddaf yn brwydro dros eich profiad academaidd fel na chaiff ei gyfaddawdu gan doriadau a helpu gwneud newidiadau teg a chynnig opsiynau eraill.

RON  

 

Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA 

Nanw Maelor

Ers cyrraedd Aberystwyth yn 2022, dw i wedi trysori rôl gwerthfawr UMCA a diwylliant Cymraeg. Tra bo fy astudiaethau wedi fy nysgu am werth academaidd diwylliant Cymraeg, mae fy mhrofiadau personol a chymdeithasol y tu allan i ddarlithoedd wedi dysgu imi wir pwysigrwydd presenoldeb y Gymraeg a diwylliant Cymraeg i brofiadau cannoedd o fyfyrwyr yn Aberystwyth.

Yn ogystal ag ennill gwerthfawrogiad o’m profiadau fy hun, dw i wedi dod i adnabod aelodau UMCA a’u hanghenion dros y blynyddoedd a hynny nid yn unig o’m rôl fel Cadeirydd UMCA, ond hefyd drwy’r profiadau a digwyddiadau gwerthfawr y mae UMCA yn ei gynnig. Dw i hefyd wedi dysgu am berthynas UMCA â dysgwyr fel Swyddog Ail Iaith ac wedi ceisio datblygu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn yr Undeb fel cynrychiolydd UMCA ar Senedd yr Undeb.

 

Un o’r problemau mwyaf cyfarwydd inni yw’r argyfwng costau byw sy’n effeithio ar ein bywydau personol, yn ogystal â’r brifysgol ehangach - boed yn ariannu adrannau’r brifysgol neu strwythurau’r Undeb ehangach a’r brifysgol. Mae hyn yn broblem a effeithiodd ar fyfyrwyr UMCA yn uniongyrchol yn sgil bygythiadau i rôl Llywydd UMCA fel swydd llawn amser.

Yn ffrwyth y broblem hon, un o’r materion pwysicaf arall yw llais myfyrwyr. Mewn Undeb ddemocrataidd sy’n gynrychioladol o’i holl fyfyrwyr, mae’n bwysig bod myfyrwyr yn teimlo bod eu barn fel myfyrwyr yn cael ei chlywed a’i deall.

Y mater olaf, a mwy personol i mi, fel myfyriwr presennol sy’n astudio a byw yn llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg, yw darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ac yn benodol, modiwlau Cymraeg. Rhaid sicrhau bod cyfleoedd i fyfyrwyr ffynnu yn academaidd i sicrhau dyfodol llewyrchus iddyn nhw eu hunain ond hefyd i’r Gymraeg yng Nghymru.

 

Mynnwch mai Nanw sydd nesaf er mwyn cael llais gref dros yr iaith Gymraeg a sicrhau bod hawliau’r Gymraeg ac UMCA yn cael eu gwarchod yn y dyfodol.

                                                                                                                                

RON  

 


Cadeirydd yr Undeb 

Francesco Lanzi
Fi oedd cadeirydd eleni a chefais lawer o hwyl a hoffwn barhau. Rwy'n credu fy mod i wedi gwneud gwaith da y flwyddyn hon a hoffwn barhau.

 

Costau byw, toriadau amrywiol ar draws y brifysgol a ffioedd dysgu

 

Trystiwch y plan, pleidleisiwch dros Fran

                                                                                                                                   

RON  

 

Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd 

Blue Bell
Rwy’ wedi graddio yng Ngwyddor yr Amgylchedd, ar hyn o bryd rwy’n ymgymryd â'm gradd Meistr i symud ymlaen i ddoethuriaeth - ac mae hyn oll yn rhoi dealltwriaeth gref a gwerthfawrogiad i mi o bryderon amgylcheddol a gweithredu cynaliadwy. Fi oedd Swyddog yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn 2022 ac felly rwy'n deall y swydd a'i gofynion. Rwy'n hyderus yn fy ngallu i wrando'n weithredol ar syniadau a phryderon myfyrwyr a staff a throsglwyddo gwybodaeth i Undeb y Myfyrwyr yn effeithiol, wrth helpu ddatblygu cynlluniau gweithredu. Rwy’ wedi bod yn fyfyriwr gwirfoddol bob blwyddyn ers 2020 ac rwy'n hyderus y gallaf gydbwyso cyfrifoldebau'r swydd hon â'm hastudiaethau!

 

Mae costau byw yn broblem enfawr i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr, sydd wedyn yn effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol myfyrwyr, yn ogystal â materion sy'n berthnasol i'r swydd hon, megis prynwriaeth gynaliadwy a moesegol.

 

Rwy’n brofiadol, gwybodus, ac wedi ymrwymo i wneud newid cadarnhaol!

                                                                                                                                   

RON  

 

Swyddog yr Iaith Gymraeg 

Elliw Mair
Rwy’n fyfyriwr blwyddyn gyntaf yn astudio’r Gyfraith a’r Gymraeg yn Aberystwyth ac yn rhan o’r gymuned Gymreig ym Mhantycelyn. Yno, dwi’n aelod brwd o UMCA, ble cymerais ran yn ymgyrch Achub UMCA. Ar hyn o bryd, yn gwirfoddoli hefo Citizenship UK, dwi’n ysgrifennydd ar gymdeithas wleidyddol yn Aberystwyth ac yn llysgennad i’r Coleg Cymraeg. Rwyf wedi bod yn aelod brwd o’r Ffermwyr Ifanc, rwyf wedi dal swyddogaeth fel ysgrifennydd ac ysgrifennydd y wasg i fy nghlwb lleol ac ysgrifennydd ar Fforwm Ieuenctid Môn. Hefyd, daliais deitl Aelod Iau'r Flwyddyn ym Môn, 2023-2024, a chael ail yn y gystadleuaeth drwy Gymru. Dwi’n aelod o’r Urdd, roeddwn yn gadeirydd ar Fforwm Ieuenctid Môn, yn gwirfoddoli mewn sawl Eisteddfod ac wedi gwneud y mwyaf o dripiau rhyngwladol. Roeddwn yn brif ferch yn fy ysgol uwchradd ble cymerais ran yn lansio Fforwm Iaith gyntaf yr ysgol a dal swydd Cadeirydd.

 

Rydym wedi gweld effaith costau byw ar sefydliadau hanfodol pwysig, megis prifysgolion. Fel aelod UMCA, gwelais botensial effaith y toriadau yma yn fygythiad i gymuned Gymreig y Brifysgol. Hefyd, mae effaith pwysau ariannol ar fyfyrwyr yn medru arwain at bryderon anferth. Mae’n rhaid i fyfyrwyr fod yn ymwybodol nad ydynt ar ben eu hun ac felly byddaf yn lleisio pryderon myfyrwyr ar eu gallu ariannol i barhau eu haddysg.

Ceisiaf wella’r ddarpariaeth i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Os yw’r Brifysgol wedi gaddo’r ddarpariaeth i astudio drwy’r Gymraeg, yna mi ddylent gadw at eu gair, a’u dal yn atebol. Dylai’r Brifysgol hefyd ddilyn safonau Comisiynydd y Gymraeg. Credaf y dylai bawb gael y cyfle i fod yn ddwyieithog.

Ceisiaf wella’r ddarpariaeth i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Os yw’r Brifysgol wedi gaddo’r ddarpariaeth i astudio drwy’r Gymraeg, yna mi ddylent gadw at eu gair, a’u dal yn atebol. Dylai’r Brifysgol hefyd ddilyn safonau Comisiynydd y Gymraeg. Credaf y dylai bawb gael y cyfle i fod yn ddwyieithog.

Mae’r llywodraeth wedi rhoi trafnidiaeth am ddim i oedolion dros 60 oherwydd bod ymwybyddiaeth am bryderon ariannol pensiynwyr. Mae’r egwyddor yr un fath i fyfyrwyr sy’n byw gyda chyfyngiadau ariannol.

 

Mi fyddaf yn blaenoriaethu lles myfyrwyr ac yn dal y Brifysgol yn atebol.  Rwy’n berson gweithgar, cydwybodol ac angerddol dros gyfiawnder. Rhowch eic

                                                                                                                                       

RON  

 

Swyddog y Myfyrwyr Ôl-raddedig 

RON                      

 

Swyddog y Myfyrwyr Hyn 

Mesh Tamilchelven
Rwy'n berson angerddol sy'n credu'n gryf mewn bod yn llais dibynadwy a gweithgar i'r gymuned.

 

Ariannu eu haddysg.

Diffyg mynediad hawdd i wasanaethau iechyd meddwl

Pontio’r newid i’r gweithlu ar ôl graddio.

 

Os caf fy ethol, gallaf gynrychioli'r pryderon a'r materion sy'n wynebu myfyrwyr o wahanol gefndiroedd (Hŷn, Rhyngwladol, Asiaidd, LHDTCA+).

                                                                                                                                   

RON  

 

Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol 

Christopher Arimma
Rwy'n unigolyn empathig a gweithgar sy'n angerddol dros feithrin amgylchedd cefnogol a chynhwysol ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig. Rwy'n gyfathrebwr rhagorol, yn gallu gwrando'n weithredol a chynrychioli safbwyntiau amrywiol, gan sicrhau bod pob myfyriwr/wraig yn teimlo ei fod yn cael ei glywed a'i werthfawrogi. Mae fy ngallu i addasu a’m gwydnwch o fudd wrth lywio heriau, tra bod fy natur gydweithredol yn fy ngalluogi i weithio'n effeithiol gyda chyfoedion, cyfadran a staff prifysgol. Rwy’ wedi ymrwymo i hyrwyddo lles myfyrwyr, hwyluso profiadau academaidd a chymdeithasol buddiol, a magu cymuned ôl-raddedig fywiog a chysylltiedig. Gyda’m hymroddiad, fy meddylfryd strategol, a’m brwdfrydedd, rwy'n barod i gael effaith ystyrlon fel swyddog myfyrwyr ôl-raddedig.

 

Mae rheoli cyllid yn bryder cyffredin ymhlith myfyrwyr yn Aberystwyth, ffioedd dysgu, talu am eu costau llety, a threuliau/cyllideb byw bob dydd. Mae gan y Brifysgol Dîm Cyngor ac Arian sy'n darparu cyngor a chefnogaeth i helpu myfyrwyr i frwydro yn erbyn yr heriau hyn.

Anawsterau sy'n gysylltiedig â'u cyrsiau, anawsterau aseiniadau, anableddau a materion iechyd.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i gefnogi myfyrwyr sy'n wynebu'r materion hyn.

Gall addasu i'r amgylchedd newydd ac addasu i fywyd prifysgol hefyd fod yn un o'r materion. Teimlo'n unig, yn anhapus neu'n teimlo dan straen, yn enwedig y rhai sy'n bell oddi cartref.

Mae'r brifysgol yn darparu ystod o gymorth iddynt ac yn rhoi ar ddeall iddynt eu bod mewn lle diogel ac amgylcheddau rhagorol.

 

Pleidleisiwch drostof i i ddod â chreadigrwydd, arweinyddiaeth ac angerdd i'ch profiad fel myfyriwr. Byddaf yn gwrando, yn eiriol, ac yn magu cymuned gefnogol, fywiog!

                                                                                                                                  

Duraab Arshad
Rwy'n credu bod angen am gymysgedd o sgiliau rhyngbersonol a threfnu i fod yn swyddog myfyrwyr rhyngwladol, hoffwn gredu bod gen i ymwybyddiaeth ddiwylliannol, gan fy mod yn agored i ddiwylliannau ac arferion eraill. Mae gen i sgiliau cyfathrebu cryf, a’r gallu gwrando'n astud. Rwy'n credu bod yr heriau y mae myfyrwyr yn eu hwynebu o bwys mawr i fi a gwn y gallaf feithrin amgylchedd croesawgar i fyfyrwyr rhyngwladol

 

Digwyddiadau i'r lleiafrif, rwy'n gwybod bod cymdeithasau sy'n cynnal y digwyddiadau hyn ond rwy'n credu y dylid eu cynnal ar gyfer poblogaeth fyfyrwyr Prifysgol Aber gyfan fel y gall mwy o bobl ddod yn fwy agored eu meddwl a pharchu diwylliannau gwahanol. Ni allaf i ddim siarad ar ran myfyrwyr eraill ond roeddwn i'n teimlo'n unig pan ddes i i'r brifysgol am y tro cyntaf oherwydd mae hyn fel byd newydd i mi ac rwy'n sicr yn gwybod, efallai nid pawb, bod rhyw fyfyriwr sy'n teimlo'r un fath â mi. Y peth olaf yw'r pwysau ariannol, rydyn ni i gyd yn gwybod bod myfyrwyr rhyngwladol yn talu dwbl yr hyn y mae dinasyddion Prydain yn ei dalu ac mae'n rhaid i rai weithio sawl swydd dim ond i dalu eu ffioedd dysgu.

 

Rwy'n gwybod sut mae'n teimlo i fod yn 'ddieithryn' yma, byddaf yn brwydro dros fwy o gyfleoedd a chefnogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol

 

RON  

 

Swyddog y Myfyrwyr LHDTC+ 

Fresno Rhys Thomas

Fel person, anabl, cwîar, a thraws o Gymru, rwy'n angerddol iawn dros hawliau ac ansawdd bywyd cwîar a thrawsryweddol; Yn enwedig ar gyfer myfyrwyr sydd angen cysylltu â'i gilydd. Rwy'n ceisio hwyluso'r cysylltiad hwnnw lle bynnag y gallaf, ac fel y Swyddog LHDTC rwy'n addo darparu'r cyfleoedd hyn i fyfyrwyr hen a newydd.

Ac fel rhywun sy'n ymfalchïo yn eu cymuned, gobeithio y byddaf yn gallu gweithio gyda phobl cwîar a thraws eraill yn Aberystwyth i feithrin cymuned fwy diogel sy’n codi ei llais.

 

Yr heriau y mae myfyrwyr yn eu hwynebu heddiw wrth gwrs yw y cynnydd mewn ffioedd a chostau dysgu, dirywiad adnoddau, ac unigedd. Mae'r adfyd o ddod o hyd i gymuned yn ystod cyfnod bregus lle rydym ni fel pobl cwîar ond yn dod yn fwy ac yn fwy agored i niwed yn rhywbeth y mae'n rhaid mynd i'r afael â thosturi yn fy marn i. Mae costau cynyddol, diffyg adnoddau, ac unigedd i gyd yn mynd law yn llaw ar draul myfyrwyr a phawb arall, a dyna pam rwy'n credu ei bod yn fwy angenrheidiol nag erioed i ymrwymo i feithrin cymuned a chefnogi ein gilydd.

 

Credaf ei bod yn bwysicach nag erioed ein bod ni fel pobl cwîar yn gweithio gyda'n gilydd ac yn datblygu ein cymuned gydag angerdd i feithrin mannau cefnogol.

                                                                                                                         

RON  

 

Swyddog y Menywod

Livvy Haggett
Fi yw swyddog y menywod ers y flwyddyn ddiwethaf ac yn ystod yr amser hwn rwy’ wedi mynychu amrywiaeth o ddigwyddiadau a gwirfoddoli i redeg pethau fel SuperTeams. Mae hyn yn rhoi persbectif unigryw i mi o'r swyddogaeth a byddwn wrth fy modd yn parhau â'r gwaith rwy’ wedi bod yn ei wneud

 

Rwy'n credu bod amrywiaeth o heriau yn wynebu myfyrwyr ond diffyg cymuned yw un o'r rhai sy’n fy mhoeni fwyaf. Yn ogystal â hyn, efallai bod ar grwpiau rhyddid angen mwy o ymdrech i dynnu sylw at eu gweithgareddau gan fy mod yn credu nad yw llawer o fyfyrwyr yn ymwybodol o'r hyn y mae'r Undeb yn ei wneud a allai fod o ddiddordeb iddynt. Yn debyg i hyn, rwy'n credu y byddai mwy o ymwybyddiaeth o'r adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n ei chael hi'n anodd o fudd mawr.

 

Pleidleisiwch dros Liv i Fyw’n Dda – Rwy’ wedi bod wrth fy modd yn fy mlwyddyn fel swyddog y menywod a hoffwn barhau i weithio yn yr Undeb i wneud i fenywod deimlo'n ddiogel a’u bod yn cael eu gweld.

                                                                                                                   

Natasha Goodwin
Rwy’n gweithio ym maes lletygarwch ers 7 mlynedd, mae hyn wedi fy ngalluogi i ennill sgiliau gwych o ran gweithio mewn timau, a siarad â phobl. Rwyf hefyd wedi dal swyddogaethau o'r blaen fel prif ferch, cymorth i fyfyrwyr a gweithgareddau arweinyddiaeth eraill sy’n cynnwys tîm. Mae gen i lawer o amynedd ac rwy'n mwynhau datrys problemau. Yn gyffredinol, rwy'n berson sy’n llawn egni, yn barod i sefyll dros yr hyn y mae'n ei gredu, rwy'n gweithio'n dda gyda phobl ac eisiau gallu helpu a gwneud gwahaniaeth yw fy unig nod.

 

Rwy'n credu bod angen mwy o gymorth i addasu ar fyfyrwyr, mae'r brifysgol yn gwneud gwaith da ar hyn ond gall y newid o fyw gyda rhieni'n llawn amser gyda bywyd strwythuredig iawn i fod yn annibynnol a gorfod byw ar eich pen eich hun fod yn frawychus i bobl, dylai fod mwy o gyfleoedd y tu allan i gymdeithasau i wneud ffrindiau a dod o hyd i bobl sy'n gallu gwneud bywyd yn haws ar ôl symud.

Mater o bwys mawr i fyfyrwyr prifysgol yw straen arholiadau/pryder. Mae arholiadau ac aseiniadau prifysgol yn wahanol i'r hyn y bydd y rhan fwyaf o'r myfyrwyr wedi'i brofi o'r blaen yn eu haddysg ac er bod darlithwyr wedi cynnig rhywfaint o help ac mae rhai canllawiau ar-lein, nid yw'n helpu myfyrwyr cystal ag y gallai. Mae angen ffyrdd mwy effeithlon ac effeithiol o helpu myfyrwyr i oresgyn pryder arholiadau a chynnig y gefnogaeth sydd ei hangen.

 

O ran cymorth lles yn gyffredinol, tu hwnt i’r gwasanaethau cymorth myfyrwyr, nid oes fawr o sôn am iechyd meddwl a gall gael effaith fawr ar fyfyrwyr. Dylai fod mwy o ymwybyddiaeth ynghylch y pwnc.

 

RON  

Swyddog y Myfyrwyr Anabl 

Billy Smith and Harley Harrison

Fel dau berson sydd â'n gwahanol anableddau ein hunain, rydym wedi wynebu llawer o heriau ar wahân i’n gilydd yn ein bywyd prifysgol. O gael trafferth gyda chymorth myfyrwyr, i sicrhau amser ychwanegol neu herio adrannau ynglŷn â pharatoadau arholiadau, rydym yn deall yr anawsterau y mae myfyrwyr anabl yn eu hwynebu oherwydd ein bod yn byw yr anawsterau hynny. Etholwch ni i gael dau gynrychioliadol a gweithgar o swyddogion anabledd.

Mae gan y ddau ohonom hefyd brofiadau gyda chefnogi a dadlau dros bobl ag anableddau y tu allan i brifysgolion.

 

Ein pum prif bolisi:

1. Sicrhau bod y campws yn hygyrch i bawb, waeth beth fo'u hanabledd neu’u nam, cynyddu ymwybyddiaeth am fannau hygyrch a llwybrau o amgylch y campws a'u bod yn cael eu cynnal

2. Gwell berthynas â’r gwasanaethau cymorth, gan sicrhau bod myfyrwyr yn cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt

3. Mwy o wybodaeth i'r rhai sydd ag anableddau tu mewn a thu allan o'r neuadd ddarlithio i'w helpu i fynd i'r afael â bywyd prifysgol, megis mapiau llwybrau hygyrch neu nosweithiau allan sy'n croesawu pobl anabl.

4. I fod yn ffynhonnell gyson o gymorth, gan gynnig cyngor ac ymladd dros sicrhau y cymorth y mae myfyrwyr anabl yn ei haeddu.

5. Sicrhau bod gan bawb lais cyfartal a'u bod yn gallu siarad allan a chael eu clywed

 

Anableddau gwahanol, profiadau gwahanol, yr un nodau

                                                                                                                     

Milo Pitman
Rwy'n ystyfnig, yn ddi-ildio ac yn bwysicach fyth, yn uchel. Ni fyddaf yn dawel am faterion rydym yn eu hwynebu, hyd yn oed o ran materion rydym wedi dwyn perswâd arnom ein hunain mai bach ydynt ac nad ydynt yn haeddu amser. Rwy'n mwynhau gwrando ar brofiadau pawb ac yn ystyried fy hun yn berson cyfeillgar, dydw i ddim eisiau dim mwy na sicrhau bod pawb yn gyfforddus ac yn hapus ac yn ddiogel.

 

Rwy'n credu ei fod yn gymhleth, nid yw myfyrwyr yr un fath â’i gilydd. Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni mae llawer o fyfyrwyr yn ei chael hi’n anodd yn ariannol, gan fyw ar ddeiet sy'n brin o’r y rhan fwyaf o lysiau a fitaminau oherwydd yn aml nid yw'n cael ei ystyried yn bwysig prynu cynnyrch drud aiff yn ddrwg mewn ychydig ddyddiau. Mae ymdeimlad o berthyn yn fater arall, mae llawer o fyfyrwyr yn brin o hyder yn eu galluoedd ac yn credu nad ydynt yn haeddu bod yma, mae hwn yn fater sy'n rhemp ymysg myfyrwyr anabl, gan arwain at gymaint o bobl yn rhoi'r gorau iddi heb wireddu eu potensial. Unigedd yw mater arall Gyda chymaint o gymdeithasau â ffocws cryf ar yfed, rhywbeth nad yw llawer eisiau ei wneud na gallu ei wneud, yn ogystal ag amrywiaeth o ffactorau eraill, mae llawer o fyfyrwyr yn teimlo'n unig ac ni allant ddod o hyd i'w pobl a all beri problemau iechyd meddwl ac ansefydlogrwydd academaidd.

 

Rwy am helpu pobl hyd eithaf fy ngallu, rwy'n deall yn dda iawn sut deimlad yw cael eich gwrthod.

 

RON  

 

Swyddog y Myfyrwyr Croenddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig 

RON  

 

Swyddog Myfyrwyr Traws ac o Rywedd Anghydffurfiol 

Magpie Cousins a Sera Talea
Rydym yn hynod gefnogol, yn ddi-flewyn-ar-dafod, a gonest. Gyda chefnogaeth y Brifysgol: byddwn yn darparu presenoldeb mwy diogel a derbyniol i'r gymuned. Fel myfyrwyr cwîar, mae gennym ymgyrch bersonol uniongyrchol i helpu myfyrwyr traws/anghydffurfiol eraill ac i sicrhau bod gan bob un ohonom le diogel. Byddwn yn gwrthod aros yn anweledig yn y sîn fywiog hon, ac yn y swydd hon. Fel eich swyddogion myfyrwyr traws ac o rywedd anghydffurfiol, byddwn yn sicrhau y cewch eich gwrando a’ch clywed!

 

Nid yw myfyrwyr traws ac anghydffurfiol eu rhywedd wedi cael digon o sylw na gofal gan y brifysgol, felly dyma pam rydym yn addo sicrhau bod man diogel dibynadwy a bywiog i bob myfyriwr/wraig cwîar. Ar hyn o bryd nid oes digon o gefnogaeth i fyfyrwyr trawsryweddol ac o rywedd anghydffurfiol. - Diffyg cymorth gan y brifysgol: e.e. diffyg cyfeirio myfyrwyr at wasanaethau cymorth yn ddigon cynnar ar eu taith yn y brifysgol. - Diffyg allgymorth cymunedol gweladwy: e.e. dim cyfryngau cymdeithasol, diffyg hysbysebu ar gyfer digwyddiadau. Diffyg mannau i gymdeithasu i leddfu unigedd gyda’r nos heblaw am yfed (gan gynnwys nosweithiau, penwythnosau, a gwyliau). - Ymestyn cefnogaeth yr ymgyrchoedd cynhwysiant rhywedd presennol e.e. anelu at ddarparu nwyddau mislif mewn ciwbiclau , ac ym mhob cyfleuster toiled ar draws campysau Aberystwyth.

 

Meithrin cymuned fyfyrwyr traws ac anghydffurfiol o ran rhywedd gryfach, mwy cefnogol a diogel.

                                                                                                                    

Mason Gee
Rwy'n teimlo bod rhai rhinweddau cryf y byddwn i'n dod â fi i swyddogaeth y swyddog Myfyrwyr Traws ac Anghydffurfiol o ran rhywedd yn cynnwys ymdeimlad cryf o eiriolaeth rhyngbersonol, lefel dda o wrando'n astud i glywed gwahanol brofiadau gan fyfyrwyr o bob cefndir gwahanol, yr agosatrwydd i feithrin man diogel i rannu pryderon, a'r gallu i gydnabod pwysigrwydd croestoriadedd o fewn profiadau Myfyrwyr Traws ac Anghydffurfiol eu Rhywedd. Ansawdd pwysig arall rwy'n teimlo fy mod i'n meddu arno yw dealltwriaeth o bwysigrwydd gwelededd a chynrychiolaeth, nid oes gen i gywilydd o’m hunaniaeth o gwbl ac un o’r peth rwy’ fwyaf angerddol drosto mewn bywyd yw sicrhau bod pobl Traws ac Anghydffurfiol o ran rhywedd eraill hefyd yn gallu ymfalchïo yn eu hunaniaeth i’r un graddau fel unigolion trawsryweddol, gan fod bod yn drawsryweddol yn beth prydferth.

 

Yn bersonol, credaf mai'r 3 mater pwysicaf sy'n effeithio ar fyfyrwyr trawsryweddol yn benodol yw:

Diffyg cyngor ar drawsnewid. Hoffwn sicrhau bod cyngor a chymorth mwy eglur ar gael, sef sut i gwblhau newid enw cyfreithiol ar y campws a thu hwnt, ble i ddechrau ar y broses o geisio Therapi Adfer Hormonau (HRT) neu lawdriniaeth gadarnhau rhywedd, cymorth i ddod allan, ac ati.

Gall chwilio am gyflogaeth fel unigolyn Traws/Anghydffurfiol o ran rhywedd fod yn anodd, hoffwn gyfathrebu â'r gwasanaeth gyrfaoedd i'w hannog i gynnig trywydd mwy croesawgar i fyfyrwyr traws, hybu gwybodaeth am drawsnewid yn y gweithle, sicrhau bod croeso i bobl draws yn y gweithle, ac ati.

Mae ynysu cymdeithasol yn fater mawr i unigolion trawsryweddol, yn enwedig y rhai sydd newydd symud i ffwrdd o'u rhwydwaith cymorth. Hoffwn gynnig rhwydwaith mwy hygyrch i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd gwybod bod llawer o bobl yn y brifysgol yn union fel nhw.

 

Byddaf yn cynnig llwyfan gadarn i leisiau myfyrwyr trawsryweddol gael eu clywed yn uchel ac yn glir. Mae angen i ni i gyd godi ein gilydd yn yr hinsawdd sydd ohoni.

                   

RON  

 

Swyddog Myfyrwyr Annibynnol 

Kathleen Pritchard
Rwy'n unigolyn hynod angerddol a chwilfrydig, a fydd yn ymladd dros yr hyn rwy'n credu ynddo. Fel myfyriwr annibynnol fy hun, rwy'n deall y brwydrau y mae myfyrwyr yn eu hwynebu wrth fynychu'r brifysgol. Credaf fod myfyrwyr annibynnol o dan lawer mwy o anfantais na myfyrwyr nad ydynt yn fyfyrwyr Annibynnol, ac rwy'n gobeithio pontio'r bwlch hwnnw.

 

- Sicrhau tai gydol y flwyddyn: Rwy'n teimlo bod hwn yn fater arbennig o bwysig yn enwedig o ran tenantiaethau Tai Preifat. Rwy'n credu y dylid hysbysebu’n fwy am Lety'r Haf a chymryd camau rhagarweiniol eraill i gefnogi myfyrwyr i gael hyd i lety drwy gydol y flwyddyn.

Cymorth a chyngor ar y cyfrifoldebau ychwanegol sydd gan fyfyrwyr annibynnol: Mae llawer o fyfyrwyr annibynnol yn teimlo'n ynysig o ran siarad am eu cyfrifoldebau gofalu a materion eraill sydd ganddynt yn eu bywydau personol. Ar gyfer fy ymgyrch fy mwriad yw sefydlu rhyw fath o grŵp lle gall unigolion drafod materion a chael help a chyngor.

- Cymorth Ariannol: Credaf ei bod yn hollbwysig bod mwy o gefnogaeth i’r rhan hon o’r boblogaeth fyfyrwyr. Credaf y dylid hysbysebu’n fwy i dynnu sylw at fwrsariaethau y gall myfyrwyr ymchwilio iddynt a gwybodaeth warantwr ar gyfer myfyrwyr nad oes ganddynt warantwr.

 

Y llynedd, sefais fel swyddog Annibynnol yr Undeb, lle ymchwiliais i lawer o broblemau y mae myfyrwyr Annibynnol yn eu hwynebu, eleni rwy'n gobeithio gwneud yr un peth.

                                                                                                                                          

RON  

 

Cyfadran y Gwyddorau Swyddogion

Jo Buys
Angerddol dros faterion myfyrwyr. Cyfeillgar ac agos-atoch

 

Diffyg ymgysylltu â chynrychiolwyr, gan adael i faterion fynd heb sôn.

Torri cyllideb sy’n golygu tynnu modiwlau a chynlluniau gradd cyfan yn ôl.

Y strwythur 2 asesiad pob modiwl, sy’n rhoi llawer o bwysau ar bob asesiad.

 

                                                                                                                                        

Spencer Tinklin
Dof â sgiliau datrys problemau, gwrando a threfnu da i’r swydd. Byddaf yn sicrhau bod y codir pob pryder/sylwad gyda’r gyfadran berthnasol. Byddaf yn mynychu pob cyfarfod a rhoi crynodeb o’r pethau perthnasol a drafodwyd bob tro. Mae hefyd gennyf i wybodaeth gyffredinol o fioleg, a chemeg, tra bod astudio ffiseg o fudd i fi wrth ddeall pryderon pobl yn well. Byddaf yn cydweithio gyda’r gyfadran i ddod ag addysg o ansawdd uwch i’r cwrs.

 

Adnoddau/cymorth iechyd meddwl - oherwydd y straen mawr y mae graddau gwyddonol yn ei beri, credaf fod myfyrwyr yn fwy tebygol o ddioddef o broblemau iechyd meddwl fel iselder a gorbryder.

Proses newid o’r Brifysgol i’r byd gwaith - gan ein bod yn byw mewn tref fach, mae cyfleoedd i fyfyrwyr gael hyd i swydd berthnasol ar ôl graddio yn brinnach.

Cytbwyso bywyd a gwaith - yn enwedig pan ddaw adeg yr arholiadau, gall fod yn anodd dal y ddysgl yn wastad rhwng bywyd a gwaith sy’n gallu peri problemau iechyd meddwl ee chwythu eich plwc fel y soniwyd uchod.

 

Byddaf yn gwneud yn siŵr y caiff pawb ei glywed gan gyfadran yr adran berthnasol a bod ymdeimlad o berthyn gan bob myfyriwr/wraig ar eu cyrsiau.

 

RON  

 

Cyfadran y Dyniaethau Swyddogion 

Mariam Elsergany
Rwy’n dod â sgiliau arwain, cyfathrebu a hyrwyddo i swydd y Swyddog Cyfadran. A finnau’n Gynrychiolydd Academaidd ers flynedd yn olynol, rwy wedi cynrychioli lleisiau myfyrwyr yn ddi-ffael, gan sicrhau y caiff eu pryderon eu clywed ac y cymerir camau ynglŷn â nhw. Mae fy swydd yn y Senedd yn Undeb Aberystwyth wedi cryfhau fy gallu i ddadlau materion pwysig a chydweithio gyda staff y brifysgol. Yn ogystal â hyn, rwy wedi ennill sgiliau i gefnogi ac ymgysylltu â myfyrwyr yn effeithiol trwy fy mhrofiad fel Mentor Cyfoedion a Llysgennad Myfyriwr. Rwy’n agos-atoch, gweithgar, ac wedi ymrwymo i sicrhau bod llais pob myfyriwr/wraig yn cael ei gynrychioli. Gyda chefndir mewn sawl swydd arwain, gallaf gysylltu yn hyderus ag arweinwyr y gyfadran, cynrychiolwyr academaidd, a’m cyd-fyfyrwyr i fynd i’r afael â phryderon ac ysgogi gwelliannau. Fy nod yw meithrin awyrgylch academaidd cadarnhaol a chynhwysol lle mae myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u grymuso i gyflawni eu potensial llawn.

 

Y tri phrif fater sy’n effeithio ar fyfyrwyr yw pwysau ariannol, heriau iechyd meddwl, a straen academaidd. Mae llawer o fyfyrwyr yn ei chael hi’n anodd gyda’r cynnydd mewn ffioedd dysgu, a chostau byw, gan amlaf yn cadw eu hastudiaethau yn gytbwys â sawl swydd - rwy’ wedi profi’r her hon yn bersonol. Mae anawsterau iechyd meddwl hefyd o bryder mawr, gyda llawer yn wynebu straen, gorbryder, ac unigedd. Mae’r amser aros hir am wasanaethau cymorth y Brifysgol a’r stigma ynghlwm â cheisio cymorth yn gallu gwneud troi at adnoddau iechyd meddwl yn anoddach fyth. Mater arall o bwys yw straen academaidd, gyda baich gwaith trwm, terfynau amser tynn, a phwysau i lwyddo gyda bywydau myfyrwyr yn dioddef yn ganlyniad. Gall dal y ddysgl yn wastad rhwng astudio, gwaith a bywyd personol fod yn ormod, gan arwain at lethu person. Mae mynd i'r afael â'r heriau hyn yn gofyn am well cefnogaeth ariannol, gwell mynediad at adnoddau iechyd meddwl, a pholisïau academaidd sy'n blaenoriaethu lles, hyblygrwydd a llwyddiant myfyrwyr mewn amgylchedd dysgu cefnogol.

 

Byddaf yn ehangu lleisiau myfyrwyr, yn pwyso am well cefnogaeth, ac yn gweithio i greu profiad prifysgol mwy cynhwysol, cefnogol a llwyddiannus i bawb.

                                                                                                                                  

Varsha Raj
Fel myfyriwr y Gyfraith a Throseddeg sy'n cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau academaidd ac allgyrsiol, rwy'n dod â sgiliau cyfathrebu a threfnu cryf i'r swydd hon. Mae fy mhrofiad blaenorol o weithio gydag Undeb y Myfyrwyr wedi rhoi dealltwriaeth gadarn i mi o sut mae'n gweithredu a'r hyn a ddisgwylir gennyf i. Rwy'n agos-atoch ac yn ddibynadwy, yn fodlon bob amser i wrando ar bryderon myfyrwyr a dadlau dros eu hanghenion. Bydd fy ngallu i weithio ar y cyd a datrys problemau yn fy ngalluogi i gynrychioli myfyrwyr y Dyniaethau yn effeithiol a sicrhau newid cadarnhaol. Rwy’ wedi ymrwymo i sicrhau bod pob myfyriwr/wraig yn cael profiad gwerth chweil a boddhaus ym Mhrifysgol Aberystwyth.

 

Y gallu i gael gafael ar gymorth academaidd yw'r prif fater gan nad yw llawer o fyfyrwyr yn ymwybodol o adnoddau fel AberSkills. Nid yw llawer o fyfyrwyr chwaith yn ymwybodol o lyfrgellwyr pwnc, er enghraifft. Mae ansawdd yr adborth a'r addysgu yn fater arall o bwys mawr. Mae myfyrwyr yn teimlo bod addysgu'n amrywio rhwng darlithwyr ac mae marciau yn cael eu rhoi yn anghyson. Mae arholiadau ac aseiniadau yn faes arall sy'n peri pryder gan y gall fod problemau gydag eglurder yn enwedig pan fydd y fformat yn newid ar y funud olaf. Fel Swyddog Cyfadran y Dyniaethau, hoffwn edrych ar y materion hyn gyda staff a myfyrwyr i gyflawni unrhyw newidiadau angenrheidiol.

 

Fel cynrychiolydd academaidd, rwy’ wedi helpu i fynd i'r afael ag adborth myfyrwyr a dadlau dros anghenion. Rwy’ am wneud hyn ar raddfa fwy i wella profiad myfyrwyr.

 

RON  


Crynodeb 60 Eiliad

 

Mae eich Ymgeiswyr yr Etholiadau 2025 wedi rhoi crynodeb o 60 eilaid at ei gilydd i helpu i chi benderfynu dros bwy dych chi am bleidleisio! Eisiau cael cip ar ymgeiswyr yr etholiadau eleni mewn 60 eiliad? Ewch i weld eu crynodeb o 60 eiliad yma.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576