Caiff Swyddogion Gwirfoddol eu hethol bob blwyddyn, ond yn wahanol i'r Swyddogion Llawn-amser, maen nhw'n gweithredu eu dyletswyddau'n gyfochrog â'u hastudiaethau. Mae gan bob Swyddog Gwirfoddol gyfrifoldeb penodol, a gall rhai ohonynt gynrychioli grwpiau penodol o fyfyrwyr. Felly, dim ond myfyrwyr sy'n hunan-ddiffinio i'r grwpiau penodol hynny gaiff sefyll neu bleidleisio ar gyfer y swyddi hyn. Er enghraifft, dim ond rhywun sy'n hunan-ddiffinio fel myfyriwr anabl gaiff sefyll neu bleidleisio ar gyfer rôl Swyddog Myfyrwyr Anabl.
Rolau gwirfoddol yw'r rhain a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cyflawni'r rôl ynghyd â'u hastudiaethau. Darperir hyfforddiant i bob swyddog etholedig, ynghyd â chymorth ac arweiniad i gyflawni'r rôl a throi eu hamcanion yn realiti.
CADEIRYDD YR UNDEB
Mae Cadeirydd yr Undeb yn gyfrifol am gynnal Cyngor yr Undeb. Gan weithio gyda swyddogion eraill, mae'n mynd ati i hyrwyddo cyfarfodydd y Cyngor ac yn sicrhau bod trafodaethau'n deg, yn agored a bod pob penderfyniad a wneir yn dryloyw ac yn ddemocrataidd.
SWYDDOG YR IAITH GYMRAEG
Mae Swyddog yr Iaith Gymraeg yn cynrychioli myfyrwyr Cymraeg eu hiaith ar y campws, gan sicrhau bod yr iaith Gymraeg wrth galon yr Undeb. Gan weithio gyda swyddogion a mudiadau eraill, mae'n ymgyrchu ar faterion sy'n perthyn i'r diwylliant Cymraeg ac yn sicrhau bod barn myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn cael eu hystyried.
SWYDDOG YR AMGYLCHEDD A CHYNALADWYEDD
Mae Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd yn cynrychioli myfyrwyr ac yn ymgyrchu ar faterion sy'n perthyn i'r amgylchedd a datblygiad cynaliadwy. Gan weithio gyda swyddogion, mudiadau a myfyrwyr eraill, mae'n sicrhau bod yr Undeb a'r Brifysgol yn gwella effaith amgylcheddol eu gwaith.
Mae'r Swyddogion hyn y cynrychioli grwpiau penodol o fyfyrwyr. Gan redeg ymgyrchoedd, cynnig cymorth i fyfyrwyr a gweithredu fel ffynhonnell wybodaeth, maen nhw'n gweithio gyda swyddogion eraill i sicrhau bod anghenion grwpiau penodol o fyfyrwyr yn cael eu diwallu. Hyn yn ogystal ag amddiffyn ac ymestyn cydraddoldeb ar gyfer pob myfyriwr sy'n hunan-ddiffinio neu'n uniaethu â'r rôl.
SWYDDOG Y MYFYRWYR LHDTC+
Yn cynrychioli myfyrwyr sy'n diffinio fel lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws, cwîar neu’n cwestiynu.
SWYDDOG Y MENYWOD
Yn cynrychioli myfyrwyr sy'n diffinio fel menywod.
SWYDDOG Y MYFYRWYR ANABL
Yn cynrychioli myfyrwyr ag anableddau.
SWYDDOG Y MYFYRWYR CROENDDU, ASIAIDD A LLEIAFRIFOEDD ETHNIG
Yn cynrychioli myfyrwyr sy'n diffinio fel croenddu, Asiaidd neu’n perthyn i leiafrifoedd ethnig.
SWYDDOG Y MYFYRWYR RHYNGWLADOL
Yn cynrychioli myfyrwyr sy'n tarddu o wlad y tu allan i'r DU.
SWYDDOG MYFYRWYR ANNIBYNNOL
Yn cynrychioli myfyrwyr annibynnol gan gynnwys y rheiny sy'n gadael gofal, myfyrwyr sydd wedi'u dieithrio, ffoaduriaid, gofalwyr ifanc a rhieni mewn addysg.
SWYDDOG Y MYFYRWYR HYN
Yn cynrychioli myfyrwyr sydd wedi cofrestru yn y brifysgol, ond sydd ddim wedi ymadael â’r ysgol yn ddiweddar, fel arfer pobl dros 21 oed.
SWYDDOG Y MYFYRWYR ÔL-RADDEDIG
Yn cynrychioli myfyrwyr ar gyrsiau Ôl-radd.
SWYDDOG MYFYRWYR TRAWS AC O RYWEDD ANGHYDFFURFIOL
Yn cynrychioli myfyrwyr sy’n hunaniaethu fel Trawsryweddol neu o Rywedd Anghydffurfiol.
SWYDDOGION ATHROFA
Cyfadran y Dyniaethau Swyddogion
Cyfadran y Gwyddorau Swyddogion
Swyddogion Athrofa yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer adborth a chreu datrysiadau ar y cyd ar lefel Athrofa. Maen nhw'n gweithio gyda'r Swyddog Materion Academaidd i gynrychioli myfyrwyr i'r Brifysgol drwy eistedd gyda nhw ar wahanol bwyllgorau a mynychu'r Parth Academaidd. Maen nhw'n cyfarfod yn rheolaidd â Chynrychiolwyr Academaidd a staff allweddol o fewn eu Hathrofa er mwyn darparu adborth ac ymateb iddo.