SEFYLL
“Dydw i ddim yn ddigon gwleidyddol.”
Does yno ddim materion arbennig sy'n rhaid i chi fod yn angerddol yn eu cylch i fynd ati i bleidleisio na chael pobl i bleidleisio drosoch chi, ac eithrio bod â diddordeb mewn gwneud pethau'n well i fyfyrwyr yn Aberystwyth. Caiff pobl sydd â phob math o safbwyntiau a phrofiad gwleidyddol eu hethol ym mhob set o etholiadau, felly does mo'r fath beth â'r math cywir o ddiddordeb neu weithgaredd gwleidyddol ar gyfer y rheiny sy'n cael eu henwebu na'r rheiny sy'n pleidleisio drostynt.
“Mae rhywun arall yn fwy tebygol o ennill.”
Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n enwebu eu hunain yn credu hyn, ond rhaid i rywun ennill. Efallai eich bod yn credu bod gan rywun arall fwy o brofiad, mwy o ffrindiau neu fwy o obaith o ennill. Ond gyda miloedd o fyfyrwyr yn pleidleisio, nid oes unrhyw beth yn sicr ynglyn ag etholiadau. Gwelir achosion yn aml lle mae pobl nad oeddent yn meddwl y byddent yn ennill yn cael eu hethol.
“Dydw i ddim y math iawn o berson i gymryd rhan mewn etholiadau.”
Does mo'r fath beth â'r "math cywir o berson" i gynnig eu hunain fel ymgeiswyr na mynd ati i bleidleisio mewn etholiad. Mae pob swyddog yn cyflawni'r rôl fel maen nhw'n ei gweld hi, ac mae Undeb y Myfyrwyr yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth i'w helpu i gyrraedd eu hamcanion. Nid oes angen unrhyw sgiliau na phrofiadau penodol i ennill etholiad nac ar gyfer bod yn swyddog llwyddiannus. Brwdfrydedd ac angerdd yw'r prif ofynion.
“Dwi'n fyfyriwr rhyngwladol, felly dydw i ddim yn gallu ymgeisio oherwydd fisas.”
Gall myfyrwyr rhyngwladol sefyll i fod yn swyddog llawn amser, a gallant wneud cais am estyniad i'w fisa Haen 4. Nid yw'r gofyniad am leoliad gwaith i fod yn ddim mwy na 50 y cant o gyfanswm eich cwrs yn y DU yn cynnwys unrhyw gyfnod pan fyddwch mewn rôl fel swyddog llawn-amser.
- • Os ydych chi'n ymgymryd â'r swydd tra bod gennych chi amser ar ôl yn eich caniatâd i aros fel myfyriwr sy'n oedolyn, rhaid i'ch noddwr Haen 4 (y Brifysgol) roi gwybod i UKBA. Mae hyn oherwydd maen nhw'n gyfrifol amdanoch chi hyd nes bydd eich caniatâd i aros yn y DU yn dod i ben.
- • Os ydych chi am gymryd y swydd ar ddiwedd eich cwrs, a bod eich caniatâd i aros fel myfyriwr ar fin dod i ben, rhaid i chi wneud cais i ymestyn eich arhosiad fel myfyriwr Haen 4.
Mae arweiniad llawn i'w weld ar wefan UKBA:
http://www.ukba.homeoffice.gov.uk/visas-immigration/studying/adult-students/conditions/
“Nid yw'n ddim byd mwy na chystadleuaeth boblogrwydd.”
Does dim byd yn sicr ynglyn ag etholiadau. Nid yw'r ffaith bod rhywun yn adnabod llawer iawn o bobl yn golygu y byddai'r bobl hynny'n pleidleisio drostynt. Cofiwch, mae pob pleidlais yn cyfrif, a thrwy annog y rheiny sydd o'ch amgymlch i dreulio ychydig funudau'n manteisio ar eu hawl i bleidleisio, gallwch ddylanwadu ar sut caiff yr Undeb ei redeg.
“Fydd gen i ddim digon o amser.”
Os ydych chi'n meddwl am enwebu eich hun, mae rolau swyddogion llawn-amser yn swyddi cyflogedig llawn-amser am un flwyddyn, o Orffennaf i Orffennaf. Maen nhw wedi'u cynllunio i fod mor hyblyg â phosib o ran cwblhau eich cwrs neu flwyddyn astudio. Mae Undeb y Myfyrwyr yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth i'ch helpu i gyflawni eich cyfrifoldebau o fewn yr Undeb.
Mae cyfnod yr ymgyrch etholiadol yn para tair wythnos, ond chi gaiff benderfynu faint o amser rydych am ei dreulio'n ymgyrchu, a sut byddwch yn cydbwyso hyn â'ch astudiaethau.
“Does dim pwynt, fyddwch chi byth yn newid unrhyw beth.”
Mae myfyrwyr wedi bod yn allweddol mewn cyflwyno newidiadau mawr yn UM Aber dros y blynyddoedd.
Mae Swyddogion UM Aber wedi bod yn rhan o'r broses o recriwtio Is-ganghellor newydd yn ddiweddar, maent wedi adolygu rheoliadau'r Brifysgol o ran eithrio myfyrwyr rhag treth y cyngor, ac wedi haneru dirwyon am fenthyciadau byr-dymor.
Mae yno hefyd nifer o enghreifftiau o newidiadau llai sy'n gwella pethau i fyfyrwyr, ac mae llawer o'r rhain wedi cael ei harwain gan fyfyrwyr etholedig.
“Dydw i ddim yn sicr os ydy hyn i mi; dwi'n hapus â phethau yn Aber.”
Does dim rhaid i chi fod â rhestr ddi-ddiwedd o newidiadau mawr, weithiau gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr. Beth am ofyn i'ch ffrindiau os oes ganddyn nhw unrhyw syniadau ar gyfer pethau y bydden nhw am weld wedi newid?
Mae bod yn swyddog yn ymwneud i raddau â rhoi adborth ar ran myfyrwyr i'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Gallai hyn gynnwys pethau sy'n gweithio'n dda ac y dylid eu cynyddu, neu syniadau ynglyn â sut i wella pethau.
“Does gen i mo'r profiad cywir i enwebu fy hun.”
Dydych chi ddim angen profiad blaenorol i gynnig eich hun ar gyfer etholiad. Y myfyrwyr gaiff benderfynu pwy sydd â'r syniadau gorau a'r brwdfrydedd angenrheidiol. Mae'n wahanol i fynd am gyfweliad ar gyfer swydd, lle mae rhywun yn bwrw golwg dros eich CV. Mae'n sicr y gall ymgysylltiad blaenorol ag Undeb y Myfyrwyr roi syniad i chi ynglyn â sut mae'r Undeb a'r Brifysgol yn gweithredu, nid yw hyn yn hanfodol mewn unrhyw ffordd.
“Fyddai ddim yn gallu ennill heb dîm ymgyrchu mawr.”
Gall bod â ffrindiau i'ch helpu gyda'ch ymgyrch fod yn ddefnyddiol, boed i'ch annog â geiriau caredig neu dîm o bobl i ddosbarthu taflenni, ond nid yw hyn yn hanfodol bwysig. Mae amryw o bobl wedi ennill etholiadau drwy weithio ar eu pennau eu hunain, yn arbennig gyda chyfathrebu ar-lein yn cael ei ddefnyddio mor eang y dyddiau hyn.
Weithiau, mae ymgeiswyr sy'n sefyll yn yr un set o etholiadau'n mynd ati i helpu ei gilydd, a gall fod yn ffordd wych o ddod i adnabod y bobl eraill a allai fod yn gyd-weithwyr i chi yn y dyfodol, felly peidiwch â phoeni am weithio ar eich pen eich hun.
“Dydw i ddim yn fy mlwyddyn olaf, felly dydw i ddim yn gallu sefyll.”
Pleidleisio
- "Ni fydd fy mhleidlais yn gwneud unrhyw wahaniaeth, felly does dim pwynt pleidleisio."
Yn wir, mae etholiadau bob blwyddyn mewn Undebau Myfyrwyr sy'n cael eu penderfynu gan 1 neu 2 bleidlais! Roedd rhywun yn gyfrifol am y bleidlais dyngedfennol honno a wnaeth yr holl wahaniaeth - hefyd y ffaith bod pob pleidlais yn cyfrif!
"Ni fydd y person rwyf am bleidleisio drosto byth yn cael ei ethol beth bynnag."
Mae gan bob ymgeisydd gyfle o ennill, a phe bai pawb sy'n teimlo fel hyn yn pleidleisio, gallai wneud gwahaniaeth enfawr i'r canlyniadau. Mae ein hetholiadau hefyd yn defnyddio pleidlais drosglwyddadwy, felly os na fydd eich hoff ymgeisydd yn cael ei ethol, bydd eich dewis nesaf o bleidlais yn dal i wneud gwahaniaeth.
"Dydw i ddim yn hoffi unrhyw un o'r ymgeiswyr, felly does dim pwynt pleidleisio."
Gallwch ddewis pleidleisio i ail-agor enwebiadau (AAE/RON) neu gallwch ymatal ar eich tudalen bleidleisio. Os bydd RON yn ennill yr etholiad (ac mae hyn wedi digwydd mewn ychydig o etholiadau mewn UMau ledled y wlad) yna ni fydd yr un o'r ymgeiswyr yn ennill, a bydd enwebiadau'n agor eto er mwyn i bobl newydd sefyll ar gyfer y rôl honno.
"Dydw i ddim yn gwybod digon am yr ymgeiswyr i wneud dewis."
Mae gwybodaeth ynglyn â pham mae pob un o'r ymgeiswyr yn credu y dylech bleidleisio drostynt ar gael ar-lein ac ar y papur pleidleisio ei hun. Mae gan y rhan fwyaf o ymgeiswyr hefyd dudalennau Facebook am eu hymgyrchoedd, neu gallech ofyn i ymgeisydd yn uniongyrchol pam y dylech bleidleisio drostynt. Bydd unrhyw un a etholir hefyd yn atebol i fyfyrwyr.
"Dydw i ddim yn gwybod sut i bleidleisio."
Nid yw cael eich ethol yn swyddog llawn-amser yn Undeb y Myfyrwyr yn golygu eich bod yn peidio bod yn fyfyriwr, felly gall unrhyw un ymgeisio am rôl. Fell, tra bod llawer o fyfyrwyr yn ystyried bod yn swyddog fel y diweddglo perffaith i'w hastudiaethau, mae amryw yn ei weld fel ffordd wych o gael seibiant o'u hastudiaethau gan ennill profiad gwerthfawr cyn iddynt raddio.
Mae'r sgiliau y byddwch yn eu hennill o fod yn swyddog llawn-amser heb eu hail, gan gynnwys arwain tîm, dyfeisio a chynnal strategaeth, a'r profiad o weithio'n glòs ag uwch swyddogion ar faterion sensitif iawn. Os oes diddordeb gennych mewn ymgeisio ar gyfer swydd yn Undeb y Myfyrwyr, peidiwch ag aros tan eich blwyddyn olaf. Ewch ati nawr a rhowch gynnig arni; mae'n bosib y byddwch yn dechrau ar daith na fyddwch byth yn ei anghofio. Os ddim beth am gysidro bod yn Swyddogion Gwirfoddol yn lle?
Gall unrhyw fyfyriwr cofrestredig bleidleisio gan ddefnyddio ApAber ar eu ffôn neu ar eu gliniadur / tabled. Dylech hefyd fod wedi derbyn e-bost yn cynnwys dolen uniongyrchol i'ch papur pleidleisio gan ein Rheolwr Cymorth a Chynrychiolaeth, Martin Dodd.
Mae'r papur pleidleisio ei hun yn cynnwys rhestr o rolau y gallwch bleidleisio drostynt. Ar ôl i chi glicio ar rôl, fe welwch restr o ymgeiswyr ynghyd â lluniau a gwybodaeth etholiadol ar gyfer pob un (mae'r rhain ar hap er tegwch). Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dewis 1 ar gyfer eich hoff opsiwn, 2 ar gyfer eich ail ddewis ac yn y blaen, hyd nes eich bod wedi rhestru pob ymgeisydd neu wedi dewis stopio. Yna cliciwch i bleidleisio - mae'r broses mor syml â hynny.