Bwriad yr Hafan Etholiadau yw rhoi popeth sydd ei angen arnoch chi i sefyll etholiad. Caiff ei diweddaru'n rheolaidd ac yno cewch ddarllen eich proffil, gwneud cwyn a chewch ffeithlenni a thempledi i'ch helpu chi i gynllunio eich ymgyrch a threfnu tîm eich ymgyrch.
Cwynion yn yr Etholiadau
Ffurflen gwyno ynglyn ag etholiadau UMAber
Y pethau sylfaenol…
Bwriad y rhain yw darparu popeth sydd ei angen arnoch i sefyll yr etholiadau, beth bynnag fo'r rôl rydych chi'n gwneud cais amdani. Bydd yr adnoddau hyn ar gael i'r holl ymgeiswyr ac maen nhw'n cynnwys canllawiau i'r broses etholiadol a'r rheolau.
Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr
Rheolau Ymgeiswyr Etholiadau’r Gwanwyn
Cyflwyniad Rhagwybodaeth
Ffurflen Dreuliau Ymgeisydd
Ystadegau Amrywioldeb Ymgeiswyr- Etholiadau Y Gwanwyn 2023
Ystadegau Amrywioldeb Ymgeiswyr- Etholiadau Y Gwanwyn 2024
Canllaw i redeg ymgyrch hygyrch
Templed cynllunio tîm ymgyrchu
E-bost printio poster ymgyrchu
Awgrymu Myfyriwr
Cwestiynau Cyffredin Etholiadau y Mythau Etholiadau
I'r rheiny sydd am gael ychydig mwy……
I'r rheiny sydd am gael ychydig mwy o gymorth wrth gynllunio'u hymgyrch. Ymhlith yr adnoddau hyn mae templedi, canllawiau a gwybodaeth ddefnyddiol i roi cymorth i bob ymgeisydd yn ystod y broses etholiadol.
Canllawiau i Ymgyrchu
Etholiadau’r UM: Sesiynau Gwybdoaeth
Mae'r sesiynau hyn yn cael eu cynnal ar gyfer myfyrwyr sy'n ystyried rhedeg yn Etholiadau UMAber. Nid oes angen i chi fod wedi penderfynu, a thrwy fynychu'r sesiynau hyn, nid oes disgwyl i chi redeg. Bwriad y sesiynau hyn yw rhoi ychydig mwy o wybodaeth am yr hyn y mae'r rolau yn ei gynnwys ac i'ch cefnogi yn eich ymgyrchu etholiadol.
Dyddiadau sesiynau eleni:
Mae’r sesiwn hon yn berffaith i fyfyrwyr sy’n ystyried sefyll yn yr etholiadau ddysgu mwy am Undeb y Myfyrwyr a sut mae’n gweithredu. Cyfle i ddarganfod sut y gallech weithio neu wirfoddoli gyda’r elusen dan arweiniad myfyrwyr hon, ei swyddi arwain, a’r argraff y gallwch ei chael. Croeso i’r holl fyfyrwyr, dim ots a ydych chi’n chwilfrydig yn unig!
Yn ystyried sefyll yn yr etholiadau ac eisiau gwybod gyda phwy y byddech chi’n gweithio? Dewch i nabod y tîm a lle cewch weld sut byddant yn eich cefnogi i ffynnu yn y swydd. Dyma gyfle unigryw, yn annhebyg i unrhyw gyfweliad swydd arferol, lle cewch ddysgu am sut mae Undeb y Myfyrwyr yn gweithredu, cysylltu â’r bobl tu ôl i’r llenni, a ble mae eich lle chi gyda ni. Dyma’r cyfle perffaith i ddeall yn well, gofyn cwestiynau, a’ch paratoi eich hun at brofiad heb ei ail!
Ydy sefyll fel swyddog llawn amser neu ymddiriedolwr myfyriwr yn apelio? Mae’r sesiwn hon yn hollbwysig wrth ddeall swyddogaeth ymddiriedolwyr sut y bydd yn cysylltu â’ch swydd. Croeso i bawb - waeth ydych chi’n sefyll neu’n chwilfrydig yn unig!
Mae’r sesiwn hon i bawb sy’n sefyll yn yr etholiadau. Dysgu am sut i gynllunio ymgyrchoedd gydag effaith, denu sylw pleidleiswyr yn effeithiol, a rheoli eich amser wrth greu strategaeth cryf a hygyrch. Cael cyngor ymarferol, rhwydweithio gyda’ch cyfoedion, a rhoi dechrau ar eich taith i greu newid gwirioneddol.
Dewch i ddarganfod ystadegau amrywiaeth etholiadau’r llynedd a chewch ddysgu am sut i fynd i’r afael â theimlo’n ffug. Mae’r digwyddiad hwn yn annog myfyrwyr o bob cefndir i sefyll a chodi eu lleisiau. Cydiwch yn yr awen ac ewch amdani!
Yn ystyried sut gallai bod yn Swyddog helpu cynlluniau gyrfaol e ich dyfodol?…
Wnaethom ni gyfweld â rhai o’n Swyddogion blaenorol i weld lle maen nhw erbyn hyn! Ewch i ddarllen eu blogiau isod:
Helen Cooper: Ble maen nhw nawr?
Cameron James Curry: Ble maen nhw nawr?
Mared Edwards: Ble maen nhw nawr?
Nate Pidcock: Ble maen nhw nawr?
Gemma Tumelty Ble maen nhw nawr? Gemma Tumelty (umaber.co.uk)
Dave Stacey Ble maen nhw nawr? Dave Stacey (umaber.co.uk)
Josephine Southwell-Sander Ble maen nhw nawr? Josephine Southwell-Sander (umaber.co.uk)
Caroline Dangerfield Ble maen nhw nawr? Caroline Dangerfield (umaber.co.uk)
Jasmine Cross Ble maen nhw nawr? Jasmine Cross (umaber.co.uk)
Adnoddau Staff...…
Canllawiau Etholiad Undeb y Myfyrwyr ar gyfer Staff - Etholiadau'r Gwanwyn 2024