Cwestiynau Cyffredin Etholiadau

 

SEFYLL

PAM DDYLWN I SEFYLL?

 

Mae bod yn Gynrychiolydd Academaidd yn rôl syml ond yn un bwysig. Mae rhesymau diddiwedd pam y dylech sefyll, ond dyma ein 5 prif reswm. • Mae'n gyfle i siarad ar ran myfyrwyr am eich profiad prifysgol • Gallwch greu newid a gwella'ch addysg • Cewch ddod i adnabod y staff a’r myfyrwyr yn eich adran • Byddwch yn fwy cyflogadwy drwy ymgymryd â rôl y tu allan i'ch astudiaethau • Dim ond 1-2 awr yr wythnos sydd eu hangen Swyddogion Gwirfoddoli Mae cymaint o resymau dros sefyll i fod yn Swyddog Gwirfoddol neu Cynrychiolydd Cyfadran, pe baem ni'n eu rhestru nhw i gyd, byddech chi yma yn amser MAITH. I grynhoi, mae’n gyfle gwych sy’n caniatáu i chi greu newid i fyfyrwyr ar y campws drwy weithio ar rywbeth rydych chi'n teimlo’n angerddol yn ei gylch, ac yn achos cynrychiolwyr sy’n mynychu cynadleddau, cewch siarad ar ran myfyrwyr Aberystwyth! Byddwch yn dod yn rhan agosach o deulu Aber wrth ddatblygu sgiliau a mwynhau profiadau newydd y gallwch chi eu defnyddio yn y dyfodol.

 

PWY ALL SEFYLL?

 

Cyhyd â’ch bod yn fyfyriwr/wraig Prifysgol Aberystwyth ac yn aelod Undeb Myfyrwyr Aberystwyth (dych chi’n dod yn aelod yn awtomataidd) mi allwch chi sefyll i fod yn Swyddog Llawn Amser. Fodd bynnag, cofiwch mai rôl llawn amser ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/2025 yw hon. Os ydych chi’n eich blwyddyn gyntaf neu’n eich ail flwyddyn o astudio, mae modd i chi gael blwyddyn i ffwrdd i gymryd y rôl – os na fydd hyn o ddiddordeb i chi, beth am i chi ystyried un o’n rolau Swyddog Gwirfoddol? Os ydych chi’n eich blwyddyn olaf, dod yn Swyddog Llawn Amser allai fod eich swydd ddelfrydol gyntaf ar ôl graddio.

 

 

 

Cewch sefyll drwy gwblhau ein ffurflen ar-lein cyn 12m dydd Llun 24eg Chwefror 2024.

Dim ond ychydig funudau y mae’n gymryd i sefyll, sy'n cynnwys uwchlwytho llun a chyflwyno cyhoeddusrwydd. Byddwch yn gallu mewngofnodi i hyb yr ymgeiswyr tan 9am dydd Llun 20fed Chwefror 2024 i ychwanegu at, neu i ddiweddaru'r wybodaeth hon.

 

Beth yw ‘Enwebu Myfyriwr/wraig’?

 

Mae enwebu myfyriwr/wraig yn annog i chi enwebu ffrind, cyfoed, neu rywun fydd, yn eich barn, yn wych ar rôl Swyddog Llawn Amser neu Wirfoddol.Cwbl sydd angen ei wneud yw cyflwyno gwybodaeth sylfaenol a bydd Undeb y Myfyrwyr yn cysylltu â nhw a rhoi gwybod y rhoddwyd eu henw ymlaen a sut y gallant sefyll.Mae modd i chi wneud hyn yn ddienw os bydd yn well gennych!

 

Sut mae sefyll i rannu rôl?

 

I sefyll fel pâr, dim ond un ohonoch chi sydd angen llenwi’r ffurflen sefyll. Unwaith i chi roi eich manylion personol i mewn, gallwch chi ddewis bocs ar y ffurflen i sefyll fel pâr.Bydd y ffurflen sefyll wedyn yn ehangu, a gallwch ei llenwi gyda manylion ar ran y llall. Cwblhewch un ffurflen yn unig i bob pâr.I gal rhagor o wybodaeth ynghylch sefyll gyda ffrind, gweler ein blog yma.

 

Pryd gallaf i ddechrau ymgyrchu yn Etholiadau’r UM

 

Gellir dechrau ymgyrchu ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Fodd bynnag, ni fyddwn yn rhyddhau’r enwau tan ddiwedd y cyfnod sefyll. Er y gallwch ddechrau ymgyrchu ar unrhyw adeg, gwnewch yn siwr nad ydych chi’n ei gor-neud hi yn rhy gynnar. Hefyd, byddwch yn siwr o gymryd golwg dros reolau’r etholiadau cyn dechrau ymgyrchu. Bydd popeth sydd ei angen arnoch chi yn cael ei drafod yn y sesiwn Briffio Ymgeiswyr ar ddechrau’r cyfnod sefyll, ond os byddwch yn torri rheol cyn hynny, ystyrir hyn yn torri’r rheolau a allai arwain at eich gwneud yn anghymwys.

 

PRYD MAE'R CYFNOD SEFYLL YN DOD I BEN?

 

Mae gennych chi pedair wythnos i sefyll ar gyfer swydd! Mae'r cyfnod sefyll yn dod i ben 12pm, dydd Llun 24eg Chwefror 2025

 

DWI DDIM YN GWYBOD A YDW I AM SEFYLL NEU BEIDIO, BETH DDYLWN I EI WNEUD?

 

Cewch alw heibio Undeb y Myfyrwyr am sgwrs gydag un o'n haelodau staff a fydd yn rhoi cymorth a chyngor i chi. Gofynnwch yn y dderbynfa i gael siarad â rhywun am yr etholiadau.

Siaradwch â ffrindiau, tiwtoriaid ac aelodau o'r teulu i gael rhywfaint o arweiniad.

 

PA RÔL DYLWN I SEFYLL AMDANI?

 

Cynrychiolydd Academaidd: Efallai y byddwch chi’n gymwys i sefyll ar gyfer mwy nag un rôl, ond cofiwch mai dim ond un rôl Cynrychiolydd Academaidd y gallwch chi sefyll ar ei chyfer. Os oes nifer o opsiynau wedi'u harddangos, dewiswch y rôl sydd o’r diddordeb mwyaf i chi, neu siaradwch â staff yn eich adran i weld pa un sydd fwyaf addas i chi. Swyddogion Gwirfoddoli: Chi gaiff benderfynu, a bydd hyn yn dibynnu ar eich profiadau, eich diddordebau a'ch sgiliau. Cofiwch y byddwch yn y rôl hyd Fehefin 2025, felly mae’n bwysig ystyried yr hyn y byddwch chi'n ei fwynhau, a’r hyn rydych chi'n teimlo y gallwch chi ei gyfrannu ato neu ei wella ar ran myfyrwyr.

 

Take a look at our Full-time Roles and Volunteer Roles for more detail.

 

 

RWY’N FYFYRIWR RHYNGWLADOL; YDW I’N GALLU SEFYLL?

 

Ydych, rydych chi’n gallu. Ond cofiwch y gall Myfyrwyr Rhyngwladol ar Myfyrwyr Fisa wirfoddoli a / neu weithio uchafswm o 20 awr yr wythnos yn ystod y tymor.

 

DWI DDIM YN MEDDU AR Y SGILIAU ANGENRHEIDIOL. A FYDD HYFFORDDIANT AR GAEL?

 

Bydd! Mae'r holl ymgeiswyr llwyddianus yn derbyn hyfforddiant a ddarperir gan Undeb y Myfyrwyr yn y Flwyddyn Academaidd newydd cyn ymgymryd â'r rôl. Nid oes angen i chi fod yn meddu ar unrhyw wybodaeth, sgiliau na phrofiad penodol. I fod yn llwyddiannus mae angen i chi fod yn drefnus, yn ymroddedig, yn hapus i siarad â staff a myfyrwyr ynglyn ag ystod o faterion, ac wrth gwrs, mae angen i chi fod yn frwdfrydig am y rôl!

 

PWY ALLAF I GYSYLLTU Â NHW OS OES GEN I GWESTIWN NEU BROBLEM?

 

Galwch heibio Undeb y Myfyrwyr i siarad ag aelod o'r tîm etholiadau neu e-bostiwch nhw ar undeb.etholiadau@aber.ac.uk.

 

ERBYN PRYD SYDD RHAID I MI GYFLWYNO CYHOEDDUSRWYDD?

 

Dylech gyflwyno'ch cyhoeddusrwydd a'ch llun erbyn y diwrnod olaf ar gyfer sefyll; 12pm, dydd Iau 25ain Chwefror. Nid yw'n orfodol creu tudalen gyhoeddusrwydd, ond mae'n fanteisiol i chi greu rhywbeth sy'n dweud wrth fyfyrwyr yr hyn yr hoffech chi ei gyflawni a pham y dylent bleidleisio drosoch chi.

 

PRYD DAW ENWAU'R MYFYRWYR SY'N SEFYLL YN GYHOEDDUS?

 

Yn yr wythnos cyn y cyfnod pleidleisio, byddwn yn rhyddhau erthygl ar ein gwefan.

 

 

Pleidleisio

 

BETH YW’R DYDDIADAU AR GYFER Y BLEIDLAIS?

 

Bydd y bleidlais yn dechrau am 10am 17/03/25 - 12pm 21/03/25. Bydd y bleidlais drwy ApAber neu drwy ddolen pleidleisio unigryw a anfonir drwy e-bost.

 

PWY ALL BLEIDLEISIO?

 

Unrhyw fyfyriwr llawn-amser ar gwrs lle mae ymgeisydd yn sefyll.

 

BETH SY'N DIGWYDD YN YSTOD Y CYFNOD PLEIDLEISIO?

 

Dyma pan fydd yr holl fyfyrwyr sy'n sefyll yn cystadlu am y rolau maen nhw'n sefyll amdanynt. Yn ystod yr wythnos hon o bleidleisio, bydd y rheiny sy'n sefyll yn siarad â myfyrwyr ac yn ennyn eu diddordeb mewn sawl ffordd er mwyn annog pobl i bleidleisio drostynt. Bydd myfyrwyr yn pleidleisio ar-lein drwy ApAber a chaiff mwy o wybodaeth ei rhyddhau yn nes at yr amser.

Am 6pm ddydd 21/03/2024, bydd y canlyniadau'n cael eu rhyddhau ar wefan UMAber.

 

Pa ddyddiadau y cynhelir y bleidlais?

 

Mae’r pleidleisio yn agor 10am, ddydd Llun 17eg Mawrth ac yn cau 12pm, ddydd Gwener 21fed Mawrth. Caiff dolen bleidleisio unigryw ei hanfon atoch drwy e-bost.

 

Pwy sy’n cael pleidleisio?

 

Unrhyw fyfyriwr/wraig ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd hefyd yn Aelod UMAber sy’n cael bwrw pleidlais (dych chi’n dod yn aelod yn awtomataidd).

 

Beth ddigwyddith yn ystod y cyfnod pleidleisio?

 

Dyma lle mae'r holl fyfyrwyr sy'n sefyll yn cystadlu am y swyddi y maent yn sefyll drostynt. Mae'r wythnos hon o bleidleisio yn gweld y rhai sy'n sefyll yn siarad ac yn mynd at fyfyrwyr mewn amrywiaeth o ffyrdd i gael pobl i bleidleisio drostynt.Gall myfyrwyr bleidleisio ar-lein trwy https://www.umaber.co.uk/newidaber/etholiadau/

 

Beth fydd yn digwydd gyda’r canlyniadau?

 

Am 7pm ddydd Gwener 21fed Mawrth, cynhelir noson ganlyniadau yn Undeb y Myfyrwyr lle caiff yr enillwyr eu cyhoeddi, a dathlir cyfraniad pawb.

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576