Eich Syniadau

Cyflwynwch syniad nawr

Oes gennych chi Syniad o rywbeth yr hoffech ei newid yn yr Undeb?

Mae UMAber yn cael ei arwain yn llwyr gan fyfyrwyr – o’r swyddogion sy'n cael eu hethol i ffurfio ein gwaith, at yr adborth a'r syniadau gan fyfyrwyr sy'n tyfu i ffurfio ein polisïau, ein hymgyrchoedd a'n hymrwymiadau craidd.

Mae’n hawdd dweud wrthym ni am eich syniadau! Cewch ddefnyddio'r ffurflen ar waelod y dudalen hon i ddweud ychydig mwy amdanyn nhw.

 

Ond beth yw 'Syniad'?

 

Syniad yw'r hyn rydyn ni’n ei alw'n gyflwyniad gan unrhyw fyfyriwr sy'n gofyn i UMAber wneud y canlynol:

  • Dechrau gweithgaredd newydd
  • Rhoi’r gorau i weithgaredd neu ei newid
  • Mabwysiadu neu newid safbwynt
  • Diweddaru neu newid polisi cyfredol

…a llawer mwy! Gallai unrhyw beth fod yn syniad, cyhyd â'i fod yn effeithio ar fyfyrwyr Aberystwyth.

Mae'r hyn sy'n digwydd nesaf yn dibynnu ar eich syniad. Unwaith i’r syniadau gael eu cyflwyno, byddan nhw’n dilyn un o'r llwybrau canlynol:

  • Oes ateb cyflym?
  • Parthau
  • Y Senedd

 

Oes ateb cyflym?

 

Weithiau cawn syniad sydd ag ateb hawdd a dim gwrthwynebiad.

Er enghraifft:

  • Syniadau heb unrhyw oblygiadau gwleidyddol nac ariannol mawr.
  • Ceisiadau i newid y ffordd rydyn ni’n cyflwyno gwybodaeth benodol, neu i sicrhau bod mwy o wybodaeth ar gael e.e. adnoddau ar ein gwefan
  • Cais syml i wneud newid bach yn yr adeilad e.e. arwyddion
  • Cais sydd ddim yn ymwneud yn uniongyrchol ag UMAber, ond gallwn ni godi'r mater mewn pwyllgorau perthnasol gyda'r Brifysgol e.e. newidiadau mewn gwasanaethau masnachol

Wrth gwrs, fydd dim modd datrys pob syniad yn gyflym, a byddwn ni bob amser yn gweithio gyda'r sawl sy’n cyflwyno syniad i sicrhau eu bod nhw’n hapus â'r canlyniadau.

Os oes ateb cyflym i’ch syniad, byddwn ni’n cysylltu â chi i roi gwybod i chi am yr hyn gallwn ni ei wneud!

 

Parthau

 

Os oes gennych chi syniad ond rydych chi am gael mwy o adborth, profiadau personol neu wybodaeth, mae’n bosib y bydd hi’n werth ei drafod mewn Parth. Bydd amrywiaeth o bobl yn mynychu'r Parthau, sy'n cynnwys Academaidd, Lles, Diwylliant Cymreig a Chwaraeon a Chymdeithasau. Bydd modd iddyn nhw wneud y canlynol:

  • Rhoi adborth ar y syniad gan amrywiaeth o grwpiau myfyrwyr
  • Awgrymu geiriad a gwelliannau ar gyfer syniadau
  • Helpu i ddarparu ffeithiau a phrofiadau personol sy'n berthnasol i'r syniad
  • Darganfod sut byddai canlyniadau'r syniad yn cael effaith gadarnhaol

Os caiff eich Syniad ei gyflwyno i Barth, cewch wahoddiad i'w gyflwyno fel testun trafod yn y cyfarfod canlynol. Mae’r Parthau bob tro’n cael eu trefnu cyn y dyddiad cau ar gyfer syniadau i’r Cyngor canlynol.

 

Y Senedd

 

Y Senedd yw’r corff gwneud penderfyniadau uchaf yn UMAber ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr etholedig sy’n adolygu ac yn trafod Syniadau. Mae ganddynt y pwer i bleidleisio’r Syniadau hyn mewn Polisïau sydd yn parhau 3 blynedd. Yn ogystal, unwaith y flwyddyn rydym yn cynnal Y Cyfarfod Mawr (Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol), sydd yn agor y cyfle hwn i bob myfyriwr ac mae gan Y Cyfarfod Mawr yr un pwerau â’r Senedd.

Y Senedd yw corff yr etholedig sy'n adolygu ac yn trafod syniadau, ac mae ganddo rym i bleidleisio i’w troi’n bolisïau fydd yn para 3 blynedd. Unwaith y flwyddyn, rydyn ni’n cynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, sy'n agor y cyfle hwn i bob myfyriwr. Mae ganddo’r un grymoedd â'r Senedd.

Bydd y syniadau a gymeradwywyd yn cael eu cyhoeddi cyn y cyfarfod a gall unrhyw fyfyriwr gyflwyno gwelliant. Yn y cyfarfod, bydd syniadau a gwelliannau’n cael eu trafod cyn i aelodau'r Senedd bleidleisio i’w pasio neu beidio.

Os caiff eich syniad ei gymeradwyo i'r Senedd, cewch wahoddiad i'w gyflwyno yn y cyfarfod nesaf gan ddilyn y drefn drafod hon:

  • Hyd at 3 munud gan y cyflwynydd (chi) gyda chwestiynau i ddilyn.
  • Bydd cyfnod o drafod yn cael ei neilltuo er mwyn caniatáu’r aelodau mewn grwpiau i rannu eu barn
  • Dadl agored lle bydd y cadeirydd yn dewis siaradwyr ac yn cadw cydbwysedd.
  • Araith fydd yn crynhoi'r syniad.
  • Ar ôl araith grynhoi'r syniad, bydd pleidlais ar y syniad hwnnw’n cael ei chynnal ar unwaith. Hefyd, bydd yr aelodau’n gallu dewis cychwyn 'Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr'.

I gael rhagor o wybodaeth ar y broses hon, gweler ein cyfansoddiad yma.

Bydd pob syniad sy’n cael ei basio a’i droi’n bolisi gan y Senedd yn cael ei gyflwyno i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Byddan nhw’n sicrhau eu bod nhw’n cydymffurfio â'r gyfraith a'n hamcanion elusennol.

 

Polisïau

 

Darllenwch fwy am ein polisïau a basiwyd gan y Senedd yma.

Unwaith y daw eich syniad yn bolisi, bydd yr Undeb yn dechrau gweithio i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl. Lle bo’n bosib, rydyn ni’n annog y cyflwynydd gwreiddiol i arwain y gwaith gyda chymorth y swyddogion a’r staff.

 

Sut beth yw pleidlais holl fyfyrwyr?

 

Defnyddir pleidlais holl fyfyrwyr pan fydd penderfyniad o bwys mawr neu yn rhy ddadleuol i’r Senedd, y Tîm Swyddogion neu Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ei wneud ar eu pennau eu hunain.

Gellir galw am bleidlais holl fyfyrwyr trwy:

  • Cynigiad a basiwyd gan fwyafrif o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.
  • Pleidlais gan fwyafrif mewn Senedd, Cyf Cyff, neu Gyfarfod Cyffredinol Arbennig.
  • Deiseb a lofnodwyd gan 250 aelod cyffredinol (yn cynnwys y rhif myfyriwr)  a’i gyflwyno i Gadeirydd Cyfansoddiad yr Ymddiriedolwyr.

Mae’n rhaid cael o leiaf 500 o bleidleisiau i’r cynigiad gael ei basio a bod yn gworwm.

Gall y pleidleisiau hynny weithio fel galwad am Bleidlais o Ddiffyg Hyder mewn Swyddog Llawn Amser, Gwirfoddol, ac ymddiriedolwr myfyriwr/allanol.

I gael gwybodaeth bellach am bleidlais holl fyfyrwyr, e-bostiwch llaisum@aber.ac.uk

 

Rhannu syniadau

Mae amrywiaeth o syniadau’n cael eu cyflwyno! Os oes gennych chi syniad i’w ‘ddatrys yn gyflym’, mae’n bosib y bydd angen i chi roi gwybod i ni mewn dwy frawddeg yn unig, tra bod rhai syniadau sy’n dod yn bolisïau yn gallu bod yn gwpl o dudalennau o hyd!

Dilynwch yr arweiniad isod wrth lenwi'r ffurflen, yn enwedig wrth geisio cyflwyno'r syniad fel polisi posib. Cofiwch fod gennym ni staff gerllaw i'ch helpu chi i ysgrifennu syniad neu i weithio gyda chi er mwyn sicrhau canlyniad llwyddiannus unwaith iddo gael ei gyflwyno.

Os hoffech chi drafod eich syniad cyn ei gyflwyno, cysylltwch â ni.

 

Sut i ysgrifennu Syniad

 

Teitl - teitl bachog sy’n disgrifio’r syniad yn glir.

Syml Cofiadwy Bachog Byr Poblogaidd Clyfar Clir Perthnasol

Manylion llawn - mae hyn yn disgrifio diben y syniad a'r hyn y byddai'n ei gyflawni. Dylai'r manylion gynnwys gwybodaeth o'r ddau grwp hyn:

Beth yw'r sefyllfa bresennol?

  • Beth yw'r ffeithiau?
  • Oes unrhyw ymchwil neu ystadegau i gefnogi’ch syniad?
  • Sut mae'n effeithio ar fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth?

Beth yw'r datrysiadau?

  • Beth all UMAber wneud o ganlyniad?
  • A fydd yn effeithio ar unrhyw bolisi presennol neu a fydd angen diweddaru polisi presennol?
  • Beth yw'r deilliannau dymunol?

Crynodeb - crynhowch eich syniad mewn un frawddeg syml sy'n esbonio'r hyn bydd eich syniad yn ei gyflawni.

Pa swyddog ddylai fod yn gyfrifol - cewch chi ddewis y swyddog mwyaf priodol i fod yn gyfrifol am eich syniad a bydd yn ffurfio rhan o waith y rôl am hyd at 3 blynedd os caiff ei basio.

Cofiwch mai’r peth pwysicaf yw ein bod ni’n clywed am yr hyn sydd o bwys i chi! Peidiwch â gadael i’r ffurflen eich digalonni – mae’n bosibl i ni drefnu cyfarfod i sgwrsio am eich cyflwyniad yn fanylach i wneud yn siwr ei fod yn addas i’r Senedd.

 


Ffurflen Rhannu Syniad

Cyflwynwch nawr: E-bostiwch llaisum@aber.ac.uk trwy ddefnyddio Pwnc: Syniad/Diwygiad Polisi

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576