Mae’r dudalen hon yn dangos yr holl fentrau cynaliadwy y mae UMAber yn rhan ohonynt ac yn ymgyrchu drostynt. Mae modd i chi weld lle rydyn ni arni gyda gwobr Cynllun yr Effaith Werdd.
Beth yw’r Effaith Werdd?
Daw Prosiect yr Effaith Werdd o dan y SOS (Students Organising for Sustainability) ac mae'n rhestr wirio i Brifysgolion ac Undebau ei gwneud i fod mor ecogyfeillgar â phosib. Y categorïau ar gyfer hyn yw, Gwybodaeth a Dealltwriaeth, Arweinyddiaeth a Strategaeth, Partneriaeth a Pholisi, Gweithrediadau UM, Ymgyrchu a Dylanwadu, Allgymorth a chydweithio, Meini prawf a chanlyniadau hunan-ddiffiniedig. Yna gallwn ni fel Undeb Myfyrwyr Aberystwyth gael sgôr efydd, arian, neu aur yn dibynnu ar faint y gallwn ei wneud. Rydyn ni eisoes wedi gwneud rhai newidiadau gwych a bod gennym ni fwy o bethau anhygoel ar y gweill.
Pam ein bod ni’n cynnal yr wythnos hon?
"Yn sgil canlyniadau rhagorol yr Effaith Werdd, gan ddefnyddio’r holl welliannau a wnaed gan Undeb y Myfyrwyr fel sylfaen, dwi am symud ymlaen i sicrhau ein bod ni’n cael yr un canlyniadau â’r llynedd. Prif nod yr Effaith Werdd yw datblygu cyfleoedd yr Undeb i fod yn fwy cynaliadwy. Mae’r Effaith Werdd yn rhoi arweiniad i roi’r Undeb ar ben ffordd i wneud newidiadau cynaliadwy. Y llynedd, yr Effaith Werdd a fu y tu ôl i’r cynlluniau a’r digwyddiadau a fu o les i fyfyrwyr ac rydyn ni am barhau â’r rhain eleni. Nid yw’r Effaith Werdd yn canolbwyntio ar gynaladwyedd gymdeithasol yn unig, mae hefyd yn rhoi pwyslais ar ffyrdd i’r Undeb dyfu a chynnig help i fyfyrwyr ynglyn â phynciau fel ymwybyddiaeth o sylweddau."
|
|
|
Gweler ein Ymgyrch 2023-2024, “Dyna Rwtsh o Ymgyrch”
Beth yw’r Wythnos Werdd?
Pwrpas yr Wythnos Werdd yw annog grwpiau i gymryd rhan mewn arferion cynaliadwy mewn ffyrdd y tu allan o’r arfer iddynt. Mae hyn yn dilyn yr Amcanion Datblygiad Cynaliadwy y CU (SDGs) fel ffordd o amlygu yr ystod eang o feysydd pwysig o fewn cynaliadwyedd. Mae’r SDGs yn cynnig seiliau mewn cyffredin am heddwch a ffyniant i bawb a’r blaned, nawr ac yn y dyfodol.
Cofrestrwch yma: TAITH DY GLOŸNNOD BYW MAGIC OF LIFE
Cofrestrwch yma: CYNALADWYEDD MEWN ACADEMIA: GRWP FFOCWS
Cofrestrwch yma: Her Cynaliadwyedd a Eich Gyrfa Werdd
Cofrestrwch yma: Boat Club
Pam fod yr Amcanion Datblygiad Cynaliadwy yn bwysig?
“wrth wraidd hyn i gyd mae’r 17 SDG, sy’n alwad ar bob gwlad -datblygedig neu wrthi’n datblygu- i weithredu ar frys mewn partneriaeth fyd eang. Maent yn cydnabod bod rhoi pen ar dlodi a diffygion eraill yn rhan annatod o strategaethau sy’n gwella iechyd ac addysg, lleihau anghydraddoldeb, ac ysgogi twf economaidd – gan fynd i’r afael â’r argyfwng amgylcheddol a chydweithio i gadw ein moroedd a’n coedwigoedd.” – y Cenhedloedd Unedig (cyswllt)
Beth mae'r Undeb yn ei wneud a sut gallwch chi gymryd rhan?
Mae'r Undeb wedi bod yn gweithio drwy'r rhestr wirio Effaith Werdd i wneud yn siwr bod ein Hundeb, Prifysgol a chymuned mor wyrdd ac amgylcheddol gyfeillgar/cynaliadwy â phosibl. Gall unrhyw un gymryd rhan yn yr Effaith Werdd, gan ddod â’u harbenigedd ar gynaliadwyedd, angerdd dros ymgyrchu neu wirfoddoli ar gyfer cwrs gwych. Ewch i fwrw golwg dros rhestr wirio yr Effaith Werdd i weld beth mae'r Undeb yn gweithio arno a sut rydych chi'n cymryd rhan. Am ragor o wybodaeth neu os ydych am gymryd rhan, anfonwch e-bost at Lywydd UMAber yn prdstaff@aber.ac.uk
Trac Effaith Werdd
Cymerwch olwg ar ein Cynllun Gweithredu at 2023-2024 (Mae’r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.)
Cymerwch Ran
Beth am i chi ymuno ag un o’n grwpiau myfyrwyr sy’n gweithredu dros yr amgylchedd?
Eisiau cychwyn Ymgyrch ecogyfeillgar neu eisiau cynnal digwyddiad? Edrychwch ar ein hyb Ymgyrch gyda'r holl wybodaeth y mae angen i chi ei gwybod: www.umaber.co.uk/newidaber/ymgyrchoedd/hwbymgyrchoedd/ neu ellir e-bostio ein Llywydd drwy prdstaff@aber.ac.uk
Beth yw rhai pynciau i danio syniadau ar gyfer ymgyrch y gallech ei chynnal? Mae cymaint o bethau y gallwch chi ymchwilio iddynt, dim ond cwpl o syniadau yw'r rhain.
|
Ffasiwn Cyflym
Gwastraff Bwyd
Y Cefnfor
Plastig
Chwilota
Cadwraeth
Garddio
Bancio/ariannu moesegol
Gyrfaoedd Gwyrdd
|
|
Sut mae cymryd rhan?
Os hoffech chi wirfoddoli gydag unrhyw un o’r mentrau hyn, gellir naill ai e-bostio suvolunteering@aber.ac.uk neu fynd i’n Hyb Gwirfoddoli ar wefan yr UM (o dan Tîm Aber).
Dewch i weld ein hymchwil
hwyluso gwaith yr Effaith Werdd eleni, aeth Ash ati i wneud arolwg a holi myfyrwyr ynglyn â’u barn a’u teimladau tuag at gynaliadwyedd amgylcheddol yn y Brifysgol a’r Undeb.
Gellir gweld eu hadolygiad yma:
Os ydych chi am wybod beth sydd gan y Brifysgol a’r Undeb i’w ddweud ynghylch cynaladwyedd, ewch i gael cipolwg ar y dogfennau hyn.
Dogfennau allweddol y Brifysgol
Di-Blastig:
Polisïau, Strategaethau, a Phrosesau Amgylcheddol:
Datganiad Polisi Amgylcheddol:
Polisi Masnach Deg:
Addysg dros Ddatblygu’n Gynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang (ESDGC):
Rheolai Gwastraff ac Ailgylchu:
Gollyngiadau i’r Atmosffer a’r Dwr:
Rheoli Ynni a Dwr:
Trafnidiaeth a Theithio:
Caffael Cynaliadwy:
Defnydd yr Amgylchedd a Thir lleol (Ecoleg a Bioamrywiaeth):
Gwastraff Offer Trydanol ac Electronig (WEEE):
Cynaladwyedd ym Mhrifysgol Aberystwyth:
Cynllun Strategol:
Dogfennau allweddol Undeb
Y llynedd (2022-2023)
Y llynedd (2022-2023), fe ddyfarnwyd y Wobr Rhagoriaeth yn yr Effaith Werdd i ni – y wobr orau posib y gellir ei chael!
Os hoffech chi ddarllen mwy am ein digwyddiadau o’r llynedd, ewch gymryd golwg dros yr erthyglau hyn.
Beth wnaethom ni y llynedd (2022-2023)
- Cefnogi gyda chostau byw a bod yn ecogyfeillgar.
- Dyna Ymgyrch Sbwriel.
- Yr Wythnos Werdd
- Diwrnod eco gyda Crefftau Aber.
|
|
YR WYTHNOS WERDD
Beth sy’n digwydd yr wythnos hon?