Swyddogion Cyfadran

Beth yw Swyddogion Cyfadrannau?

Swddogion Cyfadrannau yw myfyrwyr sydd wedi cael eu hethol gan eu cyd-fyfyrwyr o fewn eu cyfadrannau i ddarparu adborth ar farn y rheiny maen nhw'n eu cynrychioli i'w gyfadran, y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr.

Maen nhw'n gweithio gyda'r Swyddog Materion Academaidd i gynrychioli myfyrwyr drwy eistedd gyda nhw ar wahanol bwyllgorau a mynychu'r Fforwm Academaidd. Maen nhw'n cwrdd yn rheolaidd â Chynrychiolwyr Academaidd a rheolaeth ei gyfadran er mwyn cyflwyno adborth gan fyfyrwyr ac ymateb iddo.

Sut beth yw cyfadrannau a pha un yw eich cyfadran chi?

 

Mae holl adrannau academaidd y Brifysgol yn dod o dan un o dair chyfadran...

Cyfadran y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol

  • Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
  • Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
  • Adran Hanes a Hanes Cymru
  • Adran Ieithoedd Modern
  • Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
  • Adran Y Gyfraith a Throseddeg
  • Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
  • Ysgol Addysg
  • Ysgol Gelf

Cyfadran Busnes a’r Gwyddorau Ffisegol

  • Adran Astudiaethau Gwybodaeth
  • Adran Cyfrifiadureg
  • Adran Ffiseg
  • Adran Mathemateg
  • Ysgol Fusnes Aberystwyth

Cyfadran Gwyddorau Daear a Bywyd

  • Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
  • Adran Seicoleg
  • IBERS

 


Pwy yw eich Swyddogion Cyfadran?

 

CYFADRAN CELFYDDYDAU A GWYDDORAU CYMDEITHASOL (IS) - GWAG   GYFADRAN BUSNES A'R GWYDDORAU FFISEGOL (IS) - ZOE HAYNE (hi/ei)  
umccgc@aber.ac.uk   umcbgff@aber.ac.uk   umcgdb@aber.ac.uk

 

Os bydd rôl IR neu ÔR yn wag a hoffech chi roi adborth, e-bostiwch eich...

  Cydlynydd Cynrychiolaeth Academaidd 
llaisum@aber.ac.uk

 


Am y Rôl...

Pam dylwn i fod yn Swyddogion Cyfadran?

 

Credwn fod llais myfyrwyr yn bwysig, ac rydyn ni'n gweithio i sicrhau bod barn, anghenion a phryderon myfyrwyr yn llywio eich Adran, y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr.  Drwy fod yn Swyddogion Cyfadran, byddwch wedi cael eich ethol gan gyd-fyfyrwyr, ac felly pwy well i gynrychioli eu barn?

Byddwch yn datblygu'r sgiliau sydd gennych ac yn meithrin rhai newydd, yn ogystal â gwella eich cyflogadwyedd ac yn ymuno â rhwydwaith o fyfyrwyr sydd o'r un anian â chi, sef pobl sy'n ymwneud ag Undeb y Myfyrwyr.

 

Ynghyd â derbyn tystysgrif a chael eich rôl wedi'bydd gennych y cyfle i gael eich enwebu ar gyfer gwobr yn ein gwobrau diwedd y flwyddyn.

 

Sut mae modd i mi fod yn Swyddogion Cyfadran?

 

Cynhelir etholiadau ar gyfer Swyddogion y Gyfadran yn adegau penodol pwysig yn ystod y flwyddyn academaidd...

Etholiadau’r Gwanwyn: dyma’r cyfle cyntaf i chi ddod yn Swyddog Cyfadran a gynhelir ar y cyd gydag Etholiadau ar gyfer ein rolau Swyddogion Llawn Amser a Gwirfoddol.

 

Etholiadau’r Hydref: etholiad ar gyfer rolau gwag wedi Etholiadau’r Gwanwyn/ Is-etholiadau’r Gwanwyn.

 

Ceir dyddiadau ar gyfer yr etholiadau hyn yma. Yn ystod adegau y tu allan i etholiadau, gellir cysylltu â’n tîm yr etholiadau trwy  undeb.etholiadau@aber.ac.uk  i ddysgu sut gallwch chi gymryd rhan.

 

Pa hyfforddiant a chymorth gaiff eu darparu?

 

Estynnir gwahoddiad i bob Swyddogion Cyfadran fynychu hyfforddiant ynghyd â Swyddogion Gwirfoddol eraill cyn dechrau'r tymor cyntaf ym mis Medi. Gofynnir i'r rheiny sy'n methu mynychu'r hyfforddiant hwn, neu os ydyn nhw wedi cael eu hethol yn ddiweddarach, i fynychu sesiwn a drefnir yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Yn ogystal â hyfforddiant, byddwch yn derbyn cymorth gan y Swyddog Materion Academaidd a'r Cydlynydd Cynrychiolaeth Academaidd; byddwch yn cwrdd â nhw'n fisol yn ystod y tymor i drafod adborth, gwrando ar unrhyw bryderon a darparu cymorth pan fyddwch ei angen. Yn yr un modd â Chynrychiolwyr Academaidd, mae'n bosib y cewch chi gyfle i fynychu cynadleddau rhanbarthol a chenedlaethol i gwrdd â chynrychiolwyr o gyfadrannau eraill.

Mae'r Swyddog Materion Academaidd a'r Cydlynydd Cynrychiolaeth Academaidd hefyd wrth law gydol y flwyddyn i drefnu cyfarfodydd rheolaidd, cyfleoedd ychwanegol am hyfforddiant ac i ddarparu cymorth parhaus os bydd ei angen.

 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576