Dyma'r man cychwyn ar gyfer gwybodaeth ac adnoddau i'ch cefnogi yn eich rôl. Isod dewch o hyd i sut i gael mynediad at eich e-bost cynrychiolwyr yn ogystal â rhai templedi defnyddiol a dogfennau allweddol - gan gynnwys y llawlyfr cynrychiolwyr.
I’ch cefnogi mewn cysylltu â’r myfyrwyr rydych chi’n eu cynrychioli, rydyn ni wedi creu ‘E-byst Cynrychiolwyr’ ar gyfer pob cynrychiolydd academaidd etholedig. I actifadu a chael mynediad at y cyfeiriad e-bost, bydd rhaid i chi cwblhau ein ‘Cytundeb E-bost’ yma (bydd rhaid ei gwblhau bob blwyddyn academaidd).
Defnyddio eich E-bost Cynrychiolydd
- Defnyddir E-byst Cynrychiolwyr y fformat fel a ganlyn: rep-list-abc123@aber.ac.uk ‘abc123’ fydd enw eich defnydd Prifysgol Aberystwyth.
- I e-bostio myfyrwyr, y cwbl sydd angen ei wneud yw ei roi yn y maes ‘at (to)’ pan yn anfon eich e-bost
Noder...…
- Er mwyn sicrhau mai chi sydd â chaniatâd i’w ddefnyddio, ni fydd neb arall yn cael defnyddio enw eich defnydd
- Gall myfyrwyr ateb yn uniongyrchol i’r e-byst rydych chi’n anfon, byddwch yn gwybod bod yr e-bost wedi’i anfon oherwydd y dylech gael yr e-bost yn eich blwch.
- Bydd gan rai ohonoch chi yr un rôl ac felly gosodir eich e-bost i chi gael cysylltu â’r un grwp o fyfyrwyr. Cofiwch i gydweithio gyda’ch gilydd pan yn anfon e-byst.
- Wrth ddefnyddio cyfeiriad e-bost cynrychiolwyr, mae rhaid i chi ddilyn Hysbyseb a Pholisi Diogelu Data yr Undeb yn ogystal â Pholisi E-byst y Brifysgol.
Mae croeso i chi ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost i gyflwyno eich hun i’r grwp ac unwaith i chi fynd trwy’r hyfforddiant ewch i gasglu adborth.