Myfyrwyr sydd wedi cael eu dewis fel y bobl orau i siarad ar ran myfyrwyr eraill yw Cynrychiolwyr Academaidd a Swyddogion Cyfadran. Maen nhw’n rolau pwysig sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr godi adborth a gweithio gyda staff y Brifysgol i helpu gwneud eich amser yn Aberystwyth y gorau y gall fod!
I ddysgu mwy am y rolau hon a sut gallwch chi fod yn gynrychiolydd myfyrwyr, gweler y tudalennau hon isod:






Gellir clywed sut brofiad a gafodd myfyrwyr fel cynrychiolydd:
Lee, Cynrychiolydd Dysgu Gydol Oes - Celf a Dylunio "Fy enw i yw Lee Jones ac rwy’n byw yn Awstralia, ac ar hyn o bryd rwy wedi cofrestru ar gyfer tystysgrif mewn Astudiaethau Hanes Naturiol. Rwy’n rhan o’r gymuned ddysgu gydol oes ers yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rwy’n gynrychiolydd academaidd ers y tair blynedd ddiwethaf ac rwy hefyd ar bwyllgor staff/myfyrwyr dysgu gydol oes.
Rwy wedi canfod bod cynrychiolaeth academaidd i fyfyrwyr yn ffordd bwysig o gysylltu a chyfathrebu â myfyrwyr a staff eraill. Mae’n rhoi llais ar y cyd i’r holl fyfyrwyr yn ogystal â modd priodol i godi unrhyw bryderon ynglŷn â phrofiadau myfyrwyr gyda chyrsiau a bywyd yn y brifysgol."
Laura, Nyrsio: "Un difyr oedd fy nghyfnod fel cynrychiolydd, rwy’n mwynhau popeth o gyfathrebu â myfyrwyr a thiwtoriaid, ac ennill mwy o hyder wrth gwrdd a siarad â phobl newydd. O ran cynrychiolwyr yn y dyfodol, bachwch ar y cyfle i feithrin eich hyder, cwrdd â phobl newydd, a gwneud ffrindiau newydd."
Rebecca, Cynrychiolydd Bioleg a Gwyddorau Gwledig: “Rwy’n gynrychiolydd myfyriwr ers bron i dair blynedd bellach. Fe welais fod bod yn gynrychiolydd wedi caniatáu i fi wella fy sgiliau datrys problemau a meithrin fy sgiliau rheoli amser gydag arolygon myfyrwyr ac adnabod problemau cyn mynd ati i gynnig atebion posibl. Rwy wedi dysgu sut i feddwl yn gritigol a bod yn llais dros y myfyrwyr yn fy ngharfan waeth fo’r mater neu’r gwaith fel pont rhwng staff a myfyrwyr. Fe wyddwn i y cafodd yr heriau y mae fy mlwyddyn wedi’u hwynebu eu trafod a chaed newid i wella llwyddiant addysgiadol y rhain yn y blynyddoedd is. Daw hyn â theimlad fy mod wedi cyflawni pwrpas y swydd hon oherwydd fod llai o broblemau wrth fynd ymlaen. Fy nghyngor i gynrychiolwyr yn y dyfodol fyddai cynnig atebion posibl ac ystyried lle bydd angen cyfaddawdu ar faterion pan yn mynd i’r afael â nhw gan fod staff yn gwerthfawrogi hyn yn fwy."
Cysylltiadau Allweddol:
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â: