Helo o UMAber

 

CROESO i UMAber

Llongyfarchiadau ar sicrhau eich lle ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydych chi eisoes ar y llwybr at y cyfnod mwyaf cyffrous o'ch bywyd. Rydyn ni methu aros i gwrdd â chi!
 
Ni yw eich Undeb Myfyrwyr ac rydyn ni yma i wneud eich taith drwy Brifysgol Aber gryn lawer haws.
Rydyn ni'n gweithio'n glòs gyda'r Brifysgol, ond rydyn ni'n elusen gofrestredig cwbl annibynnol.
Dan arweiniad myfyrwyr, gyda chymorth tîm o staff, mae Undeb Aber am i fyfyrwyr Aber fwynhau bywyd a bod yn barod am unrhyw beth. Rydyn ni'n gweithio i sicrhau bod myfyrwyr Aber yn cael taith anhygoel, eu bod yn hapus, yn iach a bod ganddyn nhw'r grym i newid pethau - hefyd y byddan nhw'n gwneud ffrindiau a bod dyfodol disglair o'u blaen.
 
Mae holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn aelodau awtomatig o UndebAber, felly does dim angen i chi wneud unrhyw beth.
 
Eisteddwch yn ôl a mwynhewch y profiad, ac efallai bwrw golwg dros yr hyn sydd gennym ni ar eich cyfer yn ystod cyfnod y glas yma!
 

AWN I GYMDEITHASU!

Dilynwch ni ar @UndebAber i gael y diweddaraf gan UMAber!

               

Ymunwch â'r grŵp Facebook yma.


AM GYFNOD Y GLAS

Diben cyfnod y Glas yw eich helpu i setlo i mewn, gwneud ffrindiau a dod i garu eich cartref newydd!
Yn ystod Wythnos y Glas, mae gennym ni amrywiaeth o bethau ar y gweill i'ch cyflwyno i fywyd yn y Brifysgol...
Mae'n llawn dop o gyfleoedd i gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau!
Mae ein gweithgareddau a'n digwyddiadau ar gyfer pawb, p'un ai ydych chi'n las-fyfyriwr sydd newydd adael yr ysgol, myfyriwr hyn neu'n fyfyriwr sy'n dychwelyd...
mae gennym ni rywbeth i chi i gyd!
 
 
 

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at eich croesawu chi i Aberystwyth fis Medi! Bydd ein tudalen yn cael ei diweddaru gyda chyngor, digwyddiadau a blogiau rhwng nawr a dechrau’r flwyddyn academaidd. Dilynwch ni ar @UndebAber