TOCYNNAU DIGWYDDIADAU AR WERTH NAWR
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
Wythnos y Croeso yw eich cyfle i ddarganfod eich cymuned Aber, cael blas ar fywyd myfyrwyr a dod i nabod eich cartref. Mae gennym ni ddigwyddiadau lu i chi fod yn rhan ohonynt cymaint neu gyn lleied ag yr hoffech chi. Dyma eich cyfle i ddod i nabod eich cartref newydd – i gael hwyl a mwynhau’r holl gyfleoedd ar gael!
Yn ystod Wythnos y Glas, mae gennym ni amrywiaeth o bethau ar y gweill i'ch cyflwyno i fywyd yn y Brifysgol. Mae'n llond wythnos o gyfleoedd i gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym ddigwyddiadau dydd, fel ein Digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch, lle y gallwch gwrdd â myfyrwyr o’r un anian, taith IKEA, a Ffair y Glas. Yn ogystal â’n digwyddiadau anhygoel gyda’r hwyr nad ydych chi am eu colli! Mae ein gweithgareddau a'n digwyddiadau i bawb, p'un ai ydych chi'n las-fyfyriwr sydd newydd adael yr ysgol, myfyriwr hyn neu'n fyfyriwr sy'n dychwelyd... mae gennym ni rywbeth at ddant pawb.
Ewch i’n tudalen ddigwyddiadau i weld beth sydd ymlaen Wythnos y Croeso hon!
Mae digwyddiadau Cyfnod y Croeso (gyda’r dydd a’r hwyr) yn ffordd dda o ddod i nabod myfyrwyr Aber, gwneud ffrindiau newydd a helpu i chi deimlo’n gartrefol yn y Brifysgol. Gyda’r hyn sydd wedi’i drefnu gennym ni, bydd digonedd o gyfleoedd i chi ddarganfod eich cymuned Aber a chael llawer o hwyl wrth ei wneud!
Bydd y mwyafrif o'n digwyddiadau yn cael eu cynnal yn Undeb Aber (ar y Concourse wrth y Llyfrgell) a'n Ffair y Glas yn cael ei gynnal yn Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau eleni. Bydd y calendr digwyddiadau yn nodi lleoliad pob digwyddiad arwahan...Peidiwch â phoeno – fe rown ni chi ar ben ffordd.