Cofnodi Eich Oriau

Rydych chi wirfoddolwyr myfyrwyr Undeb Aber yn anhygoel ac rydym yn credu eich bod chi’n haeddu cydnabyddiaeth am yr holl amser a’r ymdrech rydych chi’n eu rhoi er lles eich cydfyfyrwyr, y gymyned neu achos sydd o bwys ichi.

Mae’r GWOBRAU ABER yn ffordd o ddathlu eich rwymedigaeth i wirfoddoli yn ystod eich amser yma yn Aberystwyth. Mae gennym 3 gwobr (Efydd, Arian ac Aur) y gallwch weithio tuag atynt trwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae pob gwobr yn eich helpu i fonitro’r oriau, y gweithgareddau a’r sgiliau rydych chi’n eu hennill neu eu cyflawni fel gwirfoddolwr. Croesawir pawb sy’n cyrraedd gwobr garreg filltir i'n digwyddiad ar ddiwedd y flwyddyn lle y byddwch yn cael eich dyfarnu gyda thystysgrif argraffedig o’r wobr uchaf rydych chi wedi’i chyflawni.



Eleni, caiff oriau gwirfoddoli eeu cyfrif o 1 Mehefin 2024 tan 31 Mai 2025.

 


Sut i weithio tuag at Wobr Aber?

 

Mae'n hawdd gweithio tuag at Wobr Aber, dilynwch y camau hyn:

  • Cofrestrwch fel gwirfoddolwr
  • Mewngofnodwch i'r Hwb Gwirfoddolwyr
  • Cofnodwch eich oriau, gweithgareddau a sgiliau yn rheolaidd

Nid ydych chi'n gyfyngedig i gofnodi oriau o un rôl, felly os ydych chi'n ymwneud ag amryw o wahanol weithgareddau gwirfoddol, yna byddem yn eich annog chi i gofnodi popeth rydych chi'n ei wneud! Gwnewch yn siwr eich bod yn diweddaru'ch cofnod!

 

Pa oriau a gweithgareddau alla i eu cofnodi?

 

Gellir cofnodi unrhyw wirfoddoli a wnewch yn Aberystwyth, yn ystod y Flwyddyn Academaidd (Medi - Mai). Cyn derbyn eich gwobr, bydd aelod o staff yn cadarnhau eich holl oriau gwirfoddoli a’r sgiliau rydych chi wedi’u meithrin. Nid dim ond yr oriau rydyn ni'n eu gwirio, ond y sgiliau hefyd. Gallwch ganfod mwy am ba weithgareddau y gellir eu cofnodi:

 

 

 

Cliciwch isod i weithio tuag at y Gwobrau Aber a llwythwch eich gweithgareddau, eich sgiliau a’ch oriau i fyny.

Yn gyntaf, mae rhaid i chi gofrestru fel gwirfoddolwr er mwyn defnyddio eich proffil gwirfoddolwr.

 

 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu eisiau rhagor o wybodaeth ynglyn â’r Gwobrau Aber, yna cysylltwch ag...

  Cydlynydd Gwirfoddoli
Tom - suvolunteering@aber.ac.uk

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576