🥾⛰️ Aran Fawddwy (Cy)
Gradd:
⬇⬇⬇ Manylion llawn isod ⬇⬇⬇
- Trosolwg -
Ar ddydd Sul 20ain Hydref, byddwn yn dringo Aran Fawddwy, y mynydd talaf i’r de o’r Wyddfa. Bydd y daith fynydda hon yn heriol o ran pellter ac uchder.
- Manylion -
Byddwn yn cychwyn o bentref Llanuwchllyn, gêr Llyn Tegid.
O’r maes parcio, ewn ni tua’r de, yn dilyn cefn y mynydd yn arwain at Aran Fawddwy. Byddwn yn mynd i fyny sawl copa llai ar hyd y ffordd, gan gynnwys Aran Benllyn ac Erw y Ddafad-Ddu. Os bydd y tywydd yn braf, cawn olygfa arbennig ar ganol Eryri a Llyn Tegid o’r pen.
Am y rhan fwyaf, mae’r llwybr yn codi’n ysgafn. Byddwn wedyn yn am yn ôl ar hyd ein llwybr i ddychwelyd.
Rydyn ni’n ystyried y llwybr hwn i fod yn 4 o ran anhawster, er y gallai godi i 5 os bydd y tywydd yn wael.
- Man Cwrdd, Amseroedd, a Thrafnidiaeth -
Byddwn yn cyfarfod ym maes parcio Lidl am 07:00: https://www.google.com/maps/search/52.4137,+-4.0804?sa=X&ved=1t:242&ictx=111
Byddwn yn gadael Aberystwyth am 07:15, fel bod ganddom ni ddigon o amser i gyrraedd cyn iddi nosi. Rydyn ni’n gobeithio dychwelyd erbyn 17:30.
Byddwn yn teithio mewn bws gwennol.
- Arwyddo i fyny -
Codir £7 i dalu am gost llogi’r bws gwennol.
✨✨✨I gofrestru ewch i wefan UM (https://www.umaber.co.uk/organisation/6595/) ac o dan y tab cynnyrch fe welwch ‘Hiking - Aran Fawddwy’ ychwanegwch hwnnw at eich basged a’ch til.✨✨✨
Dylai cofrestru fod ar gael o brynhawn dydd Iau.
Os ydych chi’n colli’r cofrestru, e-bostiwch atom i gael eich rhoi ar restr aros: hikingclub@aber.ac.uk
- Offer -
- Esgidiau cerdded*
-Trowsus gwrth-ddŵr*
-Côt wrth-ddŵr
-O leiaf 4 haen o ddillad ar gyfer eich torso
- Het, sgarff a menig
- Bwyd
-O leiaf 2L o ddŵr
- Bag addas i gario popeth
- Unrhyw feddyginiaeth sydd angen arnoch
*Os hoffech chi weld ydy eich esgidiau am wneud y tro, neu fod angen menthyg offer (ee trowsus sy’n dal dŵr), cysylltwch â ni drwy hikingclub@aber.ac.uk . Cofiwch gysylltu â ni 24 awr cyn y digwyddiad o leiaf.
Gellir gweld yr offer y gallwn ni fenthyca drwy bori ein rhestr offer: https://prifysgolaber.sharepoint.com/:x:/s/Hiking/EUEPu_aL24tBrflGuOK3QmoBewzUlfi-6ECua_8BGoMcMQ?e=VZ2utf
- Diwedd -