Gŵyl Cariad Aberystwyth

❤️O Ddydd Santes Dwynwen ar Ionawr 25 hyd at Ddydd San Ffolant ar Chwefror 14, bydd Aberystwyth yn dathlu CARU gyda’n Gŵyl Cariad gyntaf—ac fe fydden ni wrth ein boddau pe baech chi’n rhan o’r flwyddyn beilot uchelgeisiol hon!

 

Bydd yr ŵyl yn dechrau ar Ionawr 25 gyda gorymdaith fywiog Dydd Santes Dwynwen trwy’r dref, lle mae pawb yn cael eu hannog i wisgo’n lliwgar ac ymuno mewn gorymdaith lawen ochr yn ochr â phyped enfawr o Santes Dwynwen a band salsa bywiog. Bydd y diwrnod yn gorffen gyda Thwmpath traddodiadol, wedi’i threfnu gan Gyngor Tref Aberystwyth. Mae'n ffordd berffaith i lansio'r ŵyl gyda llond trol o egni a chyffro! Rydyn ni’n gobeithio y bydd Gŵyl Cariad Aberystwyth yn tyfu i fod yn ddigwyddiad rheolaidd sy’n dod â chynhesrwydd, creadigrwydd, a llawenydd i’r dref bob gaeaf. ❤️

Mwy i ddod

Parkrun Aberystwyth
28th Rhagfyr
Plascrug Avenue
short desc?
Gemau BUCS
15th Ionawr
Adref / I Ffwrdd
Sefyll yn Agor
17th Ionawr - 24th Chwefror

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576