Dewis Choice, Prifysgol Aberystwyth yn gwirfoddoli mewn parkrun ar gyfer Diwrnod y Rhuban Gwyn
Eventbrite
Mae Dewis Choice ym Mhrifysgol Aberystwyth yn trefnu i wirfoddoli mewn parkrun ar gyfer Diwrnod y Rhuban Gwyn - diwrnod i godi ymwybyddiaeth am drais tuag at fenywod a merched—a byddem wrth ein bodd pe baech yn helpu i wneud yr achlysur yn un arbennig!
Os hoffech gefnogi'r digwyddiad hwn, rhannwch ef â rhywun a fyddai â diddordeb. Diolch yn fawr iawn.
Cwestiynau Cyffredin
-
Beth yw Diwrnod y Rhuban Gwyn?
Rhuban Gwyn yw elusen flaenllaw’r DU sy'n ymgysylltu â dynion a bechgyn i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched. Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn ar ddydd Llun, 25 Tachwedd 2024, ac mae’n codi ymwybyddiaeth am atal trais ar sail rhywedd.
-
Pa gymorth sydd ar gael? Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn dioddef cam-drin domestig neu aflonyddu, mae cymorth ar gael:
-
Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru: Llinell gymorth 24/7: 01970 625585
-
Byw Heb Ofn: Llinell Gymorth 24/7 Cymru Gyfan: 0808 8010 800
-
Myfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth: Defnyddiwch y gwasanaeth Adrodd a Chymorth dienw: reportandsupport.aber.ac.uk
-
Staff, Prifysgol Aberystwyth - Cysylltwch â HR@aber.ac.uk 01970 628555
-
Beth yw parkrun a pwy all gymryd rhan?
Mae parkrun yn ddigwyddiad cymunedol am ddim lle gallwch gerdded, loncian, rhedeg neu wirfoddoli. Dysgwch fwy yn www.parkrun.org.uk.
Mae croeso i bawb—staff, myfyrwyr, teulu, ffrindiau, a'r gymuned. Gallwch gerdded, loncian, rhedeg neu wirfoddoli.
4. Sut mae'r digwyddiad hwn yn codi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod a merched?
Mae'r digwyddiad hwn yn dod â'r gymuned at ei gilydd, yn darparu gwybodaeth, ac yn dosbarthu rhubanau gwyn, symbol yn erbyn trais ar sail rhywedd.
-
Beth ddylwn i ei wisgo, a pham gwyn?
Rydym yn awgrymu gwisgo crys T gwyn (nid oes raid) ar gyfer y ffoto grŵp, sy'n symbol o undod i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched. Pe bai’n well gennych, gwisgwch ruban gwyn, y byddwn yn eu dosbarthu ar y diwrnod.