Taith IKEA Caerdydd
Tocynnau ar gael yn fuan!
Hoff o’r syniad o daith i IKEA? Wel, dyma’ch cyfle! Byddwn yn mynd â chi yr holl ffordd i fyd hudolus IKEA ac yn ôl fel eich bod yn gallu rhoi eich tro eich hun ar eich cartrefi newydd. Mi fydd digonedd o ddodrefn a nwyddau cartref chwaethus a fforddiadwy at eich dant, ac ar ben hynny, bydd digon o amser i chi gael pryd blasus yn IKEA!
Fel arall, os hoffech chi deithio’n rhad gan fws i Gaerdydd ac yn ôl, mae modd i chi fynd ar y trên o Orsaf Grangetown (rhyw gwta 10 munud o IKEA) a dychwelyd trwy Gaerdydd Canolog. Y cwbl i’w gofio yw eich bod chi yn ôl yn IKEA erbyn 3:30yh i fynd ar y bws.
Manylion:
- Gadael Aber am 8yb (fe fydd yn disgwyl wrth waelod grisiau Canolfan y Celfyddydau).
- Dewch yn brydlon a rhowch 15 munud i sicrhau ein bod yn cyrraedd mewn da bryd.
- Arosfannau ar gael yn IKEA a Chanol Dinas Caerdydd.
- Byddwn yn gadael IKEA am 6yh a dychwelyd i Aber erbyn 10yh (Gorsaf Fysus / grisiau Canolfan y Celfyddydau).
Nifer gyfyngedig o lefydd ar gael, uchafswm o 2 sedd fesul archeb.
Ni cheir ei ad-dalu.