Auzee Rosmadee
Swyddog Heb Bortffolio
undeb.hebbort@aber.ac.uk
Auzee yw’r Swyddog Heb-Bortffolio eleni, ar ôl treulio blwyddyn fel Swyddog Myfyrwyr Rhyngwladol.
Fel Swyddog Heb Bortffolio, nid oes gan Auzee gyfrifoldebau penodol, ond yn hytrach mae’n cynnig cymorth i swyddogion eraill, yn mynd i’r afael â materion fel y byddant yn codi ac yn ymgyrchu ar faterion a amlygwyd yn ei maniffesto.
Mae Auzee yn awyddus i roddi sylw penodol i’r meysydd canlynol:
-
Cymdeithasau: Cydweithredu â’r Swyddog Cymdeithasau er mwyn helpu i ddatblygu cymdeithasau ac ymgysylltu â chynulleidfa ehangach.
-
Lles: Gweithio gyda swyddogion eraill i ymgyrchu ar faterion megis iechyd meddwl a chefnogaeth.
-
Myfyrwyr Rhyngwladol: Gweithio gyda’r Swyddog Myfyrwyr Rhyngwladol i wella profiad myfyrwyr rhyngwladol.