Etholir Swyddogion rhan-amser bob blwyddyn, ond yn wahanol i'r Swyddogion llawn-amser, maent yn gweithredu eu dyletswyddau'n gyfochrog â'u hastudiaethau. Mae gan bob swyddog rhan-amser gyfrifoldeb penodol, a gall rhai ohonynt gynrychioli grwpiau penodol o fyfyrwyr. Felly, dim ond myfyrwyr sy'n hunan ddiffinio i'r grwpiau penodol hynny gaiff sefyll neu bleidleisio ar gyfer y swyddi hyn. Er enghraifft, dim ond myfyrwyr sy'n hunan-ddiffinio fel menywod gaiff sefyll neu bleidleisio ar gyfer rôl Swyddog y Menywod.
Mae'r rolau hyn yn rhai gwirfoddol a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cyflawni'r rôl ynghyd â'u hastudiaethau. Darperir hyfforddiant ar gyfer pob swyddog etholedig, ynghyd â chefnogaeth ac arweiniad i gyflawni eu rôl a throi eu hamcanion yn realiti.
Mae Cadeirydd yr Undeb yn gyfrifol am redeg Cyngor yr Undeb. Gan weithio gyda swyddogion eraill, maent yn mynd ati i hyrwyddo cyfarfodydd y Cyngor ac yn sicrhau bod trafodaethau'n deg, yn agored a bod pob penderfyniad a wneir yn dryloyw a democrataidd.
Mae Swyddog yr Iaith Gymraeg yn cynrychioli myfyrwyr Cymraeg eu hiaith ar y campws, gan sicrhau bod yr iaith Gymraeg wrth galon yr Undeb. Gan weithio gyda swyddogion a mudiadau eraill, maent yn ymgyrchu ar faterion sy'n perthyn i'r diwylliant Cymraeg ac yn sicrhau bod barn myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn cael ystyriaeth.
Mae Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd yn cynrychioli myfyrwyr ac yn ymgyrchu ar faterion sy'n perthyn i'r amgylchedd a datblygiad cynaliadwy. Gan weithio gyda swyddogion, mudiadau a myfyrwyr eraill, maent yn sicrhau bod yr undeb a'r brifysgol yn gwella effaith amgylcheddol eu gwaith.
Mae'r Swyddog RAG yn cynrychioli myfyrwyr ar faterion sy'n ymwneud â gweithgaredd elusennol yr undeb. Mae'n gweithio gyda chlybiau a chymdeithasau, lle bo hynny'n briodol, i gydlynu gweithgareddau a chynghori'r undeb ar ffyrdd y gall wella effaith ei waith.
Mae'r Swyddogion hyn y cynrychioli grwpiau penodol o fyfyrwyr. Gan redeg ymgyrchoedd, cynnig cymorth i fyfyrwyr a gweithredu fel ffynhonnell wybodaeth, maent yn gweithio gyda swyddogion eraill i sicrhau bod anghenion grwpiau penodol o fyfyrwyr yn cael eu diwallu, yn ogystal ag amddiffyn ac ymestyn cydraddoldeb ar gyfer pob myfyriwr sy'n hunan-ddiffinio neu'n uniaethu ag un o'r rolau.
Cynrychiolwyr Athrofeydd yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer adborth a chreu datrysiadau ar y cyd ar lefel Athrofa. Maent yn gweithio gyda'r Swyddog Materion Academaidd i gynrychioli myfyrwyr i'r Brifysgol drwy eistedd gyda nhw ar wahanol bwyllgorau a mynychu'r Parth Academaidd. Maent yn cwrdd yn rheolaidd â Chynrychiolwyr Academaidd a Chyfarwyddwr eu Hathrofa er mwyn darparu adborth ac ymateb iddo.