Etholiadau Cynhadledd UCM
|
Fel aelodau cyswllt o Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr (UCM), mae gan UMAber hawl i anfon cynrychiolwyr i bob un o'i gynadleddau democrataidd a gaiff eu cynnal bob blwyddyn ledled y DU. Dyma gyfle i chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiad myfyrwyr ledled y DU. |
|
|
|
|
|
Sefyll yn Dechrau |
Dydd Llun 16 Ionawr 2017 |
12:00 cannol dydd |
|
Sefyll yn Gorffen |
Dydd Gwener 20 Ionawr 2017 |
12:00 cannol dydd |
|
|
|
|
|
Dechrau'r Bleidlais |
Dydd Iau 26 Ionawr 2017 |
10:00 yb |
|
Diwedd y Bleidlais |
Dydd Gwener 27 Ionawr 2017 |
16:00 yp |
|
|
|
|
|
Mae pob cynhadledd yn gwahodd myfyrwyr o ledled y DU i ddod ynghyd a helpu ffurfio gwaith UCM, ac felly'r gwaith byddwn ni'n ei wneud yma yn Aber!
Y prif amcan yw dod â myfyrwyr ynghyd i drafod syniadau ac i greu newid yn y gymdeithas. Bydd yn ddiddorol, bydd yn brysur a bydd llawer o drafod.
Eleni bydd UMAber yn anfon cynrychiolwyr i 9 cynhadledd:
- Cynhadledd Genedlaethol UCM
- Cynhadledd UCM Cymru
- Cynhadledd Myfyrwyr Rhyngwladol UCM y DU
- Cynhadledd Traws* UCM y DU
- Cynhadledd LHDT+ UCM y DU
- Cynhadledd Myfyrwragedd UCM y DU
- Cynhadledd Myfyrwyr Anabl UCM y DU
- Cynhadledd Adrannau UCM y DU
- Cynhadledd Haf Myfyrwyr Croenddu UCM y DU
Gall mynychu cynhadledd UCM fod yn brofiad gwych i unrhyw fyfyriwr. Cewch lawer o gyfleoedd i rwydweithio gyda myfyrwyr o ledled y DU, gan rannu'r cyfle i ddatblygu sgiliau arwain, cyfathrebu, trefnu, gweithio mewn tîm a chynllunio.
Mae'n fodd gwych o ddatblygu eich CV ac yn gyfle perffaith i chi gyfranogi mwy yn yr Undeb a gwleidyddiaeth myfyrwyr ar lwyfan cenedlaethol.
Caiff eich treuliau i gyd eu talu ar gyfer mynychu'r digwyddiad, gan gynnwys teithio, llety a chofrestru. Caiff hyfforddiant a chymorth eu cynnig hefyd i'r ymgeiswyr i'w helpu i baratoi am y gynhadledd!
Pa fantais sydd i fyfyrwyr Aber?
Drwy anfon cynrychiolwyr i gynadleddau, mae UMAber yn rhoi cyfle i'w fyfyrwyr i leisio'u barn ar lwyfan cenedlaethol drwy bleidleisio ar bolisïau, etholiadau pwyllgor gwaith UCM a mwy!
Mae'n gyfle gwych i rwydweithio ac i ddysgu gan eraill a bydd y cynrychiolwyr yn dychwelyd i Aber ac yn cyfrannu'n uniongyrchol at yr ymgyrchoedd a chanolbwynt gwaith yr Undeb er pob myfyriwr.
Mae angen ethol pob dirprwyaeth a anfonir i Gynhadledd UCM yn ddemocrataidd, sy'n golygu bod rhaid i bob myfyriwr sydd â diddordeb sefyll a darparu gwybodaeth i gorff y myfyrwyr i bleidleisio dros y rheiny fydd yn eu cynrychioli orau yn eu barn!
Mae'n hawdd iawn sefyll – llenwch ein ffurflen ar-lein yma.
Bydd angen:
- Manylion ar gyfer cofrestru a'r etholiad
- Hyd at 200 o eiriau'n esbonio pam dylai myfyrwyr drosoch chi a chrynodeb 20 gair o hyd.
Sefyll yn Dechrau |
Dydd Llun 16 Ionawr 2017 |
12:00 cannol dydd |
Sefyll yn Gorffen |
Dydd Gwener 20 Ionawr 2017 |
12:00 cannol dydd |
Caiff pob myfyriwr God Pleidleisio Unigryw (CPU) mewn e-bost i'w ddefnyddio yn ystod y cyfnod pleidleisio.
Dylech chi ond bleidleisio yn etholiadau'r cynadleddau sy'n effeithio arnoch chi, er enghraifft dim ond menywod ddylai bleidleisio yn etholiad Cynhadledd y Menywod.
Dechrau'r Bleidlais |
Dydd Iau 26 Ionawr 2017 |
10:00 yb |
Diwedd y Bleidlais |
Dydd Gwener 27 Ionawr 2017 |
16:00 yp |
Mae pob cynhadledd yn rhoi gwybod i ni faint o gynrychiolwyr mae modd i ni eu hanfon iddi. Mewn dirprwyaethau o fwy nag un, rhaid i o leiaf 50% (wedi'i dalgrynnu i lawr) hunan ddiffinio fel menyw. Er enghraifft, mewn dirprwyaeth o 5, rhaid i o leiaf 2 fod yn fenyw. Mae gan rai cynadleddau lefydd penodol wedi'u neilltuo i ymgyrchoedd rhyddhad ac adrannau eraill.
Bydd pob ymgeisydd yn gyfartal yn eu hymgyrchoedd a byddan nhw'n cystadlu am yr un pleidleisiau gan yr un grwp o etholwyr.
Ar gyfer cynadleddau â mwy nag un ddirprwyaeth, byddwn ni'n cyfri'r pleidleisiau mewn ffordd sy'n llenwi'r llefydd wedi'u neilltuo yn gyntaf gan ddefnyddio sawl cyfrif. Yn y cyfrif cyntaf, byddwn ni'n dileu pob ymgeisydd nad yw'n gymwys ar gyfer rôl wedi'i neilltuo a chaiff y pleidleisiau eu hail-ddosbarthu ymysg yr ymgeiswyr a neilltuwyd. Caiff y broses hon ei hailadrodd tan gaiff pob safle sydd wedi'i neilltuo ei ethol. Yn yr ail gyfrif, byddwn ni'n dileu pob ymgeisydd a gafodd eu hethol yn y cyfrif cyntaf ac yn llenwi'r rolau sy'n weddill.