Estelle Hart
Ymddiriedolwr Allanol?
Mae Estelle yn arwain systemau cynrychiolaeth myfyrwyr ac arolygon o fyfyrwyr fel rhan o'r adran profiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe, treuliodd Estelle dair blynedd yn swyddog etholedig llawn amser Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru ac yn y DU. Fel rhan o'r rôl hon, roedd Estelle yn eistedd ar fwrdd UCM a bwrdd Gwasanaethau Elusennol UCM ynghyd â chadeirio Pwyllgor Rhyddhad, Cydraddoldeb ac Amrywioldeb y mudiad. Ynghyd â'i gwaith, mae Estelle yn aelod gweithgar o Unite the Union, gan weithredu fel ysgrifennydd cangen leol ac fel aelod o'r pwyllgorau LHDT a gwleidyddol rhanbarthol.