Beth yw cyfweliad i benderfynu dilysrwydd gwaith?
Efallai bod rhai myfyrwyr yn gwneud camgymeriadau neu o bosib nad ydynt yn ymwybodol o’r rheolau ynghlwm â’r ymarfer academaidd gorau. Rydyn ni’n awgrymu i chi ddod yn gyfarwydd â’r cyngor y mae eich adran yn ei ddarparu ar gyfer pob modiwl y byddwch yn ei wneud. Serch hynny, Mae rheolau’r Brifysgol ar ymarfer academaidd annerbynniol yn llym a’r rhain fydd yn penderfynu canlyniad achos lle bydd myfyriwr/wraig wedi’i ch/gyhuddo o arfer academaidd annerbynniol (yn fwriadol neu beidio).
Mae i ‘arfer academaidd annerbynniol’ amryw ddisgrifiadau ond pan fydd yn achosi cyfweliad i benderfynu dilysrwydd gwaith bydd yn cynnwys cyhuddo myfyrwyr o gyflwyno gwaith a gynhyrchir gan Ddeallusrwydd Artiffisial ond fel eu gwaith eu hun neu gyflwyno asesiadau gan felin draethodau neu wasanaethau ffugio traethodau.
Efallai y bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn gofyn am i’r cyfweliad gael ei gynnal i edrych yn graff am ddilysrwydd y gwaith a gyflwynir.
Bydd yr adran yn rhoi gwybod am dyddiad, amser a lleoliad y cyfweliad i’r myfyriwr/wraig.
Gan fod seiliau dros gredu nad y myfyriwr/wraig a wnaeth y gwaith i gyd, pwrpas y cyfweliad, cyn archwiliad panel AAA (os yn briodol), yw rhoi gwybodaeth y myfyriwr/wraig o’r gwaith a gyflwynwyd ar waith a rhoi y cyfle i ddangos mai nhw wnaeth y gwaith i’r myfyriwr/wraig.
Bydd panel y cyfweliad yn cynnwys Cadeirydd sy’n annibynnol ar y cyhuddiad ac arbennigwr/wraig ar y pwnc (fel arfer yr arholwr/wraig neu gydlynydd y modiwl). Bydd rhaid cadw cofnod ysgrifnedig o’r cyfweliad ar ffurf gofnodio a gallai’r rhain gael eu cynnwys yn dystiolaeth i gyhuddiad o AAA os aiff y cyhuddiad yn ei flaen wedyn.
Beth am os ydych chi’n cael eich amau o gyflwyno gwaith nad chi wnaeth yn llwyr?
Caiff myfyrwyr y cyfle i gyflwyno tystiolaeth yn ymwneud â’r cyhuddiad gan gynnwys unrhyw waith paratoi megis drafftiau ac adborth. Cânt eu cynrychioli gan gynghorydd o Undeb y Myfyrwyr. Os ydy’r Cadeirydd yn cyd-weld, ceir cynrychiolaeth gan bobl eraill, a dylid cyflwyno unrhyw geisiadau am gynrychiolaeth felly gan ysgrifennu at y Cadeirydd cyn cyfarfod panel y cyfweliad. Fel arfer, ni chaniateir cynrychiolaeth gyfreithiol yn y cyfarfod.
Bydd y panel fel arfer yn gofyn cwestiynau ynglyn â sut yr aethoch chi ati i greu’r darn o waith a gyflwynwyd, beth oedd y prosesau, o ble cawsoch chi’r wybodaeth a’r adnoddau a ddefnyddiwyd ayyb. Bydd hefyd yn holi ynghylch y pwnc dan sylw i benderfynu eich gafael ar y maes. Bydd hefyd yn gofyn i chi a ydych chi wedi defnyddio unrhyw offer Deallusrwydd Artiffisial pan yn cynhyrchu’r darn o waith dan sylw ac os felly, pa beth a ddefnyddiwyd a sut y cafodd ei ddefnyddio yn y darn cyflwyniedig. Ar y Bwrdd Du, mae pob adran â’i chyngor ei hun ar y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn ymwneud â phob modiwl.
Beth yw’r cosbau?
Yn sgil y cyfweliad, mae’r panel yn cyflwyno ei farn ar ddealltwriaeth y myfyriwr/wraig o’r gwaith a’r rhesymau dros y canlyniad hwn.
Os bydd y panel yn dod i’r casgliad nad gwaith gwreiddiol y myfyriwr/wraig mohono, bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn cyfeirio’r achos i banel AAA i archwilio cyhuddiad o Arfer Academaidd Annerbynniol ynghyd â manylion y cyhuddiad ac adroddiad o’r cyfweliad.
Os bydd myfyriwr/wraig yn cyfaddef eu bod yn euog o AAA yn rhan o broses y cyfweliad, bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn cyfeirio’r achos i’r Gofrestr Academaidd i benderynu ar gosb priodol.
Os daw panel y cyfweliad i’r casgliad fod y myfyriwr/wraig wedi dangos mai eu gwaith eu hun yw ynteu bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn hysbysu cydlynydd y modiwl y dylai’r gwaith gael ei farcio yn ôl meini prawf cyhoeddedig yr adran a rhoi gwybod am na fydd camau pellach i’r myfyriwr/wraig. Cewch wybod am eich marciau wedyn.
Beth gall Gwasanaeth Cynghori Undeb Aber ei gynnig i’ch helpu?
Mae Gwasanaeth Cynghori Undeb Aber yn cynnig cymorth cyfrinachol, diduedd i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth am ddim sy’n annibynnol ar y Brifysgol.
Rydyn ni’n cydnabod y gall cael eich amau o Arfer Academaidd Annerbynniol beri peryder, ac felly dyma eich annog i gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori cyn gynted â phosib.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori yn gallu eich helpu mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys:
- Esbonio prosesau’r cyfweliad i benderfynu dilysrwydd gwaith i chi;
- Rhoi syniad o’r fath o gwestiynau sy’n debyg o godi gan y panel yn ogystal â rhoi cyngor ar y ffordd orau i chi egluro, dadlau neu ddadlau dros eich amgylchiadau;
- Dod gyda chi i unrhyw gyfweliad i roi cefnogaeth a chynrychiolaeth;
- Eich cynghori ar y cosbau posib a allai ddod yn ganlyniad;
- Cyngor pellach os aiff eich achos ymlaen i banel AAA.
I drafod eich holl opsiynau, yn cynnwys pa gymorth sydd ar gael i chi, cysylltwch â ni drwy’r isod:
Cysylltu â Chynghorydd
Dolenni defnyddiol:
Cyhoeddwyd gyntaf: Awst 2024
Adolygwyd: Awst 2024