Ymddygiad Academaidd Annerbyniol (YAA)

Beth yw Ymddygiad Academaidd Annerbyniol (YAA)?

Mae'n bosib y gall rhai myfyrwyr wneud penderfyniad anghywir, neu gall fod nad ydynt yn ymwybodol o'r rheolau sy'n perthyn i arfer academaidd gorau.  Serch hynny, mae rheoliadau'r Brifysgol parthed ymddygiad academaidd annerbyniol (YAA) yn llym ac maent yn llywodraethu achosion lle honnir bod myfyriwr wedi ymgymryd ag ymddygiad academaidd annerbyniol (boed yn fwriadol neu'n anfwriadol).

Mae sawl agwedd i'r diffiniad o 'ymddygiad academaidd annerbyniol', ond yn gyffredinol, cyfeiria at achosion o lên-ladrad honedig (e.e. defnyddio gwaith rhywun arall heb ei briodoli iddynt), cyfeirnodi gwael neu annigonol, ailgylchu eich gwaith eich hun o asesiadau eraill, cydgynllwynio (h.y. gweithio gyda myfyriwr arall i gyflwyno eu gwaith fel eich un chi, neu'r ffordd arall o gwmpas) a hyd yn oed cyflwyno gwaith a gynhyrchwyd gan Ddeallusrwydd Artiffisial fel eich gwaith eich hun.


Beth os ydych chi'n cael eich amau o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol (YAA)?

Os oes amheuaeth eich bod wedi ymgymryd ag YAA, mae dwy ffordd y bydd achosion fel rheol yn cael eu trin:

  • Mewn rhai achosion llai, bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn delio â hyn, ac nid yw’n ofynnol i chi fynychu cyfarfod panel ffurfiol, er y gallwch ofyn am un ar ôl i'r canlyniad gael ei gadarnhau.
  • Ym mhob achos arall, fe'ch gwahoddir fel arfer trwy e-bost i fynychu cyfarfod panel ffurfiol dan gadeiryddiaeth Adran neu Gyfadran neu ei enwebai. Y cyfarfod hwn yw eich cyfle i egluro, dadlau neu esbonio'r amgylchiadau i'r Panel cyn iddynt fynd ati i benderfynu os bu YAA a gwneud argymhellion i'r Gofrestrfa Academaidd parthed unrhyw gosb briodol.

Yn y naill achos a’r llall, dylech wybod nad oes a wnelo 'bwriad' ddim byd â'r penderfyniad na'r gosb a ddyfernir, p'un a oeddech chi wedi gweithredu'n fwriadol neu beidio.

Dylech fynychu'r cyfarfod oni bai bod rheswm da iawn gennych i beidio a’ch bod yn gallu darparu tystiolaeth i gadarnhau hynny. Efallai y bydd yn bosibl aildrefnu dyddiad y cyfarfod; cysylltwch â chynghorydd os ydych chi'n teimlo bod rhaid i chi ail-drefnu. Os nad ydych yn mynychu'r cyfarfod, bydd y Panel yn bwrw ymlaen yn eich absenoldeb a gwneir penderfyniad, er gwaetha'r ffaith nad ydych yn gallu esbonio eich amgylchiadau'n llawn.

Gall fod yn bosib i gynghorydd o'r Gwasanaeth Cynghori ddod i'r Panel gyda chi. Rydym felly'n argymell eich bod yn trefnu cwrdd â Chynghorydd gynted y byddwch yn derbyn y llythyr yn eich gwahodd i'r panel. Cofiwch ddod â'r llythyr neu e-bost sy'n eich gwahodd gyda chi, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth a ddarparwyd ar eich cyfer gan y Brifysgol. Os nad oes unrhyw dystiolaeth, gofynnwch i'ch Adran neu Gyfadran amdano.


Beth yw'r gosb?

Os canfyddir eich bod wedi ymgymryd ag YAA, mae yna system gosb sy'n seiliedig ar bwyntiau. Bydd yr e-bost/llythyr a anfonwyd atoch ynghyd â'r honiadau'n cynnwys y raddfa hon, ond er gwybodaeth, mae dolen i'r system gosb sy'n seiliedig ar bwyntiau ar ddiwedd y canllawiau hyn.

Mae'r raddfa hon yn rhoi ystyriaeth i faterion megis eich record yn y gorffennol, maint a difrifoldeb yr YAA a’r lefel rydych chi’n astudio arni. Mae'r gosb a ddyfernir i fyfyrwyr Rhan II ac ôl-raddedigion yn llymach, oherwydd bod disgwyl iddynt fod yn gyfarwydd â'r rheolau erbyn y cam hwn.

O ran effaith, bydd y gosb yn amrywio o orfod ail-sefyll y modiwl yn nes ymlaen am farc na all fod yn uwch na 'pasio', i gael eich atal rhag cael cyfle i ail-sefyll. Mewn rhai achosion gallai hyn effeithio ar eich gallu i symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf (e.e. os ydych chi eisoes wedi methu modiwl a bod y gosb newydd yn mynd â chi’r tu hwnt i'r terfyn a ganiateir).


Beth os ydw i'n anfodlon â chanlyniad Panel Ymddygiad Academaidd Annerbyniol?

Os ydych chi'n anfodlon â chanlyniad y Panel, gallwch gyflwyno apêl academaidd; os ydych chi'n dal i fod yn anfodlon â phenderfyniad yr apêl, gallwch hefyd gyflwyno Adolygiad Terfynol. Mae i'r naill a'r llall sail a phrosesau penodol, a dylech fwrw goleg ar ein canllawiau ar Apeliadau Academaidd am fwy o fanylion.


Beth all Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber ei wneud i helpu?

Mae Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber yn annibynnol o'r Brifysgol, ac mae'n darparu gwasanaeth cyfrinachol a di-duedd, am ddim i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. 

Rydym yn sylweddoli y gall cael eich amau o ymgymryd ag Ymddygiad Annerbyniol beri cryn bryder i chi, felly buasem yn eich annog i gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori cynted â phosib.

Gall y Gwasanaeth Cynghori roi cymorth i chi mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • Esbonio'r broses Ymddygiad Academaidd Annerbyniol (YAA) i chi;
  • Rhoi syniad i chi ynglyn â'r math o gwestiwn mae'r Panel yn debygol o ofyn i chi, yn ogystal â rhoi cyngor i chi ar y ffordd orau o egluro, dadlau neu esbonio eich amgylchiadau;
  • Mynd gyda chi i unrhyw Banel i'ch darparu â chymorth a chynrychiolaeth;
  • Eich cynghori ar unrhyw gosb bosib y gellid ei gosod;
  • Rhoi cymorth i chi gydag unrhyw apêl yn erbyn cosb annheg a osodir.

I drafod pob opsiwn sydd ar gael i chi, gan gynnwys pa gymorth allwch chi ei gael, mae croeso i chi gysylltu â ni isod:

Cysylltu  Chynghorydd


Dolenni defnyddiol


Cynhyrchwyd am y tro cyntaf: Mehefin 2017

Adolygwyd: Awst 2024

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576