Beth yw Amgylchiadau Arbennig?
Os ydych chi'n ei chael yn anodd ymdopi â'ch astudiaethau, gall y broses Amgylchiadau Arbennig fod o gymorth i chi. Diffinnir Amgylchiadau Arbennig fel mater personol difrifol sydd wedi cael effaith negyddol ar eich perfformiad academaidd a'ch presenoldeb yn y Brifysgol. Gallai hyn, er enghraifft, fod yn salwch, argyfwng iechyd meddwl neu profedigaeth.
Mae'n bwysig eich bod yn hysbysu eich Adran ynglyn â'r materion hyn cynted â phosib, fel arfer cyn i chi fethu unrhyw ddosbarthiadau, neu gyflwyno gwaith cwrs neu sefyll arholiadau (neu fethu gwneud hynny). Dylech ar bob cyfrif gysylltu cyn i benderfyniadau pwysig gael eu gwneud yng nghyfarfodydd y Byrddau Arholi ar gyfer pob semester (fel arfer tua diwedd Chwefror a Mehefin bob blwyddyn) neu yn ystod y cyfnod ail-sefyll arholiadau yn Awst/Medi. Os ydych chi'n fyfyriwr ymchwil, mae eich Bwrdd Arholi'n unigol i chi (yr arholiad viva).
Mae angen i chi gwblhau ffurflen sy'n eich darparu â chyfle i amlinellu'r materion penodol rydych chi wedi'u hwynebu yn y semester honno a'r effaith ar eich astudiaethau neu bresenoldeb. Mae'r ffurflen yn gofyn tri chwestiwn allweddol:
- Pam ydych chi'n gofyn am Amgylchiadau Arbennig? e.e. salwch, argyfwng iechyd meddwl neu profedigaeth.
- Pa fodiwl(au) ac asesiad(au) sydd wedi cael eu heffeithio gan yr Amgylchiadau Arbennig? e.e. teitl a math yr asesiad(au) a'r dyddiadau yr effeithiwyd arnynt.
- Sut mae'r Amgylchiad Arbennig a amlinellwyd yn y cwestiwn cyntaf wedi effeithio ar eich perfformiad academaidd?
Mae cyfle hefyd i ychwanegu unrhyw wybodaeth ychwanegol nad yw eisoes wedi'i chynnwys yn y cwestiynau uchod. Fel rheol gofynnir i fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth ategol, yn ddelfrydol llythyrau gan broffesiynwyr neu swyddogion meddygol.
Gallai enghreifftiau o dystiolaeth gynnwys llythyr gan feddyg teulu neu gwnselydd, neu lythyr gan aelod staff (academaidd neu staff cynorthwyol). Mewn rhai achosion, serch hynny, gall fod yn ddefnyddiol darparu datganiad ategol gan riant neu ffrind, sy'n gwneud sylw ar y materion personol a allai fod wedi effeithio ar eich astudiaethau. Mae rheolau pellach ar gyfer cyflwyno tystiolaeth a manylion ynglyn â'r broses, y ffurflen a chysylltiadau o fewn yr adran, i'w gweld yn y dolenni i'r we a ddarperir ar ddiwedd y canllawiau hyn.
Os yw myfyriwr wedi cael cyswllt parhaus ag un o’n Ymgynghorwyr yn ystod cyfnod anodd mae modd inni ddarparu llythyr yn cadarnhau natur ein cyswllt â’r myfyriwr a’r materion a gyflwynwyd. Yn anffodus NID oes modd i ni ddarparu llythyrau i fyfyrwyr heblaw eu bod wedi bod yn defnyddio ein gwasanaethau yn ystod y cyfnod y maent yn hawlio’r amgylchiadau arbennig.
Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn dweud wrth fy Adran ynglyn â fy amgylchiadau arbennig?
Os oes gennych chi broblemau sydd wedi, neu a fydd yn effeithio ar draethodau, gwaith prosiect neu aseiniad, golyga rhoi gwybod i'ch Adran ymlaen llaw ei bod yn bosib y gallant drefnu estyniad byr. Bydd angen i chi gysylltu â'r Swyddog Estyniadau perthnasol yn eich Adran, fydd yn gallu eich helpu i gyflwyno ffurflen a gwneud y cais am estyniad.
Nid yw'r Brifysgol yn derbyn ceisiadau 'ôl-weithredol' am estyniadau, felly mae'n hanfodol bwysig eich bod yn cyflwyno'r ceisiadau hyn o leiaf 3 diwrnod cyn y dyddiad mae rhaid i chi gyflwyno'r gwaith. Mae rheolau pellach ynglyn â'r broses, y ffurflen a chysylltiadau o fewn yr adran, i'w gweld yn y dolenni i'r we sydd ar ddiwedd y canllawiau hyn.
Caiff papurau arholiad a gwaith a asesir eu marcio'n anhysbys, a chaiff marciau terfynol eu cytuno gan Fwrdd Arholwyr (sy'n cynnwys arholwyr allanol). Os ydych chi wedi methu arholiad neu aseiniad oherwydd amgylchiadau arbennig, gall y Bwrdd Arholi ganiatáu cyfle i chi ail-sefyll arholiad gyda'ch marciau llawn yn cael eu dyfarnu yn hytrach na marciau wedi'u capio ar lefel pasio.
Nid yw marciau ar gyfer asesiadau unigol fel arfer yn cael eu newid oherwydd amgylchiadau arbennig; lle mae amgylchiadau myfyrwyr yn eu hatal rhag cwblhau gwaith wedi'i asesu neu sefyll arholiad neu wedi arwain at fethiant, gall Bwrdd yr Adran argymell ail-sefyll yr arholiad (Anrhydedd) heb fod cap ar y radd derfynol.
Lle nad yw perfformiad myfyriwr yn cael ei effeithio'n ddigonol fel ei fod yn methu, gall yr adran, gyda chytundeb y myfyriwr, newid y marc a gofnodwyd i alluogi'r myfyriwr i ail-gymryd y modiwl ac ail-sefyll elfennau o'r asesiad yr effeithiwyd arnynt, gan gario marciau heb eu heffeithio ymlaen.
Mewn amgylchiadau eithriadol lle na fydd yn bosibl ail-sefyll arholiad Anrhydedd yn y dyfodol, gall Bwrdd yr Adran argymell y dylid cymryd marc ar gyfer un elfen o'r asesiad fel marc ar gyfer y modiwl yn ei gyfanrwydd.
Os ydych chi yn eich blwyddyn olaf, a'ch bod o fewn 1-2% i ddosbarth uwch yn eich gradd, a bod y Bwrdd Arholi'n penderfynu bod eich gwaith wedi cael ei effeithio, mae’n bosib y byddant yn ystyried codi dosbarth eich gradd o hyd at 2%. Mae manylion pellach am hyn i'w gweld yn y Confensiynau Arholiad yn y ddolen i'r we a ddarperir ar ddiwedd y canllawiau hyn.
Os ydych chi wedi sylweddoli fod gennych chi anabledd o bosib (megis cyflwr iechyd corfforol neu feddyliol) sydd wedi bod yn effeithio ar eich astudiaethau academaidd, yna gall y Brifysgol roi cymorth i chi fwrw ymlaen â'ch astudiaethau. Gan ddibynnu ar natur eich anghenion, gall hyn gymryd amser, felly gorau po gynted y byddwch yn ceisio cymorth.
Os yw eich amgylchiadau'n ddifrifol ac yn debygol o barhau am amser hir, mae'n bosib y byddwch chi a'ch Adran yn penderfynu y dylech gymryd seibiant o'ch cwrs, dros-dro neu'n barhaol. Os ydych chi'n teimlo y gall hyn fod yn berthnasol, rydym yn argymell eich bod yn gyntaf yn ceisio cyngor gan y Gwasanaeth Cynghori i ddynodi unrhyw oblygiadau (gan gynnwys rhai ariannol) y naill ffordd neu'r llall.
Beth os nad ydw i'n dweud wrth fy Adran ynglyn â fy amgylchiadau arbennig?
Os nad ydych chi'n dweud wrth eich Adran ynglyn ag unrhyw amgylchiadau arbennig (neu anabledd), yna ni allant roi ystyriaeth i'r rhain er mwyn deall yn well sut gallai hyn fod wedi effeithio ar eich gwaith. Felly, os ydych chi'n gohirio dweud wrth eich Adran ynglyn ag unrhyw broblemau, bydd yn anoddach iddyn nhw weithredu i'ch helpu chi.
Ynghyd â hyn, os ydych chi'n methu darlithoedd, yn parhau i gyflwyno gwaith yn hwyr neu'n methu modiwlau, gall eich Adran benderfynu eich cyfeirio at y rheoliadau Cynnydd Academaidd. Mae'r rhain yn weithdrefnau a ddefnyddir gan y Brifysgol pan ystyrir nad yw myfyrwyr yn ymroi'n effeithiol â'u hastudiaethau heb unrhyw esboniad rhesymol. Yn y pen draw, gallai hyn arwain at gael eich diarddel. Gweler ein canllawiau ar Gynnydd Academaidd am fwy o wybodaeth.
Fel arfer, gellir osgoi gweithredu ffurfiol os ydych chi'n hysbysu eich Adran ynglyn ag unrhyw broblemau gynted maen nhw'n ymddangos. Rydym yn cydnabod y gall rhannu amgylchiadau a allai fod yn effeithio ar eich astudiaethau fod yn brofiad brawychus. Serch hynny, mae Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber yma i'ch helpu chi, felly buasem yn eich annog i ganfod cyngor os ydych chi'n ansicr a yw eich amgylchiadau'n berthnasol.
Beth os ydw i'n cael problemau yn ystod arholiad?
Os ydych chi'n cyrraedd arholiad yn hwyr neu'n ei fethu’n gyfangwbl, rhaid i chi esbonio'r rheswm mewn ysgrifen (fel arfer drwy gwblhau ffurflen amgylchiadau arbennig) ynghyd â chyflwyno tystiolaeth ategol, gynted â phosib i Swyddog Arholiadau eich Adran. Os ydych yn mynd yn sâl yn ystod arholiad, rhaid i chi roi gwybod i'r Goruchwyliwr. Mae'n dal i fod yn bosib y cewch chi sefyll yr arholiad mewn ystafell arall, neu ar amser arall, fel arfer yn ystod y cyfnod ail-sefyll arholiadau yn Awst.
Os ydych chi'n credu bod eich perfformiad mewn arholiad wedi cael ei effeithio gan Amgylchiadau Arbennig, rhaid i chi esbonio hyn, mewn ysgrifen (drwy gwblhau ffurflen amgylchiadau arbennig) ynghyd â thystiolaeth ategol i Swyddog Arholiadau'r Adran yn syth ar ôl yr arholiad. Os nad ydych chi'n darparu hyn cyn i'r Bwrdd Arholi gwrdd, ni ellir ei ystyried wrth benderfynu ar eich marciau terfynol.
Beth all Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber ei wneud i helpu?
Mae Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber yn annibynnol o'r Brifysgol, ac mae'n darparu gwasanaeth cyfrinachol a di-duedd, am ddim i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
Gall y Gwasanaeth Cynghori roi cymorth i chi mewn sawl ffordd, gan gynnwys:
- Trafod eich amgylchiadau'n gyfrinachol, wyneb-yn-wyneb, dros y ffôn neu drwy e-bost.
- Adolygu unrhyw ddatganiadau drafft rydych yn eu paratoi a chynnig awgrymiadau.
- Mynd gyda chi i unrhyw gyfarfodydd i'ch darparu â chymorth a chynrychiolaeth.
- Eich helpu i gasglu tystiolaeth briodol ynghyd fel sail i'ch achos.
I wneud apwyntiad i drafod pob opsiwn sydd ar gael i chi, gan gynnwys pa gymorth allwch chi ei gael, mae croeso i chi gysylltu â ni isod:
Cysylltu  Chynghorydd
Dolenni defnyddiol
Cynhyrchwyd am y tro cyntaf: Mehefin 2017
Adolygwyd: Awst 2024