Symud Allan

Symud Allan

Gall paratoi i adael llety myfyrwyr fod yn frawychus ar y gorau. Mae'r canllaw hwn yn seiliedig ar rai o'r ymholiadau mwyaf cyffredin yr ydym yn rhoi cyngor arnynt bob blwyddyn, a bydd yn helpu i atal problemau rhag digwydd, ac os yw problemau’n codi, eich galluogi i ymdopi â nhw.

Ar ddiwedd eich tenantiaeth, cofiwch gymryd darlleniadau terfynol pob mesurydd a hysbysu'r cwmnïau cyfleustodau o'ch cyfeiriad newydd ar gyfer anfon eich bil terfynol. Mae rhai cytundebau tenantiaeth yn datgan bod angen talu pob bil yn llawn cyn i'r blaendal gael ei ddychwelyd.

Fe'ch cynghorir i wirio cyflwr yr eiddo a phob eitem ar y rhestr ym mhresenoldeb y landlord neu'r asiant er mwyn osgoi unrhyw anghydfod ynglyn â difrod. Os ydych chi'n pryderu y bydd anghydfod yn codi, mae'n ddoeth tynnu lluniau o'r eiddo (y tu mewn a'r tu allan) pan fyddwch chi'n gadael.


Anghydfod ynglyn â Blaendal

Os byddwch chi'n gadael yr eiddo mewn cyflwr da, bydd eich blaendal fel arfer yn cael ei ddychwelyd o fewn ychydig wythnosau. Fodd bynnag, os yw'ch landlord neu asiant yn penderfynu dal eich blaendal yn ôl, yn rhannol neu'r swm i gyd, ac os ydych chi'n anghytuno â hyn, dylech gysylltu â'r cynllun amddiffyn blaendal sy’n ei ddiogelu. Mae gan rai cynlluniau derfynau amser llym ar gyfer cofrestru anghydfod, neu efallai y byddwch yn colli amddiffyniad dan y cynllun. Dyma ble mae tystiolaeth fel lluniau, rhestrau o eitemau a chopïau o'r cytundeb tenantiaeth yn hollbwysig.

Rhaid i landlord neu asiant ddangos yr hyn y mae wedi'i gostio i adfer yr eiddo i'r safon wreiddiol. Rhaid i'r symiau fod yn rhesymol a rhaid iddynt ddangos anfonebau a / neu dderbynebau. Ni allant godi tâl am draul deg yn ystod y denantiaeth, sef dibrisiad naturiol eitemau a all fod angen prynu rhai yn eu lle ar ôl cyfnod penodol o amser. Dyma rai o’r pethau maen nhw’n codi tâl amdanynt:

  • Y gost o gael gwared ar sbwriel o'r tu mewn neu'r tu allan i'r eiddo.
  • Unrhyw rent sy’n ddyledus, ôl-ddyledion neu filiau cyfleustodau, gan gynnwys sefyllfa cyd-denantiaeth.
  • Cost torri allweddi newydd os na chawsant i gyd eu dychwelyd.
  • Costau ailaddurno, er enghraifft, os yw ystafell wedi'i phaentio heb ganiatâd.
  • Cost glanhau'r eiddo iddo fod mewn cyflwr sy'n barod i'w osod.
  • Atgyweirio difrod i gyfarpar ac eitemau megis dodrefn / carpedi.
  • Atgyweirio difrod i'r eiddo fel drysau / ffenestri wedi'u torri.
  • Gall y landlord neu'r asiant godi tâl ychwanegol os oes cymalau penodol yn eich cytundeb fel taliadau gweinyddol ar gyfer rhent hwyr.

Isod mae rhai awgrymiadau i helpu sicrhau bod eich blaendal yn cael ei ddychwelyd yn llawn:

  • Rhowch y dodrefn yn ôl yn ei safle gwreiddiol.
  • Ewch â’ch holl eitemau personol gyda chi (mae’n bosib y bydd angen i chi dalu costau os ydych yn gadael hyn i’r landlord).
  • Gwiriwch y waliau am ddifrod a gwnewch unrhyw waith trwsio angenrheidiol.
  • Gwiriwch y dodrefn, unrhyw gyfarpar, sinciau a thoiledau am ddifrod.
  • Glanhewch yr eiddo’n drylwyr â hoover, gan gael gwared ar unrhyw lwch (cofiwch y rhewgell / oergell a'r ffwrn).
  • Gwiriwch eich cytundeb tenantiaeth i weld os oes angen glanhau carpedi a llenni.
  • Sicrhewch fod offer trydan a nwy wedi eu diffodd, a bod y ffenestri a’r drysau wedi eu cau a’u cloi.
  • Ailgyfeiriwch unrhyw bost i’ch cyfeiriad newydd.
  • Gwiriwch eich cytundeb tenantiaeth i sicrhau eich bod wedi gwneud popeth sydd ei angen cyn i chi adael.
  • Yn olaf, ar ôl i chi ddychwelyd yr allweddi, gofynnwch i'ch landlord / asiant lofnodi i ddweud eu bod wedi eu derbyn.

Gadael yn Gynnar

Mae'r rhan fwyaf o denantiaethau am gyfnod penodol o amser, sy'n golygu eich bod yn atebol am y rhent gydol y cytundeb tenantiaeth, hyd yn oed os penderfynwch nad ydych chi'n hoffi'r lle rydych chi'n byw, y bobl rydych chi'n byw gyda nhw, neu os ydych am symud allan am resymau eraill.

Gallwch chi adael y llety, ond yn aml bydd angen i chi dalu'r rhent tan ddiwedd eich cytundeb tenantiaeth, oni bai bod yna gymal sy'n caniatáu i chi adael yn gynnar. Fel arfer bydd angen i chi ofyn am ganiatâd gan y landlord, yr asiant ac mewn rhai achosion tenantiaid eraill. Yn aml, nid yw hyn ond yn bosib pan fyddwch chi wedi dod o hyd i denant addas yn eich llle. Gall hyn fod yn anodd os ydych chi'n gyd-denant, oherwydd bod yn rhaid i'r tenant newydd fod yn dderbyniol i'ch cyd-letywyr ac i'r landlord.

Dylid ychwanegu’r tenant newydd at y contract. Dylech ofyn i'ch landlord neu eich asiant i gadarnhau yn ysgrifenedig eu bod wedi cytuno i'ch rhyddhau o'r cytundeb tenantiaeth a bod eich blaendal yn cael ei ddychwelyd. Os ydych chi'n ystyried gadael cyn diwedd y denantiaeth, cysylltwch â nhw i drafod eich opsiynau.


Beth all Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber ei wneud i helpu?

Mae Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber yn cynnig cyngor a gwybodaeth sy’n gyfrinachol a diduedd, am ddim, i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Gall y Gwasanaeth Cynghori roi cymorth i chi mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • Esbonio hawliau a chyfrifoldebau landlordiaid, asiantau gosod a thenantiaid.
  • Adolygu a chynghori ar gytundebau tenantiaeth, cyn ac ar ôl arwyddo.
  • Cynnig cefnogaeth i chi os bydd anghydfod, gan gysylltu â'r landlord neu asiant gosod.
  • Eich helpu i gasglu tystiolaeth briodol ynghyd, pan fo angen, fel sail i'ch achos.

Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar e-bost a thros y ffôn. Hefyd, rydyn ni’n cynnal gweithgareddau a digwyddiadau eraill i ddatblygu ymwybyddiaeth o hawliau a chyfrifoldebau myfyrwyr er mwyn sicrhau eich bod chi mor hapus ac iach â phosib yn ystod eich cyfnod yn Aberystwyth.

Cysylltu  Chynghorydd


Dolenni defnyddiol


Cynhyrchwyd gyntaf: Medi 2018

Adolygwyd: Awst 2024

Ymwadiad: Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth yn y canllaw hwn yn gywir. Ni ellir dal Undeb Aber yn gyfrifol am ganlyniadau unrhyw beth a wneir o ganlyniad i ddarllen y canllaw hwn. Cyn cymryd unrhyw gamau, awgrymwn eich bod yn ymweld â'r Gwasanaeth Cynghori.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576