Bob blwyddyn, mae Undeb Aber yn cynnal Ffair Llety a Thai sy’n rhoi cyfle i chi gael cyngor gan wahanol fudiadau o fewn y sector tai yma yn Aberystwyth. Yn y Ffair Llety a Thai, gallwch chi:
Sgwrsio ag asiantau tai sydd â channoedd o dai a fflatiau ar gael | Sgwrsio â swyddfa Llety’r Brifysgol ynghylch opsiynau ar y campws | Cymharu neuaddau’r Brifysgol â thai yn y sector preifat | Cael cyngor ariannol, ynghylch contractau a thai yn gyffredinol | Sgwrsio â Chanolfan Gynghori'r Undeb Aber i ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych chi
Mae’r Ffair Dai Undeb Aber yn gyfle anhygoel i chi ddechrau siarad gyda landlordiaid ac asiantaethau gosod yn yr ardal a chael cyngor ar yr hyn i edrych amdano wrth fynd ymweld â thai.
Dyma restr o’r rhai sy’n mynychodd y ffair blwyddyn diwethaf. Mae'r ffair yn digwydd r yr dydd Iau 7 Rhagfyr 2023.
Rydyn ni’n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ar bob agwedd ar dai a llety, yn y Brifysgol a’r sector preifat. Gallwch eich cynghori ar bethau fel chwilio am le newydd i fyw ac adolygu cytundebau cyn i chi eu harwyddo, yn ogystal â phroblemau cyffredin sy’n gallu dod i’r amlwg yn ystod tenantiaeth ac wrth symud allan.
Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.umaber.co.uk/cyngor/taiallety/
Beth am fwrw golwg ar Ganllaw Tai Undeb Aber, sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu chi benderfynu beth sydd angen i chi chwilio amdano wrth chwilio am dy neu fflat. Hefyd beth sydd angen i chi wybod cyn arwyddo a sut i gael y fargen orau o’ch cartref.
Beth am fwrw golwg ar Ganllaw Tai Undeb Aber, sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu chi benderfynu beth sydd angen i chi chwilio amdano wrth chwilio am dy neu fflat. Hefyd beth sydd angen i chi wybod cyn arwyddo a sut i gael y fargen orau o’ch cartref.
Mae’n cynnwys gwybodaeth ar bethau fel mynd i weld tai a fflatiau a chontractau, felly mae’n werth ei ddarllen!
CLICIWCH YMA! >>>>>>>>>>>>>>
|
|