Anghydfod â’r Landlord neu Asiant
Mae byw mewn llety myfyrwyr i lawer yn un o'r profiadau gwych sy’n perthyn i fynd i'r Brifysgol. Fodd bynnag, weithiau mae problemau annisgwyl yn codi, waeth pa mor galed y byddwch chi'n cynllunio ymlaen llaw neu’n ceisio eu hatal. Mae'r canllaw hwn yn seiliedig ar rai o'r ymholiadau mwy cyffredin yr ydym yn rhoi cyngor arnyn nhw bob blwyddyn ynglyn ag anghydfod a pherthynas yn torri i lawr, boed hynny rhwng landlord a thenant neu ymysg cyd-letywyr.
Cyfrifoldebau Tenantiaid
Un o'r rhesymau mwyaf cyffredin dros anghydfod rhwng landlord a thenant yw materion sy'n ymwneud â thrwsio pethau. Er mwyn atal yr eiddo rhag adfeilio, rydym yn argymell eich bod bob amser yn ymddwyn fel tenant cyfrifol, sy'n cynnwys:
- Hysbysu'r asiant neu landlord ynglyn ag unrhyw adfeiliad neu rywbeth sydd wedi torri, mewn ysgrifen, heb oedi. Dylech fod yn ymwybodol y gellir codi tâl ychwanegol arnoch chi mewn achosion lle nad ydych wedi hysbysu'r perchennog ynglyn ag unrhyw adfeiliad.
- Dylech gymryd pob camau rhesymol i sicrhau nad ydych chi na'ch gwesteion yn peri unrhyw ddifrod i'r eiddo.
- Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud mân dasgau o ddydd i ddydd, megis newid bwlb golau neu ddad-flocio'r sinc.
- Cadwch yr eiddo'n lân ac yn daclus, gan gynnwys y ffwrn, y rhewgell a'r oergell, y toiled a'r gawod/bath.
- Mae'n bwysig gwarchod yr eiddo pan fydd neb ynddo.
- Yn ystod y gaeaf, gwnewch yn sicr bod yr eiddo wedi'i wresogi'n ddigonol er mwyn atal y pibelli rhag rhewi.
- Cadwch yr ardd a'r ardal o amgylch y biniau'r lân ac yn daclus. Dylai pob sbwriel gael ei osod mewn bagiau a'i roi yn y biniau a ddarperir.
Gweler ein canllaw Biliau, Diogelwch a Thrwsio neu cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.
Cynlluniau Iawndal Asiantau Gosod Eiddo
Mae'n rhaid i asiantaethau gosod fod yn perthyn i un o ddau gynllun iawndal (Yr Ombwdsman Eiddo a'r Cynllun Iawndal Eiddo), sy'n darparu gwasanaeth annibynnol di-dâl ar gyfer datrys anghydfod rhyngoch chi ac asiant gosod. Mae gan y cynllun iawndal y pwer i orchymyn asiantau gosod eiddo i adfer y sefyllfa a / neu dalu iawndal os yw'n credu bod hynny’n briodol yn dilyn cwyn.
Gallwch chi gwyno wrth gynllun iawndal asiantau gosod eiddo ynglyn â materion megis methu â hysbysebu ffioedd yn glir, disgrifiadau anghywir o eiddo, anghydfod ynghylch ffioedd cadw eiddo, methu trosglwyddo rhent i'r landlord neu wasanaeth gwael cyffredinol. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi’n gyntaf roi cyfle i'r asiantaeth osod ddelio â'ch cwyn. Os yw hyn yn rhywbeth rydych chi'n ei ystyried, cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.
Mynediad i’r Eiddo
Mae gan bob tenant yr hawl i'r hyn y mae'r gyfraith yn ei alw’n "fwynhad tawel" sy'n golygu bod gennych hawl i fyw yn yr eiddo fel eich cartref. Mae'r gyfraith yn awgrymu y dylai tenantiaid allu defnyddio'r eiddo heb ymyrraeth gan eich landlord neu asiant.
Dylai'r landlord neu'r asiant ofyn am ganiatâd cyn iddynt fynd i mewn i'r adeilad, a dylent roi rhybudd ysgrifenedig o leiaf 24 awr cyn cynnal unrhyw archwiliad, gwneud gwaith trwsio neu i ddangos darpar denantiaid o amgylch y lle, os yw eich contract yn caniatáu i bobl ddod i weld yr eiddo yn ystod y contract. Dylai hyn hefyd fod ar adegau sy’n gyfleus i chi.
Manylion Cysylltu â’r Landlord
Mae gan rai landlordiaid asiant rheoli i ymdrin ag ymholiadau ac unrhyw waith trwsio yn eu heiddo. Fodd bynnag, mae'r contract gyda'r landlord, sydd ag oblygiadau a chyfrifoldebau cyfreithiol. Mae'r oblygiadau a'r cyfrifoldebau hyn yn ofyniad ar gyfer cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru.
Gellir gweld y Cod Ymarfer yn ei gyfanrwydd drwy'r ddolen ganlynol:
https://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/home/
Os nad oes gennych chi gysylltiad uniongyrchol â'ch landlord, gall fod yn ddefnyddiol bod â’u manylion llawn. Gallwch ddarganfod enw a chyfeiriad y landlord drwy wneud cais ysgrifenedig i'r person neu'r asiant a gasglodd y rhent ddiwethaf, gan bwysleisio eich hawl i'r wybodaeth hon o dan Adran 1 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985. Dylech gadw copi o’r e-bost neu'r llythyr, a'i anfon drwy ddanfoniad cofnodedig. Mae'r gyfraith yn dweud y dylid darparu'r wybodaeth o fewn 21 diwrnod i'r cais, neu fel arall cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.
Aflonyddu
Gellid dehongli ymddygiad megis y landlord yn ymweld â'r llety’n ddirybudd, neu mor aml ac ar adegau mor anghyfleus, nes bod y tenantiaid bellach ddim yn teimlo'n ddiogel yn eu cartref eu hunain, fel ffurf o aflonyddu. Mae mathau eraill o aflonyddu yn cynnwys ymyrryd â gwasanaethau megis nwy, trydan neu ddwr yn ogystal ag ymddygiad bygythiol neu gam-drin. Mae aflonyddu yn drosedd ac yn groes i hawliau'r tenant o dan gytundeb tenantiaeth, ond cyn gwneud honiadau mae'n bwysig sicrhau nad oes esboniad diniwed, felly cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.
Ôl-ddyledion Rhent
Gelwir eich Rhent yn ddyled ag iddi flaenoriaeth uchel; er hynny, os na fyddwch chi'n cadw’n gyfoes â thaliadau, efallai y bydd eich landlord yn cymryd camau i'ch troi chi allan. Fel arfer bydd y broses hon yn dechrau gyda'ch landlord yn anfon llythyrau atoch yn eich atgoffa am y rhent hwyr, ac efallai y byddant yn codi tâl arnoch am y llythyrau hyn. Efallai y codir tâl hefyd am dalu eich rhent yn hwyr. Os ydych chi'n denant a'ch bod ar ei hôl hi â’r rhent gall eich landlord ddechrau achos meddiannu yn eich erbyn.
Dadfeddiant
Os yw'ch landlord yn honni eich bod wedi torri eich cytundeb tenantiaeth ac yn gofyn i chi adael, cysylltwch â ni ar unwaith i drafod y sefyllfa. Rhaid i bob landlord ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol arbennig er mwyn troi allan tenantiaid (hyd yn oed os yw cyfnod penodol y denantiaeth wedi dod i ben). Mae'r broses yn dibynnu ar y math o denantiaeth sydd gennych a ffactorau eraill, felly cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau gynted â phosib.
Anghydfod rhwng Cyd-letywyr a Chymdogion
Gall byw mewn ty neu fflat wedi'i rannu fod yn anodd weithiau, ac mae'n bosib i dipyn o anghytuno droi’n ddadlau ffyrnig. Yn aml, mae modd datrys hyn drwy siarad â'r person arall yn anffurfiol, â’r nod o ddatrys y mater. Os na ellir datrys yr anghydfod, cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.
Mae'n anorfod os ydych chi'n byw gyda phobl eraill, y gall fod gwrthdaro personoliaeth o bryd i’w gilydd. Mae’n bwysig cyfaddawdu, ystyried barn y person arall a bod yn barod i'w cwrdd nhw hanner ffordd. Fodd bynnag, os yw ymddygiad ar unrhyw adeg yn fygythiol neu'n ymosodol, cysylltwch â'ch landlord neu asiant, neu os nad ydych chi'n teimlo'n ddiogel, gallwch gysylltu â'r heddlu gan ddefnyddio 101 neu mewn argyfwng 999.
Os nad ydych am fyw yn yr eiddo mwyach a’ch bod yn penderfynu symud allan, mae'n bwysig sylweddoli bod y rhan fwyaf o denantiaethau am gyfnod penodol. Gweler ein canllaw ar Symud Allan neu cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.
Swn
Mae’n gyffredin i denantiaid a thrigolion eraill yr ardal wneud cwyn am gymdogion swnllyd. Mae swn digroeso bob amser yn peri rhwystredigaeth, yn enwedig pan fyddwch wrthi’n adolygu ar y funud olaf. Os oes gennych chi broblem gyda chymdogion swnllyd, ceisiwch ddatrys y mater yn anffurfiol.
Os yw'n broblem barhaus, mae'n bwysig cadw cofnod manwl o'r holl ddigwyddiadau gan gynnwys amseroedd, dyddiadau yn ogystal â hyd y digwyddiadau hyn, yn enwedig os ydynt yn digwydd dro ar ôl tro, fel y gallwch chi wneud cwyn i'ch landlord, asiant neu, os yw'n allanol i’ch eiddo, Cyngor Ceredigion ar 01970 625277.
Am ragor o wybodaeth am ymdrin â chwynion swn, cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau neu ewch i:
https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/tai/gwybodaeth-i-denantiaid/amodau-tai/problemau-cyffredin/swn/
Casgliadau Sbwriel ac Ailgylchu
Cofiwch roi'r sbwriel allan ar y diwrnod cywir! Mae sbwriel yn hynod o ddeniadol i lygod a gwylanod ac mae'n fater sy’n codi’n aml mewn anghydfod rhwng cymdogion. Gellir casglu bagiau ailgylchu a gwastraff bwyd o Ganolfannau Croeso, Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid neu Lyfrgelloedd y Cyngor.
Am ragor o wybodaeth am gasglu sbwriel ac ailgylchu, ewch i:
http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/biniau-ac-ailgylchu/
Beth all Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber ei wneud i helpu?
Mae Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber yn cynnig cyngor a gwybodaeth am ddim, yn gyfrinachol ac yn ddiduedd, i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
Gall y Gwasanaeth Cynghori roi cymorth i chi mewn sawl ffordd, gan gynnwys:
- Esbonio hawliau a chyfrifoldebau landlordiaid, asiantau gosod a thenantiaid.
- Adolygu a chynghori ar gytundebau tenantiaeth, cyn ac ar ôl arwyddo.
- Cynnig cymorth os bydd anghydfod, gan gysylltu â'r landlord neu asiant gosod.
- Eich helpu i gasglu tystiolaeth briodol ynghyd, pan fo angen, fel sail i'ch achos.
Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar e-bost a thros y ffôn. Rydyn ni hefyd yn cynnal gweithgareddau a digwyddiadau eraill i ddatblygu ymwybyddiaeth o hawliau a chyfrifoldebau myfyrwyr er mwyn sicrhau eich bod chi mor hapus ac iach â phosib yn ystod eich cyfnod yn Aberystwyth.
Cysylltu  Chynghorydd
Dolenni defnyddiol
Cynhyrchwyd gyntaf: Medi 2018
Adolygwyd: Awst 2024
Ymwadiad: Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y canllaw hwn yn gywir. Ni ellir dal Undeb Aber yn gyfrifol am ganlyniadau unrhyw beth a wneir o ganlyniad i ddarllen y canllaw hwn. Cyn cymryd unrhyw gamau, fe'ch cynghorir i ymweld â'r Gwasanaeth Cynghori.