Anhwylderau Bwyta

Bydd pobl yn sôn am fod yn fyfyriwr yn aml fel petai’n brofiad syml a rennir sydd bron yn union yr un fath i bawb, er bod pethau’n llawer mwy cymhleth mewn gwirionedd. Gall profiad prifysgol fod yn brofiad llethol sy’n peri straen i lawer, gyda heriau newydd yn codi’n gyson, sy’n golygu ei bod yn bwysicach fyth ceisio cymorth pan fydd problemau’n codi.

I’r rhai sydd ag anhwylder bwyta, neu a allai fod yn agored i ddatblygu anhwylder o’r fath, gall fod yn amser arbennig o anodd. Er y gall unrhyw un, gan gynnwys bechgyn a dynion, ddatblygu anhwylder bwyta ar unrhyw oedran, mae’r risg yn arbennig o uchel i ferched a menywod ifanc rhwng 12 ac 20 oed.

Nid y person sy’n profi’r anhwylder bwyta sydd ar fai byth, ac mae unrhyw un sydd ag anhwylder bwyta yn haeddu cael cymorth tosturiol yn gyflym er mwyn eu helpu i wella.


Beth yw anhwylderau bwyta?

Anhwylder bwyta yw cyflwr pan fydd ymddygiad bwyta rhywun yn mynd yn afreolaidd er mwyn ymdopi â theimladau neu sefyllfaoedd anodd. Mae’n bwysig cofio nad yw anhwylderau bwyta’n ymwneud â bwyd yn unig; maent yn ymwneud hefyd â theimladau fel gallu ymdopi’n well neu deimlo rheolaeth, er ei bod yn bosib nad yw pobl yn ymwybodol o’r rheswm dros yr ymddygiad.

Gallai’r ymddygiadau gynnwys cyfyngu ar faint o fwyd y byddant yn ei fwyta, bwyta llawer iawn o fwyd ar yr un pryd, cael gwared ar fwyd wedi’i fwyta trwy ddulliau nad ydynt yn iach (e.e. gwneud i’w hunain gyfogi, camddefnyddio moddion gweithio, ymprydio neu wneud gormod o ymarfer corff) neu gyfuniad o’r rhain i gyd.


Pa fath o anhwylderau bwyta sydd yna?

Mae nifer o anhwylderau bwyta y gall rhywun gael diagnosis ohonynt, ond mae’n bosib i unigolion symud o un diagnosis i un arall os bydd ei symptomau’n newid ac yn aml, mae llawer o orgyffwrdd rhwng gwahanol anhwylderau. Yn eu plith, mae:

 

Anorecsia Nerfosa

Mae Anorecsia Nerfosa yn gyflwr sy’n tueddu i ddatblygu o orbryder ynglyn â phwysau a siâp y corff. Yn aml, bydd y ffordd y bydd pobl yn gweld eu hunain neu eu canfyddiad ynghylch y ffordd y mae pobl eraill yn eu gweld nhw wedi’i ystumio, a bydd rhai yn datblygu rheolau ynglyn â’r hyn y gallant ei fwyta, yn ogystal â sut a phryd.

 

Bwlimia Nerfosa

Mae Bwlimia Nerfosa yn gyflwr sy’n tueddu i ddatblygu o awydd i reoli pwysau trwy roi cyfyngiadau llym ar faint o fwyd y bydd rhywun yn ei fwyta. Yn aml, byddant yn gaeth i gylch o fwyta mwy (gorfwyta mewn pyliau) a gwneud iawn am hynny wedyn trwy chwydu, cymryd moddion gweithio neu ddiwretig, ymprydio, neu orwneud ymarfer corff.

 

Anhwylder Bwyta mewn Pyliau (BED)

Bydd rhywun sydd ag anhwylder bwyta mewn pyliau yn bwyta swmp anarferol o fawr o fwyd dros gyfnod byr a hynny’n aml pan na fydd chwant bwyd arnynt. Yn wahanol i’r rhai sydd â bwlimia, fyddan nhw ddim yn cael gwared ar y bwyd wedyn, ond mae’n bosib y byddant yn ymprydio rhwng pyliau.

 

Anhwylder bwydo neu fwyta penodol arall (OSFED)

Gydag OSFED, ceir symptomau nad ydynt yn cyfateb yn gyfangwbl i anorecsia, bwlimia nac anhwylder bwyta mewn pyliau, er y gall gynnwys symptomau o bob un ohonynt. Yn aml, mae’n derm ambarél ar gyfer nifer o symptomau gwahanol sy’n amrywio o ran eu hamledd neu am ba hyd y maent yn parhau.

 

Anhwylder osgoi / cyfyngu ar fwyd (ARFID)

Nodweddion arferol cyflwr ARFID yw bod rhywun yn osgoi rhai bwydydd neu fathau penodol o fwyd, yn cyfyngu ar faint fyddant yn ei fwyta fel cyfanswm, neu gyfuniad o’r ddau am nifer o resymau gwahanol. Fel arfer, bydd yr ymddygiad hwn yn digwydd i’r graddau ei fod yn cael effaith negyddol ar les corfforol neu feddyliol yr unigolyn.


Ceisio cymorth

Os ydych chi’n dioddef o anhwylder bwyta neu’n poeni y gall fod anhwylder bwyta arnoch chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod, mae yna nifer o wasanaethau y gallwch gysylltu â nhw i gael cymorth. Yn y lle cyntaf, efallai y byddwch eisiau trafod y peth gyda’ch meddyg teulu. Byddant yn asesu eich iechyd corfforol a meddyliol ac yn gallu argymell a’ch cyfeirio at wasanaethau arbenigol os bydd angen.

 

BEAT (www.beateatingdisorders.org.uk) yw elusen anhwylderau bwyta y Deyrnas Unedig ac mae’n darparu cymorth amrywiol i rhai sydd ag anhwylder bwyta, neu sy’n poeni y gall fod ganddynt un neu y mae anhwylderau bwyta yn effeithio arnynt. Mae eu gwefan yn cynnwys adnoddau a gwybodaeth amrywiol gan gynnwys ystafell sgwrsio a negesfwrdd.

Mae ganddynt nifer o linellau cymorth, yn cynnwys un sy’n benodol ar gyfer myfyrwyr ar 0808 801 0811 yn ogystal â sgyrsiau gwe un-i-un ar-lein. Maen nhw ar gael 365 diwrnod y flwyddyn o 9am-8pm yn ystod yr wythnos a 4pm-8pm ar benwythnosau a gwyliau banc. Dyma rai o’r gwasanaethau cymorth eraill:

  • Anorexia and Bulimia Care (www.anorexiabulimiacare.org.uk) – llinell gymorth a gwasanaeth cefnogi drwy e-bost sy’n darparu cyngor ymarferol i unrhyw un y mae anhwylderau bwyta yn effeithio arnynt.
  • National Centre for Eating Disorders (www.eating-disorders.org.uk) – corff annibynnol sy’n darparu cwnsela, hyfforddiant proffesiynol a gwybodaeth ynglyn ag anhwylderau bwyta.

Cefnogi rhywun sydd ag anhwylder bwyta

Yn aml, siarad â rhywun ydy’r cam cyntaf i’w gymryd pan fyddwch chi’n gwybod eu bod yn mynd trwy amser anodd, er bod llawer yn ansicr ynglyn â sut i fynd ati i gynnal y sgyrsiau hyn. Mae’n bwysig ceisio osgoi gorfeddwl am sgyrsiau a dim ond trwy siarad â rhywun am anhwylder bwyta y gallwch chi ddod i wybod beth sy’n eu poeni a beth allwch chi ei wneud i helpu.

Rhoddir saith o gynghorion isod ar gyfer cefnogi rhywun sydd ag anhwylder bwyta:

  • Cynigiwch gysur – Efallai na fyddant eisiau siarad am eu teimladau, ond gwybod bod rhywun yn eu cefnogi ydy’r help gorau sydd i’w gael.
  • Ceisiwch beidio â chael eich pechu gan sylwadau nad ydynt yn eu meddwl o ddifrif – efallai y byddant yn gosod pellter rhyngoch neu ddim yn gwneud unrhyw ymdrech; ceisiwch fod yn amyneddgar gyda nhw.
  • Deallwch ei bod yn bosib y byddant yn dweud celwydd am yr hyn maen nhw wedi’i fwyta neu heb ei fwyta – Dilyn rheolau eu hanhwylder bwyta y maen nhw ac mae dweud celwydd yn gallu bod y peth hawsaf i’w wneud.
  • Peidiwch â’u bygwth i’w cael i fwyta – Mae gwneud hynny’n gallu gwthio’r dioddefwyr i ffwrdd a’u gadael â theimlad eu bod wedi’u hynysu; yn aml, bod eisiau gwella ydy’r cam cyntaf tuag at oresgyn anhwylder bwyta.
  • Parhewch i gysylltu â nhw – Daliwch ati i’w gwahodd allan a chynnig cymdeithasu, hyd yn oed os bydd ffrind yn gweld cymdeithasu’n anodd, yn enwedig os oes bwyd yn rhan o’r peth.
  • Peidiwch â’u trin yn wahanol – Cofiwch nad yr anhwylder bwyta sy’n eu diffinio; yr un person sydd yno a byddant yn sylweddoli bod amryw o bethau mewn bywyd sy’n werth eu mwynhau.
  • Gosodwch esiampl dda – Ceisiwch beidio â siarad am bwysau/calorïau/bwyd neu ymarfer corff; bydd dioddefwyr yn aml yn cymharu eu hunain â phobl eraill a gallant deimlo euogrwydd ar sail sgyrsiau o’r fath.

Beth all Gwasanaeth Cynghor Unbed Aber ei wneud i helpu?

Mae Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber yn annibynnol ar y Brifysgol ac mae’n darparu gwasanaeth cyfrinachol, diduedd, am ddim i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. 

Gall y Gwasanaeth Cynghori eich cynorthwyo mewn nifer o ffyrdd gwahanol, gan gynnwys:

  • Darparu cyngor diduedd ar gyfer eich amgylchiadau.
  • Cyngor ynglyn â sut i ymateb i honiadau a pharatoi ar gyfer unrhyw gyfarfodydd.
  • Mynd gyda chi ble bo hynny’n briodol i unrhyw gyfarfodydd i roi cymorth ac i’ch cynrychioli.
  • Helpu i’ch cyfeirio at wasanaethau cymorth eraill.

Cysylltu  Chynghorydd


Dolenni defnyddiol


Cynhyrchwyd gyntaf: Rhagfyr 2020

Adolygwyd: Awst 2024

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576