Yn aml gall cyfnodau arholiadau ac asesu fod yn gyfnod prysur iawn i lawer o fyfyrwyr gyda amser arholiadau ac therfynau asesu yn rysáit ar gyfer gorlwytho posibl.
Eleni mae Undeb Aber yn gweithio gyda myfyrwyr a rhai sefydliadau allanol i ddarparu digwyddiadau a gweithgareddau i'ch cefnogi yn ystod cyfnodau arholiadau ac asesu.
Rydym hefyd am sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch yn ystod y cyfnod, felly peidiwch â bod ofn edrych ar y wybodaeth ar ddiwedd y dudalen hon i gael gwasanaethau cymorth ac awgrymiadau defnyddiol.
Mae’r tabl isod yn dwyn sylw at amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau.
Galw Heibio Cyngor Academaidd |
Dydd Mercher 8fed
a
Dydd Llun 15fed
10-12 & 1-3 |
Gallwch hefyd gysylltu â'n cynghorydd i drefnu apwyntiad. |
https://www.umaber.co.uk/cyngor/cysylltuachynghorydd/ |
Ystafell Lles |
Ar gael pan fydd yr adeilad ar agor |
Beth am ddefnyddio'r ystafell hon i ymlacio. |
Gellir dod o hyd i'r ystafell hon i lawr y coridor cefn o danddaear yr Undeb |
Ioga dad-straen gyda Cat |
Dydd Mercher 15fed 10-11yb
a
Dydd Llun 20 Ionawr 2-3pm |
Croeso i bawb o bob gallu, bydd hon yn sesiwn hamddenol i'ch helpu i ymestyn allan ac adnewyddu yn ystod eich arholiadau. |
https://www.abersu.co.uk/ents/event/9159/
https://www.abersu.co.uk/ents/event/9160/
|
Gorsaf lliwio |
Ar gael pan fydd yr adeilad ar agor |
A yw lluniadu yn eich helpu i ganolbwyntio neu ymlacio, rydym wedi darparu rhai adnoddau i'ch helpu. |
Mae taflenni lliwio a phensiliau lliw ar gael yn rhan danddaearol yr Undeb gyferbyn â hwb y swyddogion |
Cyfarfod Mario Kart |
Dydd Llun 20fed 2-4pm Lolfa Fach Pantycelyn |
Mae croeso i bawb i'r digwyddiad hwn sy'n cael ei redeg gan Gymdeithas Nintendo. |
https://www.abersu.co.uk/events/13978/9156/ |
Lleddfu straen wrth gael dêt ‘da ci!
|
Dydd Mercher 22ain 11-12:30 a 1:30-3 Picturehouse |
Bydd Cariad Pet Therapy yn dod â chŵn hyfryd i chi ddod i gael cwtch gyda nhw! |
https://www.abersu.co.uk/ents/event/9163/
|
Pob lwc gan bawb yn Undeb Aber!
Edrychwch ar y canllawiau yma gan eich Swyddogion Llesiant a Materion Academaidd, wedi’u hysgrifennu i’ch helpu yn trwy gyfnod yr arholiadau!
Eisiau ychydig o gyngor gan Dîm y Swyddogion?
Ewch i weld eu herthygl, “Cyngor Gorau ar Waredu Straen” i gael cyngor ymarferol i’ch helpu i lywio cyfnod yr arholiadau.
Gwasanaethau Cymorth
Yn ogystal â digwyddiadau a gweithgareddau, rydym am eich atgoffa o rai o'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael pe baech chi eu hangen yn ystod cyfnod a all beri cryn straen.
Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber
Cysylltu  Chynghorydd
Gwasanaethau Myfyrwyr - Gwasanaeth Cyngor ac Arian
Ffôn: 01970 621761/622087
E-bost: cynghorydd-myfyrwyr@aber.ac.uk
Gwasanaethau Myfyrwyr - Gwasanaeth Lles
Ffôn: 01970 621761/622087
E-bost: lles@aber.ac.uk
Gwasanaethau Myfyrwyr - Hygyrchedd
Ffôn: 01970 621761/622087
E-bost: hygyrchedd@aber.ac.uk
Gwasanaethau Myfyrwyr - Gyrfaoedd
Ffôn: 01970 622378
E-bost: gyrfaoedd@aber.ac.uk
Peidiwch ag anghofio bod amrywiaeth o bobl ar draws y campws a all gynnig gair o gyngor a chefnogaeth, gan gynnwys mentoriaid myfyrwyr, tiwtoriaid personol a staff yn eich adran.