Yswiriant Gwladol a Threth

Os ydych chi'n gweithio yn y DU, yna byddech chi fel arfer yn gorfod talu Yswiriant Gwladol a Threth Incwm. Mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr cartref, rhai o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a myfyrwyr rhyngwladol. Bydd y swm rydych chi'n ei dalu yn dibynnu ar faint rydych chi'n ei ennill. Nid yw rhif Yswiriant Gwladol neu god treth yn rhoi caniatâd i chi weithio. Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, yna mae'n rhaid i chi wirio bod y stamp yn eich pasbort yn rhoi caniatâd i chi weithio.

Os ydych chi'n fyfyriwr o'r tu allan i'r AEE neu os ydych chi'n destun rheolaeth fewnfudo, dylech gysylltu â Chynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol i gael mwy o wybodaeth trwy e-bostio: immigrationadvice@aber.ac.uk neu ffonio: (+44) 01970 621548.


Yswiriant Gwladol

Cynllun gan y llywodraeth yw Yswiriant Gwladol lle mae cyfraniadau a delir gan y rhai sydd mewn cyflogaeth yn darparu buddion i'r rheini na allant weithio pan fyddant yn sâl, yn ddi-waith neu wedi ymddeol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau eich bod chi’n gymwys i dderbyn rhai budd-daliadau a Phensiwn y Wladwriaeth.

Byddwch yn talu Yswiriant Gwladol gorfodol os ydych chi'n 16 oed neu'n hyn ac rydych chi naill ai:

  • yn gyflogedig ac yn ennill mwy na £242 yr wythnos.
  • ss ydych yn hunangyflogedig a bod eich elw yn £12,570 neu fwy y flwyddyn, fel arfer byddwch yn talu cyfraddau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a Dosbarth 4..

Mae’n bosib y byddwch chi’n gallu gwneud cyfraniadau gwirfoddol er mwyn osgoi bylchau yn eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Mae angen Rhif Yswiriant Gwladol arnoch cyn y gallwch chi ddechrau talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Os ydych chi'n gyflogedig rydych cyn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1. Mae’r cyfraddau ar gyfer y mwyafrif o bobl ar gyfer y flwyddyn dreth 2024 i 2025 fel a ganlyn:

Eich cyflog

Cyfradd Yswiriant Gwladol Dosbarth 1

£242 i £967 yr wythnos

8%

Dros £967 yr wythnos

2%

 

Y trothwy sylfaenol ar gyfer y flwyddyn dreth 2024 yw £242 yr wythnos. Bydd 8% o'ch enillion yn cael ei ddidynnu mewn cyfraniad Yswiriant Gwladol ar yr holl arian rydych chi'n ei ennill sy'n uwch na'r trothwy sylfaenol ac yn is na'r terfyn enillion uchaf (rhwng £242 - £967 yr wythnos). Ar unrhyw enillion sy’n fwy na’r trothwy o £967 yr wythnos, byddwch yn talu 2%. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yswiriant gwladol ar wefan Cyllid a Thollau EM


Eich Rhif Yswiriant Gwladol (YG)

Eich Rhif Yswiriant Gwladol yw'r cyfeirnod unigryw y mae Cyllid a Thollau EM yn ei ddefnyddio i storio gwybodaeth am eich incwm. Byddant yn cadw gwybodaeth am faint o Yswiriant Gwladol rydych wedi'i dalu a sut mae hyn yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau y gallai fod gennych chi hawl iddynt. Os ydych chi'n fyfyriwr yn y DU, byddwch wedi cael rhif YG yn awtomatig pan gyrhaeddoch chi 16 oed.

Os ydych wedi colli’r rhif hwn, neu heb ei dderbyn, fel rheol gallwch ddod o hyd iddo ar hen slip cyflog neu P60 os oes gennych un ar gael. Os ydych chi’n dal yn methu dod o hyd iddo, gallwch naill ai ffonio'r llinell gymorth rhifau Yswiriant Gwladol 0300 200 3500 neu lenwi’r ffurflen hon.

Os nad oes gennych chi rif Yswiriant Gwladol eisoes, does ond angen i chi wneud cais am un os ydych chi'n bwriadu:


Treth Incwm

Treth a godir gan y llywodraeth ar incwm y byddwch yn ei dderbyn yn ystod blwyddyn dreth yw treth incwm. Mae llawer o fyfyrwyr yn credu eu bod wedi'u heithrio rhag talu treth incwm, ond nid yw hyn yn wir. Gallwch gael eich trethu ar unrhyw incwm - cyflog, cildwrn ac unrhyw log ar gynilion y byddwch yn ei dderbyn. Mae'r flwyddyn dreth yn wahanol i’r flwyddyn academaidd neu’r flwyddyn galendr, ac mae'n rhedeg rhwng Ebrill 6 ac Ebrill 5 y flwyddyn ganlynol. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw arian rydych chi'n ei ennill yn ystod y flwyddyn dreth yn cael ei gyfrif fel incwm trethadwy ar gyfer y flwyddyn honno.

Bydd y swm rydych chi'n ei dalu yn dibynnu ar faint rydych chi'n ei ennill a'ch statws o ran treth. Ni fydd yn rhaid i chi dalu treth incwm ar unrhyw gyllido myfyrwyr yn y DU.

Gelwir y swm y gallwch chi ei ennill cyn talu treth yn lwfans treth personol. Os ydych chi'n ennill mwy na hyn yn y flwyddyn dreth, bydd yn rhaid i chi dalu treth. Os ydych chi o dan 65 oed ac yn ennill llai na £12,570 rhwng Ebrill 6 2024 ac Ebrill 5 2025 mae’n anhebygol y bydd rhaid i chi dalu treth incwm.


Cyfraddau a bandiau Treth Incwm

Mae Senedd San Steffan yn penderfynu bob blwyddyn faint o dreth y dylem ei thalu, yn seiliedig ar gynigion a gyflwynir gan Ganghellor y Trysorlys yn ei Gyllideb. Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25 byddwch chi'n talu treth incwm ar dair cyfradd:

Mae'r tabl yn dangos y cyfraddau treth y byddwch chi'n eu talu ym mhob band os oes gennych chi Lwfans Personol cyffredin o £12,570. Mae bandiau treth incwm yn wahanol os ydych chi'n byw yn yr Alban.

Band

Incwm trethadwy

Cyfradd dreth

Lwfans Personol

Hyd at £12,570

0%

Cyfradd sylfaenol

£12,571 i £50,270

20%

Cyfradd uwch

£50,271 i £125,140

40%

Cyfradd ychwanegol

Dros £125,140

45%


Treth Brys

Mae Treth Brys yn daladwy os nad oes gan eich cyflogwr eich cod treth ac mae’n rhagdybio lwfans cyfradd sylfaenol, y cyfan ar 20%. Mae hwn yn daladwy ar yr holl incwm, ond byddwch yn gymwys i dderbyn ad-daliad os ydych chi wedi talu gormod.

Mae’n bosib y cewch eich gosod ar god treth brys os ydych wedi dechrau:

  • Swydd newydd.
  • Gweithio i gyflogwr ar ôl bod yn hunangyflogedig.
  • Derbyn buddion cwmni neu Bensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych chi ar god treth brys, bydd eich slip cyflog yn dangos:

  • 1257 W1
  • 1257 M1
  • 1257 X

Mae yna hefyd gyfradd sylfaenol o 20% sy'n daladwy ar rai mathau o incwm o gynilion. Mae mwy o fanylion am gyfraddau treth incwm a lwfansau personol i’w gweld ar wefan Cyllid a Thollau EM.


Sut mae treth yn cael ei didynnu

Fel rheol, cymerir treth o'ch cyflog gan eich cyflogwr a'i throsglwyddo i Gyllid a Thollau EM. Gelwir hyn yn gynllun TWE (talu wrth ennill). Os ydych chi'n gyflogedig, eich cyfrifoldeb chi yw talu treth, ond cyfrifoldeb yr unigolyn sy'n eich cyflogi yw cyfrifo'ch treth, ei didynnu o'ch cyflog a'i thalu i Gyllid a Thollau EM. Caiff ei chasglu bob wythnos neu’n fisol, yn dibynnu ar sut rydych chi'n cael eich talu.

Bydd eich lwfans di-dreth yn cael ei rannu dros y flwyddyn, ac os oes gennych chi fwy nag un swydd ar y tro, gellir ei rannu rhwng mwy nag un cyflogwr. Os ydych chi'n cael eich talu'n wythnosol, rhennir eich lwfansau â 52 (£12,570 ÷ 52 = £241.73 yr wythnos) ac os ydych chi'n cael eich talu'n fisol, rhennir eich lwfansau â 12 (£12,570 ÷ 12 = £1,047.50 y mis). Mae hyn yn dangos i chi faint allwch chi ei ennill heb dalu treth ar gyfer pob diwrnod cyflog.

Mae hyn yn golygu, os cewch eich talu'n wythnosol a'ch bod yn ennill £241.73 yr wythnos neu lai, ni fyddwch yn cael eich trethu’r wythnos honno. Unwaith y byddwch chi'n ennill mwy na £241.73 yr wythnos bydd eich cyflogwr yn dechrau tynnu treth o'ch cyflog. Er mwyn sicrhau nad yw'ch cyflogwr yn didynnu gormod o dreth o'ch cyflog, bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth. Mae'r prif ffurflenni y bydd angen i chi wybod amdanynt wedi'u nodi isod:

 

Rhestr Wirio ar gyfer Cychwyn Gweithio

Os ydych chi'n dechrau eich swydd gyntaf mewn blwyddyn dreth, yna dylech chi lenwi'r ffurflen hon. Rhaid i'ch cyflogwr sicrhau bod pob gweithiwr newydd sy'n ennill mwy na £1 yr wythnos yn llenwi'r ffurflen hon.

Os oes gennych P45 o'ch swydd flaenorol, yna nid oes angen i chi gwblhau'r Rhestr Wirio ar gyfer Cychwyn Gweithio oni bai y byddwch chi'n gweithio mewn mwy nag un swydd. Os mai dyma yw’r achos ac y byddwch yn gweithio i fwy nag un cyflogwr, gallwch lenwi Rhestr Wirio ar gyfer Cychwyn Gweithio ychwanegol ar gyfer eich cyflogwr newydd.

 

P45

Pan fyddwch yn gadael swydd, dylech gael P45 gan eich hen gyflogwr, a dylech ei phasio ymlaen i'ch cyflogwr newydd. Bydd eich cyflogwr yn anfon Rhan 1 o'r P45 i Gyllid a Thollau EM ac yn rhoi Rhannau 1A, 2 a 3 i chi. Mae angen i chi gadw Rhan 1A a rhoi Rhannau 2 a 3 i'ch cyflogwr newydd.

Bydd hyn yn dweud wrthynt:

  • Y cyflog gros rydych chi wedi’i dderbyn yn y flwyddyn dreth gyfredol.
  • Faint o Dreth Incwm, os o gwbl, sydd wedi'i didynnu hyd yn hyn y flwyddyn honno.
  • Y cod Treth Incwm; a'ch rhif Yswiriant Gwladol.

Dylech gadw'ch P45 yn ddiogel os nad ydych chi’n cychwyn swydd newydd ar unwaith. Os byddwch chi'n dechrau swydd newydd, dylech chi roi eich P45 i'ch cyflogwr newydd. Yna bydd eich cyflogwr yn ei anfon i'w swyddfa dreth, a bydd yn eu helpu i gyfrifo'ch cod treth a gweithio allan faint o dreth y bydd angen i chi ei thalu.

 

P50

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon os ydych chi wedi rhoi'r gorau i weithio, ac nad ydych yn disgwyl gweithio eto yn ystod y flwyddyn dreth honno, a'ch bod yn meddwl eich bod wedi talu gormod o dreth yn ystod y flwyddyn. Dylech lenwi'r ffurflen a naill ai ei chyflwyno ar-lein neu ei hanfon trwy'r post i Gyllid a Thollau EM. Os ydych chi am gael help ar gyfer llenwi'r ffurflen hon, dewch i weld ein Cynghorydd Undeb y Myfyrwyr i ofyn am arweiniad.

 

P60

Os ydych chi mewn cyflogaeth ar ddiwrnod olaf y flwyddyn dreth (5ed Ebrill) byddwch yn cael y ffurflen hon gan eich cyflogwr. Mae'n rhoi gwybod i chi faint rydych chi wedi'i ennill ac mae'n brawf o'r dreth rydych chi wedi'i thalu yn y flwyddyn flaenorol. Mae'n bwysig iawn eich bod yn cadw'r ffurflen hon yn ddiogel, ac mewn man lle gallwch ddod o hyd iddi yn hawdd. Mae angen i chi ei chadw am o leiaf 22 mis ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.


Hawlio ad-daliad treth

Os ydych chi’n credu bod gormod o dreth wedi'i dynnu o'ch cyflog, ond eich bod yn dal i fod mewn cyflogaeth, ni ddylech lenwi P50. Yn hytrach, gallwch hawlio ar-lein yma. Gallwch hawlio ad-daliad gan Gyllid a Thollau EM am unrhyw un o'r pedair blynedd dreth flaenorol. Bydd angen rhif cyfeirnod TWE eich cyflogwr arnoch, sydd i'w weld ar eich P60, ac ni allwch hawlio ar ran rhywun arall.

Mae mwy o wybodaeth ar hawlio ad-daliad treth ar wefan Llywodraeth y DU.

Mae yna hefyd wybodaeth am dalu treth tra'ch bod chi'n fyfyriwr ar wefan Llywodraeth y DU.


Beth all Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber ei wneud i helpu?

Mae Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber yn annibynnol o'r Brifysgol, ac mae'n darparu gwasanaeth cyfrinachol a di-duedd, am ddim i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. 

Gall y Gwasanaeth Cynghori roi cymorth i chi mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • Esbonio’ch hawliau o ran deddfwriaeth cyflogaeth a'ch cyfeirio at wasanaethau cynghori allanol, lle bo hynny’n briodol.
  • Adolygu unrhyw ddatganiadau drafft rydych chi’n eu paratoi a chynnig awgrymiadau;
  • Mynd gyda chi i unrhyw gyfarfodydd er mwyn darparu cymorth a chynrychiolaeth i chi, lle bo hynny’n briodol.
  • Eich helpu i gasglu tystiolaeth briodol ynghyd fel sail i'ch achos.

Cysylltu  Chynghorydd


Dolenni defnyddiol


Cynhyrchwyd am y tro cyntaf: Medi 2020

Adolygwyd: Awst 2024

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576