Mae gan y mwyafrif o weithwyr yn y DU hawl gyfreithiol i dderbyn yr isafswm cyflog cenedlaethol fesul awr, waeth ble maen nhw'n gweithio, maint y cwmni neu'r gwaith maen nhw'n ei wneud. Os ydych chi'n cael eich cyflogi o dan gontract cyflogaeth mae gennych chi hawl i'r cyflog byw cenedlaethol neu isafswm cyflog cenedlaethol. Mae gennych hawl hefyd i’r cyflog byw cenedlaethol neu isafswm cyflog cenedlaethol os ydych chi'n weithiwr achlysurol, yn weithiwr rhan-amser, neu ar gontract tymor-byr. Mae gan weithwyr asiantaeth, gweithwyr gartref a’r rheiny sy’n cael eu talu fesul tasg hefyd hawl i dderbyn yr cyflog byw cenedlaethol neu isafswm cyflog cenedlaethol.
Dyma’r cyfraddau ar gyfer y Cyflog Byw Cenedlaethol (i’r rhai 21 oed a throsodd) a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (i’r rhai o oed gadael ysgol o leiaf). Mae’r cyfraddau hyn yn newid bob 1 Ebrill.
O fis Ebrill 2024 ymlaen, mae’r cyfraddau fel a ganlyn:
- £11.44 yr awr - 21 oed a throsodd.
- £8.60 yr awr - 18-20 oed.
- £6.40 yr awr - o dan 18 oed.
- £6.40 yr awr - Prentisiaid.
Mae gan brentisiaid hawl i gyfradd tâl ar gyfer prentisiaid os ydyn nhw naill ai:
- O dan 19 oed.
- Yn 19 oed neu'n hyn ac ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaeth.
Am fwy o wybodaeth am brentisiaethau ewch i wefan Llywodraeth y DU. Bydd y gyfradd yn newid bob mis Ebrill.
Rhaid talu'r cyflog byw neu isafswm cyflog cenedlaethol i chi am bob awr y byddwch yn ei gweithio o fewn 'cyfnod cyfeirio cyflog'. Mae hyn yn golygu eich cyfnod cyflog go iawn, e.e. os ydych chi'n cael eich talu bob wythnos mae eich cyfnod cyfeirio cyflog yn wythnos. Os cewch eich talu bob mis, mae eich cyfnod cyfeirio cyflog yn un mis. Nid oes rhaid talu'r isafswm cyflog cenedlaethol i chi am bob awr a weithir, ond rhaid talu'r isafswm cyflog cenedlaethol ar gyfartaledd am yr amser a weithiwyd o fewn cyfnod cyfeirio cyflog.
Mae hyn yn golygu os ydych chi'n gweithio am 4 awr yr wythnos a'ch bod chi'n cael eich talu'n wythnosol, nid yw'n bwysig faint rydych chi'n ei ennill ym mhob awr unigol, cyn belled â bod eich cyflog yn hafal neu'n uwch na'r isafswm cyflog ar gyfer y 4 awr.
I gael mwy o wybodaeth am yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ewch i wefan Llywodraeth y DU.
Mae tair prif ffordd y gallwch gael eich talu am swydd:
Talu am yr amser a weithiwyd
Dyma'r dull talu mwyaf cyffredin ar gyfer gweithwyr rhan-amser. Cyfrifir eich cyflog ar gyfradd fesul awr e.e. £11.44 yr awr. Mae yna reolau arbennig ynghylch a yw seibiannau ac amser teithio yn cael eu cynnwys wrth gyfrifo a ydych chi wedi cael eich talu’r isafswm cyflog cenedlaethol.
Cyflog blynyddol
Mae hyn yn golygu eich bod yn cael cyflog blynyddol, ac fel arfer byddwch yn cael eich talu mewn rhandaliadau cyfartal. Er enghraifft, £23,000 y flwyddyn am wythnos 37 awr. Bydd 1/12 yn cael ei dalu bob mis, waeth beth yw gwir nifer y diwrnodau gwaith a oedd yn ystod y mis hwnnw.
Gwaith allbwn
Gwaith sy'n cael ei dalu yn ôl nifer y tasgau rydych chi'n eu cwblhau, eitemau rydych chi'n eu cynhyrchu neu’n eu gwerthu yw hwn; e.e. £5 am bob 1,000 o amlenni rydych chi'n eu llenwi, £2 am bob basgedaid o fefus rydych chi'n eu casglu neu 30c y tocyn rydych chi'n ei werthu. Gelwir hyn hefyd yn waith fesul tasg neu waith comisiwn.
Os ydych chi'n cael eich cyflogi i weithio am nifer penodol o oriau, e.e. rhwng 7am ac 11am, mae'n rhaid talu o leiaf cyfartaledd yr isafswm cyflog am bob awr sy’n cael ei gweithio yn y cyfnod cyfeirio cyflog. Os na ofynnir i chi weithio am oriau penodol, gallwch naill ai gael eich talu am bob awr rydych chi'n ei threulio yn gweithio neu gallwch arwyddo cytundeb 'amcangyfrif teg'.
Mae 'cytundeb amcangyfrif teg' yn gytundeb ysgrifenedig, y dylid ei arwyddo cyn cyfnod cyfeirio tâl; dylai nodi faint o oriau rydych chi'n debygol o weithio. Rhaid i chi hefyd gael contract sy'n nodi'r gyfradd fesul tasg ar gyfer pob eitem. Mae'n bwysig eich bod chi'n cadw cofnod ysgrifenedig o'r oriau rydych chi'n eu gweithio.
Mae gennych hawl i archwilio cofnodion sy'n ymwneud â'ch cyflog os ydych chi'n credu eich bod chi'n cael eich talu llai na'r isafswm cyflog cenedlaethol. Gallwch ofyn am gopi mewn ysgrifen gan eich cyflogwr. Rhaid iddynt roi'r wybodaeth honno i chi o fewn 14 diwrnod i'ch cais. Os ydych chi'n credu bod eich cyflogwr yn torri'r gyfraith trwy beidio â thalu'r isafswm cyflog i chi, yna gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith, a elwir yn ACAS ar 0300 123 1100 o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm.
Gallwch ddarllen mwy ar y wefan Llywodraeth y DU ynglyn â gwneud cwyn am beidio â derbyn yr isafswm cyflog cenedlaethol gan eich cyflogwr.
Taflenni Cyflog
Os ydych chi'n gyflogai, mae gennych hawl gyfreithiol i dderbyn eich datganiad cyflog ysgrifenedig manwl eich hun gan eich cyflogwr ar yr adeg y cewch eich talu. Yr unig bobl nad oes ganddynt yr hawl hon yw aelodau o’r heddlu, rhai pobl yn y diwydiant pysgota, ac asiantau llawrydd. Yn ôl y gyfraith mae'n rhaid i ddatganiad cyflog neu daflen gyflog ddarparu manylion ysgrifenedig am y canlynol:
- Eich cyflog 'gros', h.y. y swm cyn tynnu treth.
- Unrhyw ddidyniadau a pham y cânt eu didynnu, e.e. treth incwm, yswiriant gwladol, cyfraniadau pensiwn, tanysgrifiadau undeb llafur neu daliadau i elusen.
- Eich cyflog 'net', h.y. ar ôl unrhyw ddidyniadau.
- Manylion ynghylch sut y bydd eich cyflog yn cael ei dalu, h.y. gydag arian parod neu siec neu'n syth i'ch cyfrif banc (a elwir yn daliad BACS).
Os nad ydych chi wedi derbyn taflen gyflog, gallwch gwyno i dribiwnlys cyflogaeth. Rhaid gwneud pob cwyn cyn pen tri mis ar ôl cael eich talu heb daflen gyflog.
Didyniadau anghyfreithlon o’ch cyflog
Mae yna rai amgylchiadau pan fydd hi'n gyfreithlon i'ch cyflogwr gymryd arian o'ch cyflog. Sef y canlynol:
- Yn ôl y gyfraith, rhaid iddynt ddidynnu treth incwm a chyfraniad Yswiriant Gwladol.
- Mae eich contract yn dweud y gallant wneud hyn.
- Rydych wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig iddynt wneud hynny cyn i'r didyniad gael ei wneud.
- Rydych yn ad-dalu gordaliad cyflog blaenorol.
- Rydych chi wedi bod ar streic neu wedi cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol.
Os ydych chi’n credu bod eich cyflogwr wedi gwneud penderfyniad bwriadol i beidio â thalu'r cyflog sy’n ddyledus i chi, neu ran ohono, ac nid yw am un o'r rhesymau a restrir uchod, yna mae’n bosib y bydd eich cyflogwr wedi gwneud didyniad anghyfreithlon o’ch cyflog.
Os na allwch ddatrys materion o’r fath trwy ei drafod yn anffurfiol neu'n ffurfiol yn fewnol, yna bydd angen i chi fynd trwy Dribiwnlys Cyflogaeth neu Lys Sirol i orfodi'ch cyflogwr i ad-dalu'r arian sydd wedi'i ddidynnu. Codir tâl am gychwyn achos mewn Tribiwnlys Cyflogaeth a'r Llys Sirol, ond mae’n bosib y bydd rhai myfyrwyr yn gallu gwneud cais i'r taliadau hyn gael eu hepgor, felly cysylltwch â Gwasanaeth Cynghori Undeb y Myfyrwyr fel y gellir gwirio hyn.
Gallwch fynd ag achos o ddidyniadau anghyfreithlon o gyflog i dribiwnlys cyflogaeth, waeth pa mor hir rydych chi wedi bod yn gweithio i'ch cyflogwr. Rhaid i chi wneud eich cwyn i'r tribiwnlys cyflogaeth cyn pen tri mis o'r dyddiad yr oedd y cyflog i fod i gael ei dalu.
Beth all Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber ei wneud i helpu?
Mae Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber yn annibynnol o'r Brifysgol, ac mae'n darparu gwasanaeth cyfrinachol a di-duedd, am ddim i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
Gall y Gwasanaeth Cynghori roi cymorth i chi mewn sawl ffordd, gan gynnwys:
- Esbonio’ch hawliau o ran deddfwriaeth cyflogaeth a'ch cyfeirio at wasanaethau cynghori allanol, lle bo hynny’n briodol.
- Adolygu unrhyw ddatganiadau drafft rydych chi’n eu paratoi a chynnig awgrymiadau;
- Mynd gyda chi i unrhyw gyfarfodydd er mwyn darparu cymorth a chynrychiolaeth i chi, lle bo hynny’n briodol.
- Eich helpu i gasglu tystiolaeth briodol ynghyd fel sail i'ch achos.
Cysylltu  Chynghorydd
Dolenni defnyddiol
Cynhyrchwyd am y tro cyntaf: Medi 2020
Adolygwyd: Awst 2024