Contractau Cyflogaeth

Amddiffyniadau a dyletswyddau yn y gweithle yw hawliau statudol, sydd wedi’u gosod allan yn y gyfraith; dyma'r lefel isaf o ran telerau ac amodau y gallwch eu disgwyl gan eich cyflogwr o dan y gyfraith. Mae’n bosib y bydd cyflogwr yn gofyn i chi gytuno i amodau ychwanegol neu roi mynediad i chi at fuddion ychwanegol, e.e. faint o rybudd y mae angen i chi ei roi iddynt cyn i chi adael eich swydd. Mae manylion penodol neu delerau ac amodau eich cyflogaeth yn rhan o'ch contract; dyma eich 'hawliau cytundebol'. Gall cytundeb roi hawliau ychwanegol i chi, ond ni all leihau eich hawliau statudol.

Mae contract cyflogaeth yn cael ei ffurfio unwaith y byddwch chi'n cytuno i weithio i gyflogwr am dâl. Mae contract yn gytundeb rhyngoch chi a'ch cyflogwr, sy'n nodi'r hawliau a'r rhwymedigaethau sylfaenol y gallwch eu disgwyl gan eich gilydd yn ystod eich cyflogaeth. Trwy gytuno i dderbyn swydd, rydych yn cytuno i'r telerau ac amodau a gynigir gan y cyflogwr. Yna rydych chi a'ch cyflogwr wedi’ch rhwymo’n gyfreithiol gan y telerau a gynigiwyd ac a dderbyniwyd. Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio na all eich telerau ac amodau cytundebol ddisodli lefel isaf yr oblygiadau cyfreithiol sydd wedi’u hamlinellu yn eich hawliau statudol.

Gall contractau fod ar lafar, yn ysgrifenedig neu wedi’u hawgrymu, ac maen nhw'n gosod allan eich hawliau a'ch dyletswyddau cyfreithiol. Gall profi'r union delerau ac amodau fod yn dasg gymhleth, ac fel rheol mater i dribiwnlys cyflogaeth yw sefydlu diffiniad diamheuol.


Datganiad Ysgrifenedig o Fanylion

Mae'r gyfraith yn nodi bod yn rhaid i rai telerau penodol gael eu hysgrifennu, a'u rhoi i chi mewn datganiad ysgrifenedig cyn pen dau fis ar ôl i chi ddechrau eich cyflogaeth. Os cewch eich cyflogi fel gweithiwr ar gyfer swydd a fydd yn para am fis neu fwy, mae gennych hawl i ddatganiad ysgrifenedig o fanylion. Mae hon yn ddogfen ysgrifenedig sy'n manylu ar brif delerau ac amodau eich swydd; os na fyddwch yn derbyn datganiad ysgrifenedig o fanylion, yna gallwch fynd â'ch achos i dribiwnlys cyflogaeth, yn ystod eich cyflogaeth neu cyn pen tri mis ar ôl gadael y gyflogaeth honno.

Nid yw datganiad ysgrifenedig o fanylion yr un fath â chontract cyflogaeth, ond bydd yn nodi llawer o'r telerau ac amodau allweddol y cytunwyd arnynt yn eich contract. Os ydych chi byth mewn anghydfod â'ch cyflogwr, yna gellir defnyddio datganiad o fanylion fel tystiolaeth bwysig o'r telerau ac amodau y cytunwyd arnynt. Mae'r gyfraith yn nodi bod yn rhaid i ddatganiad ysgrifenedig gwmpasu:

  • Eich enw chi ac enw'ch cyflogwr.
  • Teitl eich swydd neu ddisgrifiad cryno o’r swydd.
  • Y dyddiad pan ddechreuodd y gyflogaeth.
  • Faint a pha mor aml y cewch eich talu.
  • Eich oriau gwaith a ble byddwch chi'n gweithio.
  • Faint o wyliau â thâl y caniateir i chi eu cymryd.
  • Eich hawl i gymryd amser i ffwrdd pan fyddwch chi'n sâl.
  • Faint o arian y byddwch chi'n ei dderbyn tra byddwch chi i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch.
  • Manylion pensiynau neu gynlluniau pensiwn.
  • Faint o rybudd y bydd angen i chi ei roi i'ch cyflogwr os ydych chi am adael eich swydd, a faint o rybudd y bydd disgwyl i’ch cyflogwr ei roi i chi os yw am derfynu eich cyflogaeth.
  • P'un a yw'ch swydd yn barhaol neu am gyfnod penodol, gan roi manylion pryd y bydd eich cyflogaeth yn dod i ben os yw hynny’n berthnasol.
  • Manylion eraill yn ymwneud â chytundebau ar y cyd a allai effeithio arnoch chi.
  • Esboniad o'r gweithdrefnau ar gyfer disgyblu a chwyno.

Mae yna fanylion eraill hefyd sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith os gofynnir i chi weithio dramor am fwy na mis. Mae'r rhain yn cynnwys pa mor hir y bydd angen i chi weithio dramor a pha arian cyfred y cewch eich talu ynddo, unrhyw fuddion neu dâl ychwanegol a'r telerau sy'n ymwneud â'ch dychweliad i'r DU.


Torri Contract

Os yw'ch cyflogwr yn torri telerau ac amodau eich contract, er enghraifft os ydyn nhw'n talu £11.50 yr awr i chi yn lle £12 yr awr yr oeddech chi wedi cytuno arno yn eich cyfweliad, yna gelwir hyn yn 'dorri contract'. Os na allwch chi ddatrys materion o’r fath trwy weithdrefnau anffurfiol neu ffurfiol yn fewnol, yna bydd angen i chi fynd trwy dribiwnlys cyflogaeth neu'r llysoedd barn.

Dim ond os nad ydych yn gweithio i'ch cyflogwr mwyach y gallwch chi hawlio i dribiwnlys cyflogaeth bod eich contract wedi cael ei dorri. Os ydych chi'n dal i weithio i'ch cyflogwr, mae'n rhaid i chi fynd â’ch achos am dorri contract i lys.

Mae rhai hawliadau am dorri contract, megis peidio â thalu cyflog, peidio â thalu tâl gwyliau a pheidio â thalu tâl salwch cytundebol, hefyd yn hawliad am ddidyniad anghyfreithlon o gyflog. Yn yr achosion hyn, gallai fod yn well dwyn achos am ddidyniad anghyfreithlon o gyflog i dribiwnlys cyflogaeth, yn hytrach na chyflwyno achos o dorri contract i lys.

Codir tâl am gychwyn achos mewn Tribiwnlys Cyflogaeth a'r Llys Sirol, ond efallai y bydd yn bosibl gwneud cais i'r taliadau hyn gael eu hepgor, felly cysylltwch â Gwasanaeth Cynghori Undeb y Myfyrwyr fel y gellir gwirio hyn.

Os credwch fod un o delerau eich contract wedi cael ei dorri, mae'n hanfodol bwysig eich bod yn gofyn am gyngor ar unwaith. Mae hyn oherwydd bod y terfyn amser ar gyfer mynd ag achos i dribiwnlys cyflogaeth yn llym iawn. Fel rheol, gwrthodir eich achos oni bai ei fod yn cael ei gyflwyno cyn pen tri mis ar ôl yr achos honedig o dorri contract.


Beth all Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber ei wneud i helpu?

Mae Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber yn annibynnol o'r Brifysgol, ac mae'n darparu gwasanaeth cyfrinachol a di-duedd, am ddim i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. 

Gall y Gwasanaeth Cynghori roi cymorth i chi mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • Esbonio’ch hawliau o ran deddfwriaeth cyflogaeth a'ch cyfeirio at wasanaethau cynghori allanol, lle bo hynny’n briodol.
  • Adolygu unrhyw ddatganiadau drafft rydych chi’n eu paratoi a chynnig awgrymiadau;
  • Mynd gyda chi i unrhyw gyfarfodydd er mwyn darparu cymorth a chynrychiolaeth i chi, lle bo hynny’n briodol.
  • Eich helpu i gasglu tystiolaeth briodol ynghyd fel sail i'ch achos.

Cysylltu  Chynghorydd


Dolenni defnyddiol


Cynhyrchwyd am y tro cyntaf: Medi 2020

Adolygwyd: Awst 2024

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576