Rydym yn gwybod y gall y newyddion am Coronafeirws (Covid-19) deimlo'n llethol. Efallai y byddwch chi'n poeni am ddod i gysylltiad â'r feirws.
Rhoi cymorth i'r rhai o'ch cwmpas
Er ei bod yn bwysig ein bod yn gofalu am ein hunain, mae yna rai ffyrdd y gall pob myfyriwr gynnig cymorth i’w gilydd yn ystod y cyfnod hwn.
- Rhannwch wybodaeth o ffynonellau swyddogol a dibynadwy yn unig, gan osgoi dibynnu ar sibrydion a chlecs.
- Cysylltwch â'r rhai a allai fod mewn mwy o risg yn ystod y cyfnod hwn a chynnig eu helpu os oes angen, a bod hynny’n briodol
- Os ydych chi mewn iechyd da, ddim yn hunan-ynysu a ddim yn cael eich ystyried i fod yn perthyn i grwp risg uchel; cynigiwch gymorth i ffrindiau neu berthnasau a all fod angen cyflenwadau o fwyd neu feddyginiaeth. Cofiwch bob amser eu gadael nhw tu allan yr adeilad
- Dylech osgoi prynu mewn panig, gan brynu dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch chi.
Rydym hefyd wedi llunio dwy restr wirio i gynorthwyo llesiant ac i'ch cyfeirio at gyngor a chymorth pe bai ei angen arnoch.
Rhestr Wirio Hunanofal yn ystod lledaeniad Coronafeirws:
- Rhowch amser penodol i'ch hun i wylio’r newyddion a gwirio eich cyfryngau cymdeithasol bob dydd.
- Ceisiwch osgoi darllen 'newyddion ffug' ar eich adborth newyddion. Yn hytrach, cadwch yn gyfoes â’r datblygiadau diweddaraf drwy dudalennau swyddogol fel Prifysgol Aberystwyth, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r GIG.
- Os yw'r cyfryngau cymdeithasol yn gwneud i chi deimlo'n bryderus, ystyriwch eu diffodd neu dreulio mwy o amser i ffwrdd ohonynt.
- Efallai y bydd y rhai ag OCD a rhai mathau o orbryder yn ei chael hi'n anodd cael pobl yn dweud wrthynt yn gyson i 'olchi eich dwylo'. Cofiwch, yn ôl y canllawiau, dylech chi olchi'ch dwylo am 20 eiliad a dim mwy.
- Mae’n bwysig yfed digon a bwyta'n iach.
- Cofiwch fod gweithgareddau fel mynd am dro neu redeg yn dal i gael eu caniatáu, cyn belled â'ch bod yn cofio cadw digon o bellter rhyngoch chi â phobl eraill.
- Ystyriwch ffyrdd i helpu eraill, drwy gefnogi busnes lleol, neu anfon neges at fyfyrwyr eraill i weld sut maen nhw’n teimlo; gall hyn helpu i hybu llesiant cadarnhaol.
Rhestr wirio hunanofal os oes rhaid i chi hunan-ynysu:
- Gallwch greu grwpiau Facebook neu WhatsApp i gadw mewn cysylltiad a chynnig cymorth i'ch gilydd.
- Gallwch chi fideo-ffonio ffrindiau ac anwyliaid am sgwrs.
- Gallwch ddarllen llyfr neu ddal i fyny ar wasanaethau ffrydio.
- Gallwch gadw'ch ystafell yn le tawel
- Gallwch chi barhau â'r gweithgareddau rydych chi'n eu mwynhau os yw hynny’n bosib. Os ydych chi'n mwynhau mynychu'r gampfa, rhowch gynnig ar ymarfer corff gartref drwy ddefnyddio fideo ar-lein.
- Gallwch dreulio amser yn braslunio, tynnu lluniau a dwdlo.
- Gallwch gael awyr iach drwy eistedd yn eich gardd (os oes gennych chi un) neu hyd yn oed agor ffenest.
Os oes angen cymorth arnoch chi, cofiwch fod yna ystod o wasanaethau sy'n gallu helpu.
Dolenni cymorth defnyddiol eraill:
Cadwch yn gyfoes â'r canllawiau diweddaraf.