Mae myfyrwyr yn gorfod ymdopi’n fwyfwy ar incwm isel iawn. Bydd rheoli eich arian drwy weithio allan beth yw eich cyllideb yn eich helpu i osgoi problemau ariannol. Gallwn gynnig cyngor ar gyllidebu os ydych chi’n ei chael yn anodd cadw trefn ar eich arian, felly siaradwch â chynghorydd. Gallwn eich helpu i wneud y gorau o’ch incwm drwy wybod beth sydd ar gael i chi a sut i reoli eich arian.
Pam cyllidebu:
Gall cyllidebu eich helpu chi i gael darlun clir o’ch amgylchiadau a helpu i sicrhau bod gennych chi ddigon o arian ar gyfer eich anghenion sylfaenol. Gall leihau gwariant mympwyol a’ch helpu i osgoi mynd i ddyled ddiangen. Mae’n eich helpu i nodi ble gallech chi dorri’n ôl os oes angen, ac mewn sefyllfaoedd lle mae arnoch chi arian i eraill, gall eich darparu â gwybodaeth ynglyn â’r hyn y gallwch chi fforddio ei dalu’n ôl.
Sut i gyllidebu:
Mae cyllidebu’n golygu cymryd eich holl incwm (benthyciadau, grantiau, bwrsariaethau, budd-daliadau, gwaith rhan-amser) ac yna gwneud yr un peth â’ch holl wariant. Unwaith y byddwch wedi gweithio allan y ddau ffigwr yma, gallwch weld beth yw’r gwahaniaeth rhyngddyn nhw; oes gennych chi arian dros ben, neu ydych chi’n brin?
Mae myfyrwyr yn gorfod ymdopi’n fwyfwy ar incwm isel iawn. Bydd rheoli eich arian drwy weithio allan beth yw eich cyllideb yn eich helpu i osgoi problemau ariannol. Gallwn gynnig cyngor ar gyllidebu os ydych chi’n ei chael yn anodd cadw trefn ar eich arian, felly siaradwch â chynghorydd. Gallwn eich helpu i wneud y gorau o’ch incwm drwy wybod beth sydd ar gael i chi a sut i reoli eich arian.
Os ydych chi’n brin, mae angen i chi edrych ar ffyrdd o naill ai cynyddu eich incwm neu leihau eich gwariant. Gallwch fwrw golwg dros ein hawgrymiadau ar gyfer gwneud y gorau o’ch cyllideb, yn ogystal â’n hintiau handi i’ch helpu â’ch cyllideb.
Beth am roi cynnig ar ein harf ar-lein Cyfrifiannell Cyllidebu Myfyrwyr (gan UCAS) sydd ar gael yma: https://www.ucas.com/ucas/undergraduate/finance-and-support/budget-calculator.
Dyled
Os yw eich sefyllfa ariannol yn eich gwneud yn ddigalon, a’ch bod yn y coch, ceisiwch beidio mynd i banig. Mae angen i chi benderfynu pa ddyledion sy’n flaenoriaeth a pha rai sydd ddim. Defnyddiwch ein canllawiau isod i’ch helpu chi:
Dyledion sy’n flaenoriaeth a’r rheiny sydd ddim
Dylid talu dyledion blaenoriaeth cyn dyledion eraill. Mae dyledion blaenoriaeth yn cynnwys ôl-ddyledion rhent neu forgais, ôl-daliadau treth y cyngor, dyledion nwy a thrydan, dyledion trwydded teledu, dyfarniadau’r llys sirol, a dirwyon a osodwyd gan Lys Ynadon.
Mae dyledion sydd ddim yn flaenoriaeth yn cynnwys dyledion cardiau siop, gorddrafft, benthyciadau personol heb sicrwydd a’r rhan fwyaf o ddyledion credyd eraill. Dylid talu’r rhain pan fyddwch chi wedi delio â dyledion blaenoriaeth.
Gall dyledion i’r Brifysgol fod yn ddyledion blaenoriaeth os ydyn nhw’n eich atal rhag bwrw ymlaen â’ch cwrs, megis dyledion ffioedd dysgu. Mae gwefan Cyngor Ar Bopeth yn cynnwys arweiniad i wahanol flaenoriaethau dyled yma: Mynnwch help â’ch dyledion, ar gael yn https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/Dyled-ac-arian/help-gyda-dyled/.
Beth sy’n digwydd os nad ydw i’n talu fy nyledion?
Gall anwybyddu unrhyw ddyled arwain at golli’r defnydd o wasanaethau, cynnydd yn y ddyled ar ffurf llog a/neu gostau ychwanegol. Gall eich credydwyr hefyd fynd â chi i’r llys. Os gwneir Dyfarniad Llys Sirol yn eich erbyn, mae’n bosib y cewch chi drafferth cael credyd yn y dyfodol. Os yw eich credydwyr yn mynd â chi i’r llys, dydy hi ddim yn rhy hwyr i gyd-drafod neu gael cyngor.
Os ydych chi’n cael trafferthion â dyled (boed yn y brifysgol neu beidio) cysylltwch â ni ar bob cyfrif, fel y gall un o’n cynghorwyr profiadol eich helpu i gyd-drafod neu edrych ar ffyrdd ymarferol o ymdrin â nhw.
Hefyd, os ydych chi’n fyfyriwr bregus, er enghraifft os oes gennych chi anabledd neu ryw nam arall, cofiwch fod amddiffyniadau mewn lle i’ch helpu chi i sicrhau nad ydych chi’n cael eich gosod dan anfantais gan brosesau casglu dyledion.
Cyngor a Chymorth Undeb Aber
Mae Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber yn annibynnol o’r Brifysgol, ac mae’n darparu gwasanaeth diduedd a chyfrinachol am ddim, i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
Cysylltu  Chynghorydd
Cynhyrchwyd am y tro cyntaf: Ebrill 2022
Adolygwyd: Awst 2024