Beth bynnag yw eich clwb, cymdeithas neu adran, fe allwn ni eich darparu â Bysiau Mini er mwyn sicrhau llwyddiant eich trip.
Ynglyn â’r Fflyd:
Yma yn UMAber mae gennym fflyd o 4 bws mini o’r radd flaenaf. Mae pob un o’n bysiau mini yn rhai 14 sedd (1 gyrrwr, 13 teithiwr)
Bysiau Mini Ford Transit 2.2 Litr TDCi.
![](/pageassets/bwsmini/minibusses1.jpg)
Mae ein fflyd yn derbyn gwasanaeth bob 10 wythnos er mwyn sicrhau eich bod yn cael siwrnai gyfforddus. Hyd yn oed petai’r gwaethaf yn digwydd, mae gennym yswiriant torri i lawr hawdd i’w ddefnyddio a fyddai’n trwsio’r cerbyd mewn dim, neu’n anfon cerbyd arall o fewn 2 awr i’ch dychwelyd adref.
Rydym yn elusen nid-er-elw, felly byddai unrhyw gostau yn cael eu mewnbynnu’n ôl yn syth ar gyfer cynnal y fflyd a phrofiad y Myfyrwyr.
Dreifio Bws Mini:
Er mwyn gallu dreifio bws mini mae’n rhaid i chi fod yn o leiaf 21 oed a bod â thrwydded yrru UE llawn ac yn lân.
Hurio Bws Mini:
Os ydych yn dymuno hurio bws mini mae’n rhaid ichi fod yn glwb, yn gymdeithas neu’n adran o fewn yr Undeb/y Brifysgol neu yn sefydliad elusennol, sefydliad addysg neu’n sefydliad nid-er-elw.
O ddydd Mercher 24ain Medi 2014 ymlaen, ni ellir bwcio Bws Mini ar-lein. Gwenir hynny drwy ymweld a'r Gweinyddwr Cymdeithasau a Gwirfoddoli yn yr Undeb.
Mae ein bysiau mini yn KBE, RLV, OEP a OES.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau o gwbl, peidiwch â bod ofn cysylltu ar union.minibus@aber.ac.uk.
|