Ar y 2il Ebrill cynhaliwyd Gwobrau Staff a Myfyrwyr blynyddol UM Aber. Roedd y noson yn gyfle i UM Aber ddathlu a diolch i aelodau staff, myfyrwyr wirfoddolwyr ac adrannau eithriadol sy’n gwneud Aberystwyth yn wych.
Dyma 8fed blwyddyn y gwobrau, ac rydym yn falch o fod wedi derbyn 280 o enwebiadau, yn amrywio o fyfyrwyr yn enwebu eu darlithwyr i gyd-fyfyrwyr yn enwebu eu cynrychiolwyr academaidd.
Caiff pawb sy'n cyrraedd y rhestr fer a hefyd yr enillwyr, eu dethol gan fyfyrwyr Aberystwyth - mae'r holl broses, o'r enwebiad i'r cyflwyniad, dan arweiniad myfyrwyr.
Roedd pymtheg o gategorïau yn y gwobrau eleni, yn cydnabod staff, gwirfoddolwyr a chynrychiolwyr academaidd mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd ar draws y brifysgol.
Enillwyr eleni oedd:
Gwobr Cam Nesaf
Ian Harris (Busnes)
Swyddog Gwirfoddol y Flwyddyn
Joao Louro (IBERS)
Athro Ôl-raddedig y Flwyddyn
Angharad Ffion James (Cyfraith a Throseddeg)
Goruchwyliwr y Flwyddyn
Karl Hoffmann (IBERS)
Gwobr Adborth Eithriadol
Simon Payne (IBERS)
Myfyriwr-fentor y Flwyddyn
Panna Karlinger (Adran Fathemateg)
Tiwtor Personol y Flwyddyn
Andrew Evans (Adran Ffiseg)
Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg
John Davies (IBERS)
Myfyriwr-wirfoddolwr y Flwyddyn
Robin Church (Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear)
Aelod Staff Ategol / Gwasanaeth y Flwyddyn
Doug Kerr (Gwasanaeth Cymorth Myfyrwyr)
Cynrychiolydd Academaidd y Flwyddyn
Aaron Phillips (Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu)
Darlithydd y Flwyddyn
Deena Bhoyroo (Mauritius)
Gwobr Arwain Cydraddoldeb
Adam Vellender (Adran Fathemateg)
Clod Arbennig
Kathy Hampson (Cyfraith a Throseddeg)
Adran y Flwyddyn
Seicoleg
Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi ymwneud â threfnu'r digwyddiad, y rheiny a gyrhaeddodd y rhestr fer a'r enillwyr.
Mae ffotograffau swyddogol wedi'u hychwanegu at dudalen Facebook UMAberSU felly ewch i edrych, tagiwch eich hun neu eich adran!