Gwneud newid gwirioneddol yw pwrpas ymgyrchoedd yn yr Undeb, y Brifysgol neu yn y gymuned ehangach. Gall y newid hynny fod yn fach neu’n fawr – y cwbl sydd angen yw eich bod yn angerddol am ei gyflawni. Ac rydyn ni yma i helpu.
Mae gennym ystod o ddeunyddiau am ddim:
- Paent / Brwshys Paent / Hambwrdd Paent (ystod o liwiau)
- Marcwyr Parhaol (ystod o liwiau)
- Marcwyr Bwrdd Gwyn (ystod o liwiau)
- Glud PVA
- Calch Mawr
- Megaffon
- High Vis
- Blw-Tac
- Llinynnau
- Guillotine
- Offer Gwneud Bathodynnau
I archebu, e-bostiwch llaisum@aber.ac.uk gyda’ch enw, nod eich ymgyrch a'r dyddiad/amser rydych chi eu hangen.
I gael offer technegol ee taflunydd neu dabled gellir eu llogi oddi wrth y Gwasanaethau Gwybodaeth.
Mae gennym staff cymorth penodol a all gyflwyno hyfforddiant ar ymgyrchu am ddim, bydd pob sesiwn hyd at un awr ac mae’n bosib eu cyflwyno wyneb-yn-wyneb neu ar-lein.
- Cryfhau eich llai a chreu newid: Hyfforddiant Ymgyrchu
- Strwythurau Democrataidd a Gwneud Penderfyniadau UMAber
I archebu sesiwn, e-bostiwch llaisum@aber.ac.uk .
Yn anffodus, ni allwn gynnig noddi ar hyn o bryd. Os oes angen cymorth, cysylltwch â llaisum@aber.ac.uk.
Ystafelloedd yr Undeb
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol neu i archebu ystafelloedd yr Undeb, e-bostiwch Dderbynfa’r Undeb (undeb@aber.ac.uk). Dyma’r ystafelloedd sydd ar gael a’u maint mewn cromfachau:
- Main Room (lawrlwytho’r ffurflen archebu yma) [78 pan gaiff ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau, neu hyd at 500 pan yn ei defnyddio ar gyfer lletygarwch]
- Picture House (Dim archebu cyn 4yh ac ar gyfer archebion sy’n cyd-fynd â chynllun yr ystafell) [36]
- Ystafelloedd Cyfarfod 1&4 [20] + 2&3 [8]
Cofiwch gynnwys y manylion isod pan yn archebu:
-
Enw eich ymgyrch
-
Yr ystafell rydych chi eisiau
-
Enw ac e-bost y person sy’n archebu
-
Y Dyddiad ac amserau hoffech chi’r ystafell
-
Faint o bobl rydych chi’n disgwyl dod
-
Diben eich archeb(ee cynllunio ymgyrch, dangos ffilm, cymdeithasu, ayyb.)
Yn ystod y tymor hwn, gellir archebu ystafell rhwng 9yb ac 11yh Llun-Sad,a rhwng 11yb ac 11yh ar ddydd Sul.
Rydyn ni hefyd yn cynnig y cyfle i ymgyrchwyr gynnal stondin yn yr Undeb, fel arfer mae myfyrwyr yn defnyddio’r cyfle hwn i godi arian (ee gwerthu cacennau ac ati). Gellir hefyd archebu hyn trwy Dderbynfa’r Undeb.
Ystafelloedd y Brifysgol a Chanolfan y Celfyddydau
Mae gan y Brifysgol ystod eang o ystafelloedd i’w harchebu, cliciwch yma i weld popeth sydd ar gael.
Mae gan Ganolfan y Celfyddydau hefyd ystod o ofodau ar gael i grwpiau eu defnyddio. Cysylltwch yn uniongyrchol â Chanolfan y Celfyddydau gan e-bostio artsadmin@aber.ac.uk
Oherwydd ein bod ni’n gweithio fel elusen, mae hyn yn golygu bod rhaid i ni ddilyn canllawiau penodol pan yn codi arian dros sefydliadau elusennol, gweler ein canllaw hanfodol yma.
- Mae bwcedi rhodd mawr a thuniau casglu arian bach ar gael. I’w defnyddio e-bostiwch undeb@aber.ac.uk
- Mae Darllenydd Cerdyn Sum-Up ar gael i’w defnyddio ar gyfer taliadau cerdyn trwy’r wifi. I’w ddefnyddio e-bostiwch undeb@aber.ac.uk