Os ydych chi am wirfoddoli yn ystod eich amser yma yn Aberystwyth, yna dyma’r lle i chi! Un a ydych chi eisiau gwirfoddoli’n rheolaidd yn y gymuned, diwrnod gweithredu untro neu brosiect myfyriwr; nid oes diffyg cyfleoedd i chi!
Mae UMAber yn diffinio gwirfoddolwyr myfyrwyr fel unrhyw un sy’n rhoi amser o’u gwirfodd mewn rôl ddi-dâl i helpu eraill (megis myfyrwyr, neu’r gymuned), dros achos da, a/neu yr amgylchedd. Fel gwirfoddolwr, rydych chi wir yn gallu gwneud gwahaniaeth, a does dim curo’r teimlad cynnes o wybod eich bod chi wedi helpu rhywun neu rywbeth!
Gennych chi mae’r dewis o ran y fath o wirfoddoli neu’r amser rydych chi’n rhoi y tu allan o’ch astudiaethau. Ond cewch chi ddewis mwy nag un cyfle gwirfoddol. Po fwyaf rydych chi’n ei wneud, po fwyaf y buddion y byddwch chi’n eu hennill!
Rhesymau dros wirfoddoli
Gall gwirfoddoli roi teimlad o foddhad a gwneud gwahaniaeth yn ogystal â bod yn gyfle gwych i chi ddatblygu’n bersonol y tu hwnt i'ch astudiaethau.
Dyma’n pum prif reswm dros wirfoddoli:
- Gwneud gwahaniaeth i rywbeth sy'n bwysig i chi
- Ennill neu ddatblygu sgiliau, gwybodaeth, profiad
- Rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol neu wneud rhywbeth dydych chi erioed wedi'i wneud o'r blaen
- Gwella’ch CV a'ch cyflogadwyedd
- Ennill achrediad neu gydnabyddiaeth (Gwobr Aber)
Oes angen help?